Rheoli recriwtio a lleoli gwirfoddolwyr
Trosolwg
Mae’r uned hon yn ymwneud â rheoli recriwtio a lleoli gwirfoddolwyr. Mae hyn yn cynnwys pennu rolau gwirfoddolwyr a’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sy’n ofynnol; goruchwylio recriwtio a lleoli gwirfoddolwyr; a chytuno ar ddisgwyliadau o’r naill ochr gyda gwirfoddolwyr.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Diffinio rolau gwirfoddolwyr a’r wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sy’n ofynnol
P1 cynnwys pobl sydd â gwybodaeth ac arbenigedd perthnasol wrth ddiffinio rolau gwirfoddolwyr
P2 nodi’r cyfraniadau y gall gwirfoddolwyr eu gwneud i nodau eich sefydliad
P3 nodi rolau sy’n addas i wirfoddolwyr sydd ag amrywiaeth eang o alluoedd, arddulliau a symbyliadau
P4 nodi buddion posibl rolau i wirfoddolwyr
P5 sicrhau bod asesiadau risg yn cael eu cyflawni ar gyfer rolau gwirfoddolwyr
P6 sicrhau nad yw rolau ar gyfer gwirfoddolwyr yn tanseilio nac yn cymryd lle gwaith unrhyw staff â thâl, ac i’r gwrthwyneb
P7 paratoi disgrifiadau rôl ar gyfer rolau arfaethedig gwirfoddolwyr, sy’n
P7.1 nodi rôl, cyfrifoldebau a pherthnasoedd gwaith y rôl yn glir
P7.2 diffinio cyfyngiadau rôl y gwirfoddolwr yn glir
P8 paratoi manylebau gwirfoddolwyr ar gyfer rolau arfaethedig gwirfoddolwyr, sy’n
P8.1 nodi’r wybodaeth, y sgiliau, y profiad, y rhinweddau personol a’r argaeledd sy’n ofynnol yn glir
P8.2 pennu unrhyw ffactorau a fyddai’n eithrio pobl benodol rhag cael eu hystyried ar gyfer y rôl yn glir
P8.3 datgan unrhyw eirdaon neu wiriadau swyddogol a fydd yn cael eu cynnal ar ymgeiswyr i’r rôl
P9 sicrhau bod disgrifiadau rôl a manylebau gwirfoddolwyr
P9.1 yn ddigon eang a hyblyg i gynnwys gwirfoddolwyr ag anghenion, galluoedd a blaenoriaethau amrywiol
P9.2 cydymffurfio â deddfwriaeth a pholisïau sefydliadol perthnasol
P10 defnyddio disgrifiadau’r rôl a manylebau’r gwirfoddolwyr i sefydlu meini prawf clir a theg i’w defnyddio i asesu addasrwydd darpar wirfoddolwyr
Goruchwylio recriwtio a lleoli gwirfoddolwyr
P11 sicrhau bod prosesau’n cael eu defnyddio i ddenu gwirfoddolwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd a galluoedd
P12 sicrhau bod darpar wirfoddolwyr yn cael gwybod am
P12.1 y rolau gwirfoddol rydych chi’n recriwtio iddynt a’r gweithgareddau sydd ynghlwm
P12.2 sut mae’r rolau gwirfoddol yn cyfrannu at nodau strategol
P12.3 buddion posibl y rolau gwirfoddol i’r gwirfoddolwyr eu hunain
P12.4 y wybodaeth, y sgiliau, y profiad, y rhinweddau personol a’r argaeledd sy’n ofynnol
P12.5y broses ymgeisio a dewis
P12.6 unrhyw ofynion hyfforddi gorfodol
P12.7 unrhyw ffactorau a fyddai’n eu heithrio rhag cael eu hystyried ar gyfer rolau gwirfoddol penodol
P12.8 unrhyw eirdaon neu wiriadau swyddogol fydd yn cael eu cyflawni ar ymgeiswyr i’r rôl
P12.9 yr ymrwymiad y byddai angen iddynt ei wneud
P13 sicrhau bod dulliau asesu a dewis yn cael eu safoni ar gyfer pob rôl wahanol a bod meini prawf sefydledig, teg a chlir yn cael eu defnyddio i asesu addasrwydd gwirfoddolwyr
P14 sicrhau bod geirdaon a gwiriadau swyddogol yn cael eu cynnal, lle bynnag y bo angen
P15 sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cael eu gosod mewn rolau gwirfoddol addas
P16sicrhau bod adborth perthnasol yn cael ei roi i ymgeiswyr nad ydynt yn addas i’r rolau gwirfoddol sydd ar gael
Cytuno ar ddisgwyliadau o’r naill ochr gyda gwirfoddolwyr
P17 llunio cytundebau gwirfoddoli sy’n adlewyrchu lefel y risg sy’n gysylltiedig â rôl y gwirfoddolwr a lefel yr ymrwymiad sy’n cael ei wneud gan y gwirfoddolwr
P18 sicrhau bod cytundebau gwirfoddoli yn cynnwys gwybodaeth am
P18.1 y rôl wirfoddol, y gweithgareddau sydd ynghlwm a ffiniau’r rôl
P18.2 safonau’r perfformiad ac ymddygiad y disgwylir i wirfoddolwyr eu dangos
P18.3 yr hyfforddiant, y cymorth a’r oruchwyliaeth y gall y gwirfoddolwr eu disgwyl gan eich sefydliad
P18.4 yr asesiad risg ar gyfer y rôl a thelerau unrhyw yswiriant
P18.5 y treuliau y bydd eich sefydliad yn eu had-dalu
P18.6 unrhyw bolisïau sefydliadol sy’n berthnasol i’r rôl wirfoddol
P19 sicrhau bod gwirfoddolwyr yn deall pwysigrwydd y cytundeb gwirfoddoli a’i fod yn rhwymo o ran llw yn unig
P20 cofnodi gwybodaeth yn gywir a’i phrosesu yn unol â gofynion cyfreithiol a pholisi sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Rheoli gweithgarwch a phrosiectau
K1 gofynion cyfreithiol a sefydliadol sy’n gysylltiedig â chontractau a chytundebau
Dadansoddi, cyfrifo a gwneud penderfyniadau
K2 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau dadansoddol K3 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau gwerthuso
K4 gofynion cyfreithiol a sefydliadol sy’n berthnasol i reoli risg
K5 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau cynllunio
K6 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau rheoli risg
Gwybodaeth a chyfathrebu
K7 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau briffio ac ôl-drafod
K8 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau cyfathrebu
K9 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau casglu gwybodaeth K10 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau cadw cofnodion
K11 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau ymchwil ac ymchwiliol
Rheoli pobl
K12 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau amrywiaeth
K13 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau cydraddoldeb
K14 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau adborth
K15 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau rheoli adnoddau dynol
K16 gofynion cyfreithiol a sefydliadol sy’n berthnasol i reoli adnoddau dynol
K17 gofynion cyfreithiol a sefydliadol sy’n berthnasol i gynnwys gwirfoddolwyr
K18 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau ar gyfer asesu gwybodaeth, sgiliau a rhinweddau personol pobl ac amlygu anghenion dysgu
K19 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau recriwtio
K20 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau hyfforddi a datblygu
K21 egwyddorion, dulliau, adnoddau a thechnegau rheoli gwirfoddolwyr
Cyd-destun gwaith
K22 codau ymarfer a safonau perfformiad y disgwylir i wirfoddolwyr eu dangos
K23 rolau a chyfrifoldebau presennol yn eich sefydliad, a rolau a chyfrifoldebau yn y dyfodol
K24 sefydliadau eraill sy’n cynnwys gwirfoddolwyr a chyfleoedd eraill i wirfoddoli sydd ar gael
K25 polisïau a gweithdrefnau sefydliadol perthnasol
K26 gwybodaeth benodol i sector
K27 diwylliant, gwerthoedd ac ethos eich sefydliad
K28 gweledigaeth, cenhadaeth ac amcanion strategol eich sefydliad
K29 gwirfoddolwyr eich sefydliad a’u diddordebau, eu hanghenion, eu galluoedd a’u blaenoriaethau amrywiol
K30 eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch cymhwysedd eich hun a chyfyngiadau’r rhain
K31 eich rôl a’ch cyfrifoldebau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
1. Addasrwydd ac arloesi
1.1. manteisio ar y cyfleoedd y mae amrywiaeth yn eu cynnig
2. Cyfathrebu
2.1. nodi anghenion gwybodaeth pobl
2.2. gwrando’n weithgar, gofyn cwestiynau, egluro pwyntiau ac aralleirio datganiadau pobl eraill i wirio bod pawb yn deall
2.3. nodi’r cyfryngau a’r arddulliau cyfathrebu sy’n well gan bobl
2.4. mabwysiadu cyfryngau ac arddulliau cyfathrebu sy’n briodol i bobl ac i sefyllfaoedd
2.5. cyflwyno gwybodaeth yn glir, yn gryno, yn gywir ac mewn ffyrdd sy’n hyrwyddo dealltwriaeth
2.6. defnyddio amrywiaeth o arddulliau a thechnegau cyfathrebu i gynnal diddordeb a sylw pobl
2.7. cadarnhau dealltwriaeth pobl trwy gwestiynu a dehongli arwyddion dieiriau
2.8. annog pobl i ofyn cwestiynau neu aralleirio datganiadau i gadarnhau ac egluro eu dealltwriaeth
2.9. addasu cyfathrebu mewn ymateb i adborth
3. Entrepreneuriaeth
3.1. cydbwyso risgiau yn erbyn y buddion a allai ddeillio o gymryd risgiau
4. Safiad moesegol
4.1. cydymffurfio â gofynion cyfreithiol, rheoliadau diwydiant, polisïau sefydliadol a chodau proffesiynol, a sicrhau bod eraill yn cydymffurfio â’r rhain
4.2. gweithredu o fewn cyfyngiadau eich awdurdod
4.3. gweithredu i amddiffyn iechyd, diogelwch a lles pobl eraill
4.4. gweithredu i gynnal hawliau unigolion
4.5. gosod amcanion a chreu diwylliannau sy’n foesegol ac yn gynaliadwy
4.6. dangos uniondeb a thegwch wrth wneud penderfyniadau
5. Canolbwyntio ar ganlyniadau
5.1. gosod amcanion beichus ond posibl i chi’ch hun ac i eraill
5.2. blaenoriaethu amcanion ac amserlennu gwaith er mwyn gwneud y defnydd gorau o amser ac adnoddau
5.3. cyfrifo risgiau yn gywir, a darparu fel nad yw digwyddiadau annisgwyl yn rhwystro cyflawni amcanion
5.4. cymryd cyfrifoldeb personol am wneud i bethau ddigwydd
5.5. datgan yn glir beth sy’n ofynnol gan bobl eraill a’u dwyn i gyfrif
5.6. gwirio ymrwymiad unigolion i’w rolau mewn dull gweithredu penodol
6. Rheoli gwybodaeth
6.1. gwneud y defnydd gorau o ffynonellau gwybodaeth presennol
7. Grym perswâd
7.1. ceisio deall anghenion a symbyliadau pobl
7.2. nodi gwerth a buddion dull gweithredu arfaethedig i bobl yn glir
7.3. cyflwyno gwybodaeth a dadleuon yn argyhoeddiadol ac mewn ffyrdd sy’n taro tant gyda phobl
7.4. defnyddio tystiolaeth ffeithiol i gefnogi dadleuon
8. Rheoli perthnasoedd
8.1. gweithio i ddatblygu awyrgylch o broffesiynoldeb a chefnogaeth gan y naill tuag at y llall
9. Meddwl a gwneud penderfyniadau
9.1. nodi’r ystod o elfennau mewn sefyllfa a sut maent yn perthyn i’w gilydd
9.2. nodi goblygiadau neu ganlyniadau sefyllfa
9.3. gwneud penderfyniadau amserol sy’n realistig i’r sefyllfa