Arwain a symbylu gwirfoddolwyr
Trosolwg
Mae’r uned hon yn ymwneud ag arwain a symbylu gwirfoddolwyr.
Mae’n cynnwys rhoi gwybod i wirfoddolwyr am eu gweithgareddau a’u cyfrifoldebau; eu cefnogi yn ystod gweithgareddau gwirfoddoli; a thrafod gweithgareddau a chyfnewid adborth gyda gwirfoddolwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Hysbysu gwirfoddolwyr am eu gweithgareddau a’u cyfrifoldebau
P1 dewis amseroedd a lleoedd priodol i hysbysu gwirfoddolwyr am eu gweithgareddau a’u cyfrifoldebau
P2 esbonio diben a gwerth y gweithgareddau rydych chi am i wirfoddolwyr eu gwneud a’u hannog i gyflawni safonau uchel
P3 annog a chefnogi gwirfoddolwyr i ddwyn perchnogaeth dros y gweithgareddau ac i awgrymu ffyrdd o weithio sy’n briodol i’w hanghenion, eu galluoedd a’u potensial amrywiol
P4 annog a chefnogi gwirfoddolwyr i nodi unrhyw risgiau neu anawsterau posibl a chymryd camau priodol i leihau eu tebygolrwydd/eu heffaith a gwneud cynlluniau i ddelio â nhw, os byddant yn codi
P5 cytuno ar gyfrifoldebau unigol a ffyrdd o weithio gyda phob gwirfoddolwr a gwneud yn siŵr eu bod yn deall beth y disgwylir ohonynt a’u bod yn hyderus i ymgymryd â’r cyfrifoldebau hyn
P6 cytuno â phob gwirfoddolwr ar gyfyngiadau eu cyfrifoldebau, gan bennu unrhyw beth na allant ei wneud yn glir
P7 cytuno gyda gwirfoddolwyr ar sut y dylent gyfathrebu â chi a chyda’i gilydd
P8 cyfathrebu’n glir ac yn effeithiol gyda gwirfoddolwyr bob amser, mewn ffyrdd sy’n bodloni eu hanghenion unigol ac sy’n dangos parch tuag at eu rôl wirfoddol
Cefnogi gwirfoddolwyr yn ystod gweithgareddau gwirfoddoli
P9 monitro gweithgareddau gwirfoddoli i sicrhau eu bod yn symud ymlaen yn foddhaol
P10 darparu adborth i wirfoddolwyr a’u hannog i barhau â’u gweithgareddau yn llwyddiannus
P11 darparu cymorth i helpu gwirfoddolwyr i oresgyn anawsterau, os bydd angen
P12 hyrwyddo diwylliant lle na chaiff unigolion y bai am anawsterau, ond bod y rhain yn cael eu hystyried yn gyfle i ddysgu
P13gweithio gyda gwirfoddolwyr a phobl eraill sy’n gysylltiedig i nodi atebion sy’n dderbyniol iddyn nhw ac sy’n cyd-fynd ag amcanion, polisïau a gweithdrefnau eich sefydliad
Trafod gweithgareddau a chyfnewid adborth gyda gwirfoddolwyr
P14 dewis amseroedd a lleoedd priodol i drafod gweithgareddau a chyfnewid adborth gyda gwirfoddolwyr
P15 esbonio diben y drafodaeth yn glir ac annog cyfathrebu agored a gonest
P16 annog a chynorthwyo gwirfoddolwyr i fyfyrio ar eu gweithgareddau a darparu adborth gwrthrychol i chi
P17rhoi gwerthusiad gwrthrychol a chytbwys i wirfoddolwyr o’u gweithgareddau
P18 cydnabod a dathlu cyflawniadau’r gwirfoddolwyr er mwyn eu hannog a’u symbylu
P19 darparu awgrymiadau adeiladol i wella effeithiolrwydd gwirfoddolwyr a chytuno ar y rhain gyda’r gwirfoddolwyr cysylltiedig
P20 nodi ymhle y gall fod angen cymorth ychwanegol ar wirfoddolwyr a’i ddarparu, lle y bo’n briodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Rheoli gweithgarwch a phrosiectau
K1 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau cydlynu
K2 gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer iechyd a diogelwch
K3 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau monitro
K4 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau gosod amcanion
K5 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau sicrhau ansawdd a gwelliant parhaus
K6 dulliau, adnoddau a thechnegau gwaith
Dadansoddi, cyfrifo a gwneud penderfyniadau
K7 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau gwerthuso
K8 gofynion cyfreithiol a sefydliadol sy’n berthnasol i reoli risg
K9 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau datrys problemau
K10 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau rheoli risg
Gwybodaeth a chyfathrebu
K11 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau briffio ac ôl-drafod
K12 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau cyfathrebu
K13 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau rhannu gwybodaeth K14 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau cwestiynu
Rheoli pobl
K15 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau ymgynghori
K16 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau dirprwyo
K17 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau amrywiaeth
K18 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau cydraddoldeb
K19 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau adborth
K20 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau rheoli adnoddau dynol
K21 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau dylanwadu
K22 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau cyfarwyddyd
K23 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau arwain
K24 cyfleoedd dysgu a datblygu sydd ar gael
K25 gofynion cyfreithiol a sefydliadol sy’n berthnasol i reoli adnoddau dynol
K26 gofynion cyfreithiol a sefydliadol sy’n berthnasol i gynnwys gwirfoddolwyr
K27 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau symbylu
K28 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau ar gyfer asesu perfformiad pobl
K29 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau goruchwylio
K30 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau cymorth
K31 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau gweithio mewn tîm
K32 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau rheoli gwirfoddolwyr
Cyd-destun gwaith
K33 codau ymarfer a safonau perfformiad a ddisgwylir gan wirfoddolwyr K34 polisïau a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol
K35 diwylliant, gwerthoedd ac ethos eich sefydliad
K36 gweledigaeth, cenhadaeth ac amcanion strategol eich sefydliad
K37 gwirfoddolwyr eich sefydliad a’u diddordebau, anghenion, galluoedd a blaenoriaethau amrywiol
K38 eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch cymhwysedd, a chyfyngiadau’r rhain
K39 eich rôl a’ch cyfrifoldebau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
1. Addasrwydd ac arloesi
1.1. ymrafael â galwadau lluosog heb golli ffocws nac egni
1.2. manteisio ar y cyfleoedd y mae amrywiaeth yn eu cynnig
1.3. gweithio i droi digwyddiadau annisgwyl yn gyfleoedd yn hytrach nag yn fygythiadau
1.4. ymateb yn gyflym i argyfyngau a phroblemau gyda dull gweithredu arfaethedig
1.5. adnabod newidiadau mewn amgylchiadau yn brydlon ac addasu cynlluniau a gweithgareddau yn unol â hynny
1.6. cynhyrchu ac adnabod datrysiadau dychmygus ac arloesol
1.7. rhoi cynnig ar ffyrdd newydd o weithio
2. Cyfathrebu
2.1 nodi anghenion gwybodaeth pobl
2.2 gwrando’n weithgar, gofyn cwestiynau, egluro pwyntiau ac aralleirio datganiadau pobl eraill i wirio bod pawb yn deall
2.3 nodi’r cyfryngau a’r arddulliau cyfathrebu sy’n well gan bobl
2.4 mabwysiadu cyfryngau ac arddulliau cyfathrebu sy’n briodol i bobl ac i sefyllfaoedd
2.5 cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo dealltwriaeth
2.6 rhoi gwybod i bobl am gynlluniau a datblygiadau
2.7 cadarnhau dealltwriaeth pobl trwy gwestiynu a dehongli arwyddion dieiriau
2.8 annog pobl i ofyn cwestiynau neu aralleirio datganiadau i gadarnhau ac egluro eu dealltwriaeth
3. Pryder tuag at eraill
3.1 dangos empathi tuag at anghenion, teimladau a symbyliadau pobl eraill a dangos diddordeb gweithgar yn eu pryderon
3.2 rhyddhau amser i gefnogi pobl eraill
3.3 dangos parch tuag at safbwyntiau a gweithredoedd pobl eraill
3.4 annog a chynorthwyo pobl eraill i wneud y defnydd gorau o’u galluoedd
3.5 annog a chynorthwyo pobl eraill i wneud penderfyniadau’n annibynnol
3.6 rhoi adborth i bobl eraill i’w helpu i wella’u perfformiad
3.7 cynorthwyo pobl eraill i gyflawni eu dyheadau personol
3.8 cydnabod cyflawniadau a llwyddiannau pobl eraill
4. Awydd i ddysgu
4.1 datblygu’ch hun ac eraill i fodloni gofynion sefyllfaoedd sy’n newid
5. Safiad moesegol
5.1. cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol, a sicrhau bod pobl eraill yn cydymffurfio â’r rhain
5.2. gweithredu o fewn cyfyngiadau eich awdurdod
5.3. gweithredu i amddiffyn iechyd, diogelwch a lles pobl eraill
5.4. gweithredu i gynnal hawliau unigolion
6. Canolbwyntio ar ganlyniadau
6.1 gosod amcanion beichus ond posibl i chi’ch hun ac i eraill
6.2 blaenoriaethu amcanion ac amserlenni gwaith er mwyn gwneud y defnydd gorau o amser ac adnoddau
6.3 cyfrifo risgiau’n gywir, a darparu fel nad yw digwyddiadau annisgwyl yn rhwystro cyflawni amcanion
6.4 cymryd cyfrifoldeb personol am wneud i bethau ddigwydd
6.5 datgan yn glir beth sy’n ofynnol gan eraill a’u dwyn i gyfrif
6.6 gwirio ymrwymiad unigolion i’w rolau mewn dull gweithredu penodol
6.7 amddiffyn eich gwaith chi a gwaith pobl eraill rhag effeithiau negyddol
6.8 monitro ansawdd gwaith a chynnydd yn erbyn cynlluniau
6.9 hoelio sylw personol ar fanylion penodol sy’n hanfodol i gyflawni canlyniadau llwyddiannus
6.10 ymfalchïo mewn cyflawni gwaith cywir, o ansawdd uchel
7. Rheoli gwybodaeth
7.1 defnyddio dulliau cost effeithiol ac amser effeithiol i gasglu, storio ac adalw gwybodaeth
7.2 gwneud y defnydd gorau o ffynonellau gwybodaeth presennol
7.3 cadw gwybodaeth gyfrinachol yn ddiogel
8. Grym perswâd
8.1 ceisio deall anghenion a symbyliadau pobl
8.2 cyflwyno eich hun yn gadarnhaol i bobl eraill
8.3 datgan eich barn, eich safbwyntiau a’ch gofynion eich hun yn glir
8.4 nodi gwerth a buddion dull gweithredu arfaethedig i bobl yn glir
8.5 cyflwyno gwybodaeth a dadleuon yn argyhoeddiadol ac mewn ffyrdd sy’n taro tant gyda phobl
8.6 defnyddio tystiolaeth ffeithiol i gefnogi dadleuon
8.7 creu ymdeimlad o ddiben cyffredin
8.8 ysbrydoli eraill, gan hyrwyddo gwaith i gyflawni nodau cyffredin
8.9 mynegi gweledigaeth realistig sy’n cynhyrchu cyffro, brwdfrydedd ac ymrwymiad
9. Rheoli perthnasoedd
9.1 annog cyfnewid gwybodaeth ac adnoddau yn rhydd ac yn gytbwys
9.2 gweithio i ddatblygu awyrgylch o broffesiynoldeb a chefnogaeth gan y naill tuag at y llall
9.3 egluro eich disgwyliadau eich hun a disgwyliadau pobl eraill o berthnasoedd
9.4 modelu ymddygiad sy’n dangos parch, defnyddioldeb a chydweithredu
9.5 gweithredu’n amserol i ddatrys anghytundebau
9.6 adnabod lle mae gwrthdaro, cydnabod teimladau a safbwyntiau pob parti, ac ailgyfeirio egni pobl tuag at nod cyffredin
10. Meddwl a gwneud penderfyniadau
10.1 nodi’r ystod o elfennau mewn sefyllfa a sut maent yn perthyn i’w gilydd
10.2 nodi goblygiadau neu ganlyniadau sefyllfa
10.3 defnyddio eich profiad eich hun a phrofiad pobl eraill i ddeall sefyllfa
10.4 gwneud penderfyniadau amserol sy’n realistig i’r sefyllfa