Lleihau a rheoli gwrthdaro mewn digwyddiadau
URN: SFSEVS9W
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar:
2013
Trosolwg
Mae’r Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon yn gosod y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i chi helpu i leihau a rheoli gwrthdaro mewn digwyddiadau. Mae’r safon hon yn canolbwyntio’n gyntaf ar osgoi gwrthdaro drwy ymddygiad a chyfathrebu cadarnhaol. Mae’n ystyried wedyn sut mae gweld bod gwrthdaro a risg yn cynyddu a sut mae tawelu’r gwrthdaro.
Mae’r safon hon yn cydnabod hefyd y gall gwrthdaro ddigwydd wrth fynd i’r afael ag ymddygiad sy’n peri problemau mewn sefyllfaoedd lle ceir torf, ac y gellir lleihau hyn drwy fynd ati’n ofalus i amseru a dewis ffordd o ymdrin.
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau canlynol:
1. Helpu i osgoi gwrthdaro
2. Tawelu a datrys gwrthdaro
3. Delio ag ymddygiad anodd
Mae’r safon hon yn berthnasol i bersonél diogelwch a stiwardiaid sy’n gweithio mewn ystod eang o ddigwyddiadau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Helpu i osgoi gwrthdaro
*
*
1. cyfathrebu’n briodol â chwsmeriaid gan ddangos parch at unigolion a’u heiddo
2. esbonio camau gweithredu a gwrando ar unrhyw bryderon
3. osgoi stereoteipio a gwahaniaethu
4. goresgyn rhwystrau rhag cyfathrebu a lleihau sbardunau
5. dangos gwybodaeth gadarn am y digwyddiad, eich rôl, a’r polisïau a’r pwerau perthnasol
Tawelu a datrys gwrthdaro
6. gwneud asesiad risg deinamig er mwyn canfod gwrthdaro posibl
7. adnabod arwyddion o wrthdaro’n cynyddu er mwyn lleihau’r bygythiad neu’r risg o wrthdaro mewn sefyllfa lle ceir torf
8. cynllunio strategaethau a llwybrau ymadael er mwyn sicrhau eich diogelwch personol ac amddiffyn pobl eraill
9. cyfathrebu’n effeithiol â chydweithwyr, rheolwyr digwyddiadau a staff o asiantaethau eraill
10. creu argraff gyntaf gadarnhaol a ffordd dawel o weithio
11. defnyddio technegau priodol i ddatrys gwrthdaro yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad
Delio ag ymddygiad anodd
12. chwilio am ffyrdd eraill yn lle gwrthdaro
13. adnabod effaith bosibl ymyrryd mewn sefyllfa lle ceir torf
14. dewis dulliau priodol i ddelio ag ymddygiad anodd
15. dangos parch a bod yn gwrtais bob tro
16. adrodd am gamau gweithredu a bod yn atebol amdanynt yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Sut mae helpu i osgoi gwrthdaro
*
*
1. pam ei bod yn bwysig bod yn gymwynasgar ac yn gyfeillgar
2. yr angen i wrando ac ymateb yn broffesiynol i bryderon pobl
3. pwysigrwydd parchu unigolion a’u heiddo
4. manteision esbonio’r camau y bwriedir eu cymryd a rhoi rhesymau dros y rhain
5. sut ei bod yn fuddiol gweld sefyllfa drwy lygad ymwelydd
6. gweithredoedd ac ymddygiad sy’n gallu sbarduno digwyddiad i waethygu mewn sefyllfa lle ceir torf, a pha rai y dylid eu hosgoi
7. rhwystrau posibl rhag cyfathrebu a sut mae goresgyn y rhain
8. pwysigrwydd osgoi stereoteipio a gwahaniaethu
9. prif ofynion eich rôl a pholisïau a phwerau perthnasol
10. trefniadau yn y digwyddiad i allu ymateb yn wybodus i gwestiynau
Sut mae tawelu a datrys gwrthdaro
11. sut mae defnyddio model ar gyfer gwneud asesiad risg deinamig
12. bygythiadau a risg o drais ac ymddygiad ymosodol
13. camau ac arwyddion cyffredin o fwy a mwy o drais
14. eich dyletswydd gofal i leihau risg i chi’ch hun ac i bobl eraill
15. rhoi eich hun mewn sefyllfa ddiogel a gwaith tîm
16. yr amgylchedd rydych chi’n gweithio ynddo a sut mae cael help
17. strategaethau ymadael a llwybrau ymadael ar lafar
18. pwysigrwydd adnabod ac amddiffyn unigolion agored i niwed
19. sut mae cyfathrebu’n effeithiol â chydweithwyr, rheolwyr digwyddiadau a staff o asiantaethau eraill
20. sut mae creu argraff gyntaf gadarnhaol drwy ymddangosiad, geiriau, goslef ac iaith corff dawel
21. pam ei bod yn helpu i gydnabod emosiynau a dangos empathi
22. sut mae rhoi sicrwydd i bobl eich bod chi yno i helpu
23. sut mae gwrando’n effeithiol gan ddangos eich bod yn deall
24. yr opsiynau sydd gennych a’r rhyddid i weithredu
Sut mae delio ag ymddygiad anodd
25. mathau posibl o ymddygiad anodd nad yw’n cael ei ganiatáu
26. ffyrdd eraill yn lle delio ag ymddygiad yn uniongyrchol
27. pwysigrwydd osgoi unrhyw weithredu diwahaniaeth neu lawdrwm mewn sefyllfa lle ceir torf
28. sut byddai torf yn gweld eich ymyrraeth ac yn ymateb i hyn
29. gwahanol ddulliau i ddelio ag ymddygiad anodd
30. ffactorau sy’n dylanwadu ar ble, pryd a sut mae mynd i’r afael ag ymddygiad
31. pwysigrwydd dangos parch a bod yn gwrtais drwy’r amser
32. sut mae adrodd am gamau gweithredu a bod yn atebol amdanynt
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol hyn;
gwrthdaro: anghytundeb sy’n golygu bod y partïon cysylltiedig yn teimlo bod bygythiad i'w hanghenion, diddordebau neu bryderon
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2016
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Security
URN gwreiddiol
SFS EVS 9
Galwedigaethau Perthnasol
Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol
Cod SOC
Geiriau Allweddol
digwyddiad; diogelwch; gwrthdaro; lleihau; torf; gwahaniaethu; ymddygiad; deinamig; risg