Chwilio pobl a’u heiddo cyn iddynt ddod i mewn i ddigwyddiad

URN: SFSEVS8W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar: 01 Maw 2013

Trosolwg

​Mae’r Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon yn gosod y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i chi hyrwyddo diogelwch y cyhoedd a diogelu buddiannau masnachol drwy chwilio.


Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau canlynol: 

1. Chwilio pobl a’u heiddo am eitemau gwaharddedig
2. Ymateb wrth ddod o hyd i eitemau gwaharddedig


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Chwilio pobl a’u heiddo am eitemau gwaharddedig


1. creu amgylchedd priodol a nodi adnoddau i’w defnyddio i chwilio
2. nodi’r bobl i’w chwilio wrth iddynt ddod i mewn gan ddilyn y gweithdrefnau y cytunwyd arnynt
3. sicrhau bod y broses chwilio yn cael ei gweithredu yn ôl yr hyn a gytunwyd gyda threfnydd y digwyddiad 
4. defnyddio cyfrwng chwilio priodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad
5. gwneud yn siŵr bod gennych ganiatâd i chwilio cyn i chi ddechrau chwilio unigolion
6. cymryd camau priodol a ganiateir pan fydd unigolyn yn gwrthod rhoi caniatâd i gael ei chwilio, gan ddilyn polisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad
7. rhoi rhesymau clir am y chwilio i’r unigolion sydd wedi’u dewis i gael eu chwilio a chadarnhau eu bod wedi deall y rhesymau
8. chwilio pobl ar gyfnodau a chan ddilyn patrymau sy’n unol â pholisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad 
9. chwilio lleoliadau ac ym mhresenoldeb tystion yn unol â chanllawiau, polisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad
10. bod yn gwrtais, yn broffesiynol ac yn foesgar wrth chwilio unigolion
11. sicrhau eich lles a’ch iechyd a diogelwch eich hun wrth chwilio pobl
12. cymryd camau priodol yn ddi-oed, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad, pan fyddwch yn dod o hyd i eitemau gwaharddedig wrth chwilio
13. llenwi’r cofnodion gofynnol yn gywir, yn eglur ac o fewn yr amserlenni gofynnol
14. adrodd ynghylch manylion y chwilio yn unol â chyfarwyddiadau a pholisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad

Ymateb wrth ddod o hyd i eitemau gwaharddedig

15. enwi eitemau gwaharddedig yn gywir a welir wrth chwilio 
16. cymryd camau priodol wrth ddelio ag eitemau gwaharddedig a welir wrth chwilio
17. cofnodi ac adrodd wrth yr unigolyn priodol ynghylch y manylion perthnasol sy’n ymwneud â’r eitemau gwaharddedig
18. llenwi’r dogfennau gofynnol yn gywir, yn eglur ac o fewn yr amserlenni gofynnol
19. sicrhau eich lles a’ch iechyd a’ch diogelwch ynghyd â lles ac iechyd a diogelwch pobl eraill


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad


1. deddfwriaeth, rheoliadau, codau ymarfer a chanllawiau perthnasol a chyfredol sy’n ymwneud â’ch awdurdod i chwilio pobl a’u heiddo
2. polisïau, gweithdrefnau a chyfarwyddiadau’ch sefydliad y dylech eu dilyn wrth ddod o hyd i eitemau gwaharddedig
3. polisïau, gweithdrefnau a chyfarwyddiadau’ch sefydliad ar gyfer chwilio pobl

Chwilio pobl a’u heiddo am eitemau gwaharddedig

4. y gweithdrefnau a’r cyfarwyddiadau y dylech eu dilyn wrth chwilio pobl neu eu heiddo, gan gynnwys: –
5. pam ei bod yn arfer da gael tystion wrth chwilio
6. gwahanol fathau o chwilio
7. goblygiadau wrth chwilio’n anghywir
8. defnyddio cyfrwng chwilio penodol
9. sgiliau rhyngbersonol a sut i’w defnyddio wrth chwilio pobl a’u heiddo
10. yr adwaith bosibl gan bobl i’r cais i gael eu chwilio a sut mae deilio â’r adweithiau hynny yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad
11. yr ystod o eitemau gwaharddedig y dylech gadw golwg amdanynt wrth chwilio
12. y rhagofalon i’w cymryd i’ch amddiffyn eich hun a phobl eraill rhag eitemau a allai achosi anafiadau wrth chwilio

Ymateb wrth ddod o hyd i eitemau gwaharddedig

13. sgiliau rhyngbersonol a sut i’w defnyddio pan fyddwch yn dod o hyd i eitemau gwaharddedig
14. adwaith bosibl unigolion sy’n cael eu chwilio wrth i chi ddod o hyd i eitemau gwaharddedig a sut mae delio â’r adweithiau hynny
15. beth ddylech chi ei wneud pan fyddwch yn dod o hyd i eitemau gwaharddedig, ac wrth bwy y dylech chi roi gwybod, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol hyn;


eitemau gwaharddedig: Eitem wedi’i gwahardd yn y digwyddiad fel y’i diffinnir gan y lleoliad, trefnydd y digwyddiad neu’r gyfraith


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Security

URN gwreiddiol

SFS EVS 8

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

diogelwch; digwyddiad; pobl; eiddo; chwilio; eitemau gwaharddedig;