Cynorthwyo ceiswyr gwaith sy'n deisyfu cael swydd gyflogedig

URN: SKA SE02
Sectorau Busnes (Suites): Cyflogaeth gyda Chefnogaeth
Datblygwyd gan: BASE
Cymeradwy ar: 23 Gorff 2017

Trosolwg

Safon ar gyfer beth yw hon?

Mae'r safon hon yn ymwneud â galluogi'r bobl hynny sydd ag anableddau a/neu anfanteision i godi eu dyheadau ac i wneud penderfyniadau gwybodus am gyflogaeth. Mae hefyd yn nodi sut mae'r ymarferydd cyflogaeth gyda chefnogaeth yn gweithio gyda theuluoedd, cymunedau a phartneriaid eraill i fynd i'r afael â'u pryderon ac i alluogi ceiswyr gwaith posibl i godi eu dyheadau o ran gwaith.

Yng nghyd-destun y safon hon, mae'r term 'ceisiwr gwaith' yn golygu unigolyn sy'n chwilio am gyflogaeth gyda chefnogaeth o ryw fath. 

* *

* *

Ar gyfer pwy mae'r Safon?

* *

Mae'r safon ar gyfer pawb sy'n gweithio ym maes cyflogaeth gyda chefnogaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. gweithio gydag unigolion, gwasanaethau lleol a chymunedau sy'n ymwneud â phobl anabl a/neu dan anfantais a allai elwa o gael swydd gyflogedig neu sy'n anelu at hynny
 
  1. darparu gwybodaeth hwylus ynglŷn ag effaith gymdeithasol ac ariannol bod mewn gwaith, gan gynnwys cyfrifiadau gwell eu byd, ar gyfer ceiswyr gwaith i'w galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus am swyddi
 
  1. ymgysylitu â theuluoedd, sefydliadau cefnogol yn y gymuned, ac unigolion all ddylanwadu ar ddyheadau a dewisiadau ceiswyr gwaith

4.  datblygu partneriaethau, rhwydweithiau a chylchoedd cefnogaeth i ddatblygu a chefnogi dyhead yr unigolyn i weithio a chael gyrfa

 
  1. ymdrin â phryderon ceiswyr gwaith, eu teuluoedd a chylchoedd cefnogaeth ynglŷn â darpar geisiwr gwaith yn mynd i swydd gyflogedig
 
  1. eirioli ar ran y ceiswyr gwaith ymysg eu teuluoedd, cyflogwyr, ac eraill sydd â diddordeb **
 
  1. trefnu treialon gwaith fel bod cyflogwyr a darpar geiswyr gwaith yn gallu penderfynu a fyddai anghenion y ddwy ochr yn cael eu bodloni trwy gyflogaeth gyda chefnogaeth

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. am yr ystod o wasanaethau a chymunedau lleol sy'n ymwneud â phobl gydag anabledd a/neu anfanteision a allai elwa o gael cyflogaeth gyda chefnogaeth neu sy'n deisyfu hynny

  2. am y math o wybodaeth hwylus all fod ar gael ar gyfer pobl gydag anghenion penodol, ac ymha gyfryngau mae i'w chael

  3. sut i ymgysylltu â​ cheiswyr gwaith, eu teuluoedd, sefydliadau cefnogaeth gymunedol ac unigolion er mwyn hybu'r dyhead i gael gwaith a gwella gyrfa

  4. gwerth partneriaethau, rhwydweithiau a chylchoedd cefnogaeth i geisiwr gwaith, a sut i'w meithrin

  5. pam y gallai ceiswyr gwaith, eu teuluoedd ac eraill sydd â diddordeb ynddynt fod yn pryderu am y ceisiwr gwaith posibl yn cymryd gwaith cyflogedig a sut i oresgyn yr ofnau hynny

  6. pam fod eirioli ar ran ceiswyr gwaith weithiau'n angenrheidiol

  7. gwerth trefnu treialon gwaith ar gyfer rhai ceiswyr gwaith yn ôl yr angen

  8. effaith ariannol a chymdeithasol bod mewn gwaith cyflogedig


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd

Er mwyn i berson sy'n gweithio ym maes cyflogaeth gyda chefnogaeth fod yn gymwys i wneud y gwaith, rhaid iddo ddefnyddio sgiliau a gwybodaeth sy'n seiliedig ar werthoedd arbennig.  Mae disgwyl i ymarferwyr ym maes cyflogaeth gyda chefnogaeth fod yn ymwybodol o ac i fabwysiadu dull o weithio sy'n ddibynnol ar werthoedd a moeseg. Cydnabyddir hefyd y gallai fod angen gosod y gwerthoedd, yn ogystal â'r NOS, o fewn y cyd-destun lleol, cenedlaethol, cymdeithasol a gwleidyddol lle cyflawnir y gweithgareddau cyflogaeth gyda chefnogaeth.

Mae ymarferwyr cyflogaeth gyda chefnogaeth yn dilyn yr athroniaeth:

  1. Y gall pobl gydag anableddau a/neu anfanteision wneud cyfraniad cadarnhaol yn y gweithle.

  2. Y dylai pobl gydag anableddau a/neu anfanteision gael mynediad at swyddi go iawn sy'n

​• talu cyflog ar y raddfa arferol am y math hwnnw o waith

• galluogi'r person a gyflogir i gael yr un telerau ac amodau â gweddill y gweithlu

• golygu fod y swydd yn helpu'r person i wireddu ei amcanion a'i ddyheadau

• swydd a werthfawrogir gan reolwyr a chydweithwyr

• gofyn am yr un oriau ac amseroedd gwaith â gweddill y gweithlu, gydag amodau gwaith diogel.

  1. Bod ymarferwyr yn glynu at yr athroniaeth 'dim gwrthodiad' o ran cyflogaeth gyda chefnogaeth, fel y gall unrhyw un sydd eisiau gweithio fod mewn gwaith, gyda'r swydd iawn a chefnogaeth addas.

  2. Nad ydy cyflogaeth gyda chefnogaeth yn glynu at fodel o fod yn barod at waith, ond yn hytrach ddilyn trefn o 'leoli, hyfforddi a chynnal'.

  3. Y dylid chwilio am waith cyn gynted ag y bo modd.

  4. Bod pobl yn cael eu hannog i ddewis drostynt eu hunain, a bod â rheolaeth wrth geisio gwireddu eu dyheadau gyrfa.  Dylai pob cefnogaeth fod yn addas i'r unigolyn, gan gymryd yn ganiataol fod pob opsiwn yn arwain at gyflogadwyedd llwyddiannus.

  5. Bod yna bartneriaeth wirioneddol rhwng yr unigolyn, ei ofalwyr teuluol, cyflogwyr, cefnogwyr cymunedol a'r darparwr cyflogaeth gyda chefnogaeth.

  6. Bod pobl yn cael cefnogaeth i fod yn aelodau llawn a gweithredol o'u gweithluoedd a chymunedau ehangach, yn gymdeithasol ac yn economaidd.

  7. Bod gwasanaethau cefnogaeth yn cydnabod pwysigrwydd y cyflogwr fel cwsmer cyflogaeth gyda chefnogaeth yn ei hawl ei hun, a bod ganddo ofynion sy'n rhaid eu bodloni.

  8. Bod cyflogaeth gyda chefnogaeth yn gwneud defnydd o Sefydlu Gwerth Swyddogaeth Gymdeithasol (SRV) gan gydnabod fod gweithio yn rôl gymdeithasol werthfawr, a bod cael eich cyflogi yn gallu gwyrdroi dibrisiant cymdeithasol, a sicrhau canlyniadau cadarnhaol i'r unigolyn dan sylw.

  9. Bod cyflogaeth gyda chefnogaeth yn defnyddio'r model cymdeithasol o anabledd, gan gydnabod fod anabledd yn gynnyrch y rhwystrau corfforol, sefydliadol ac agwedd a geir o fewn cymdeithas.  Er mwyn diddymu gwahaniaethu, mae angen newid agwedd a ffordd o feddwl yn y modd y trefnir cymdeithas, gan ddileu rhwystrau i gyflogaeth yn yr achos hwn.

  10. Y dylai cyflogaeth gyda chefnogaeth ysgogi datblygiad gyrfa unigolion drwy gynnig cyfleoedd am hyfforddiant, a chwilio am agoriadau ar gyfer cynyddu cyfrifoldeb


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Eiriolwr: Er mwyn cefnogi neu amddiffyn hawliau'r ceisiwr gwaith.

Cyfrifiadau gwell eu byd: Mae hwn yn gyfrifiad sy'n anelu at ddangos i geiswyr gwaith a fyddant yn well eu byd yn y gwaith nag wrth fyw ar fudd-daliadau lles. Bydd yn ystyried maint yr incwm o fudd-daliadau a'r swm o arian y gallant ei ennill mewn gwaith cyflogedig, ynghyd ag unrhyw fudd-daliadau lles y gallant eu derbyn yn y gwaith, gan ddangos a fyddant yn well eu byd yn mynd i waith cyflogedig.

Cylchoedd cefnogaeth: Mae Cylch Cefnogaeth yn grŵp o bobl sy'n helpu rhywun i gyflawni ei amcanion personol mewn bywyd. Cânt eu defnyddio'n aml ar gyfer cynllunio person-ganolog, gyda'r Cylch yn gweithredu fel cymuned o amgylch yr unigolyn hwnnw (yr 'unigolyn ffocws') sydd, am ba bynnag reswm, yn methu cyflawni'r hyn y mae eisiau mewn bywyd ar ei ben ei hun ac yn penderfynu gofyn i eraill am gymorth.

Cyflogaeth gyda Chefnogaeth: Cyflogaeth gyda chefnogaeth yw'r term ar gyfer cefnogaeth o ansawdd uchel, sydd wedi'i deilwrio'n benodol ar gyfer pobl ag anableddau a/neu anfanteision, sy'n eu galluogi i geisio, cyrchu a chadw cyflogaeth yn y farchnad lafur agored.   Mae'r patrwm o weithredu sy'n 'lleoli, hyfforddi a chynnal' yn un nad yw'n dibynnu ar gyfnodau hir o hyfforddiant cyn-alwedigaethol na lefel sylfaenol o gymhwyster neu brofiad.

Treialon gwaith:  Diffinnir treial gwaith fel profiad pwrpasol, penodol i unigolyn o fewn gweithle mewn maes galwedigaethol arbennig.  Gall treialon barhau am ychydig oriau neu ychydig ddyddiau, gan eu cynllunio i helpu ceiswyr gwaith wneud penderfyniadau gwybodus am eu gyrfa.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol

British Association for Supported Employment:

http://base-uk.org ar gyfer Lloegr, yr Alban a Chymru

 

Scottish Union of Supported Employment:

http://www.susescotland.co.uk/

 

Northern Ireland Union of Supported Employment:

http://www.niuse.org.uk

 

European Union of Supported Employment:

http://www.euse.org​


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

23 Gorff 2020

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

LSIS

URN gwreiddiol

LSI SE03

Galwedigaethau Perthnasol

Ymarferwyr Cyflogaeth gyda Chefnogaeth, Hyfforddwyr Swyddi, Cynghorwyr Gyrfa ac Arbenigwyr Cyfarwyddyd Galwedigaethol, Rheolwyr Llinell, Goruchwylwyr ac Arweinyddion Tîm, Gweithwyr Cyswllt Iechyd, Gweithwyr Lles

Cod SOC


Geiriau Allweddol

Cyflogaeth gyda Chefnogaeth