Ymchwilio i ffynonellau gwybodaeth a datblygu deallusrwydd ar gyfer ymchwiliadau
Trosolwg
Mae’r NOS hwn wedi’i anelu at bersonél sy’n cymryd rhan mewn ymchwiliadau ac mae’n cyflwyno’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth er mwyn i chi gasglu a gwerthuso gwybodaeth berthnasol.
Mae’r NOS hwn yn cwmpasu’r gweithgareddau canlynol:
1 Casglu a graddio gwybodaeth
2 Dadansoddi gwybodaeth a datblygu deallusrwydd
3 Gwneud argymhellion, ar sail deallusrwydd a ddatblygwyd, am weithgarwch ymchwilio pellach
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Casglu a graddio gwybodaeth1. nodi a chael at ffynonellau gwybodaeth priodol am ddigwyddiadau y mae angen ymchwilio iddynt yn brydlon
2. cael gwybodaeth trwy ddulliau cyfreithlon
3. casglu gwybodaeth ategol, lle y bo angen, i gefnogi ymchwiliadau
4. ymdrin â gwybodaeth yn unol â model deallusrwydd cydnabyddedig
5. casglu digon o wybodaeth er mwyn datblygu dealltwriaeth ymchwiliad arni
6. trin a storio gwybodaeth mewn ffordd sy’n diogelu ei chyfrinachedd a’i gwerth fel tystiolaeth
Dadansoddi gwybodaeth a datblygu deallusrwyd
1. sefydlu patrymau a chysylltiadau mewn gwybodaeth berthnasol trwy ddadansoddiad rhesymegol a systematig
2. defnyddio dadansoddiad i ddatblygu deallusrwydd er mwyn symud yr ymchwiliad yn ei flaen
3. cadarnhau gwybodaeth, lle y bo angen, i gefnogi ymchwiliadau
4. cofnodi manylion gwybodaeth yn gywir, yn gyflawn ac mewn fformatau priodol
5. mynd ar drywydd canlyniadau eich dadansoddiad o wybodaeth yn brydlon, gan gynnwys eu trosglwyddo i’r person perthnasol
Gwneud argymhellion, ar sail deallusrwydd a ddatblygwyd, am weithgarwch ymchwilio pellach
1. nodi’r angen am dystiolaeth bellach yn berthnasol i’r digwyddiad neu’r anghysondebau, ar sail dadansoddiad o wybodaeth a deallusrwydd sydd ar gael
2. nodi a blaenoriaethu unrhyw ofynion am dystiolaeth ychwanegol
3. cynnal diogelwch a chyfrinachedd manylion argymhellion ymchwiliad
4. cyflwyno argymhellion i’r person priodol yn gywir, yn llawn ac o fewn amserlenni cytunedig
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gofynion cyfreithiol a sefydliadol
- deddfwriaeth, rheoliadau, codau ymarfer a chanllawiau perthnasol, cyfredol yn gysylltiedig â:
- datblygu deallusrwydd ar gyfer ymchwiliadau
- casglu gwybodaeth
- cyfrinachedd
- cael a storio tystiolaeth
- cyfyngiadau sefydliadol yn gysylltiedig â chael gwybodaeth
Casglu a graddio gwybodaeth
- sut i adnabod a dod o hyd i wybodaeth yn gysylltiedig â digwyddiadau ac anghysondebau
- yr amrywiaeth o ffynonellau gwybodaeth a ddefnyddir yn gyffredin i ddod o hyd i wybodaeth a sut i ddefnyddio’r rhain
- sut i ddefnyddio cyfarpar cyfrifiadurol wrth gofnodi neu gael at wybodaeth
- pam a sut i drin a storio gwybodaeth er mwyn diogelu ei chyfrinachedd a’i gwerth fel tystiolaeth
Dadansoddi gwybodaeth a datblygu deallusrwydd
- sut i ddefnyddio technegau datblygu gwybodaeth gwahanol yn effeithiol
- sut i nodi patrymau digwyddiadau ac anghysondebau
- sut i ddod o hyd i gysylltiadau rhwng pobl, digwyddiadau ac anghysondebau
- sut a pham mae’n bwysig graddio a chroesgyfeirio ffynonellau gwybodaeth
- sut i raddio a dadansoddi gwybodaeth wedi’i chadarnhau, yn unol â gweithdrefnau eich sefydliad
- sut i adnabod a chymryd camau priodol i fynd ar drywydd canlyniadau eich dadansoddiad o wybodaeth
- sut i roi manylion llawn a chywir o’ch dadansoddiad o wybodaeth i’r person neu’r awdurdod perthnasol yn ddi-oed
- sut i gofnodi a storio gwybodaeth
Gwneud argymhellion, ar sail deallusrwydd a ddatblygwyd, am weithgarwch ymchwilio pellach
- sut i adnabod unrhyw brinder tystiolaeth a pha gamau pellach allai fod yn briodol
- sut i flaenoriaethu a chofnodi tystiolaeth yn ôl ei gwerth
- y gwahanol ffyrdd o gyflwyno argymhellion clir a chryno
Cwmpas/ystod
Casglu a graddio gwybodaeth
- ffynonellau gwybodaeth: cyfrifiadurol, dogfennol, ffynonellau deallusrwydd dynol, cysylltiadau proffesiynol,
- digwyddiadau: adroddiadau am droseddau, tor-cyfraith sifil, torri rheolau a gweithdrefnau cwmni
- gwybodaeth: gan dystion, tystiolaeth berthnasol, tystiolaeth ail law a thystiolaeth ddogfennol
Dadansoddi gwybodaeth a datblygu deallusrwydd
- gwybodaeth berthnasol: gan dystion, tystiolaeth berthnasol, tystiolaeth ail-law, tystiolaeth ddogfennol, cyfryngau electronig
Gwneud argymhellion, ar sail deallusrwydd a ddatblygwyd, am weithgarwch ymchwilio pellach
- argymhellion a wnaed: gennych chi eich hun, gan reolwr llinell, gan arbenigwr
- paratoadau: llafar, ysgrifenedig, electronig