Gweithredu cynlluniau a pholisïau gweithredol ar gyfer diogelwch mewn digwyddiad
URN: SFSEVS6W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar:
01 Maw 2013
Trosolwg
Mae’r Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon yn gosod y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i chi weithredu cynlluniau a pholisïau gweithredol ar gyfer diogelwch mewn digwyddiad.
Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau canlynol:
1. Gweithredu cynlluniau gweithredol ar gyfer diogelwch mewn digwyddiad
2. Gweithredu polisïau gweithredol ar gyfer diogelwch mewn digwyddiad
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Gweithredu cynlluniau gweithredol ar gyfer diogelwch mewn digwyddiad
1. pennu amcanion i bobl ynghyd â’r adnoddau cysylltiedig
2. nodi pobl sy’n gallu helpu i roi’r cynlluniau ar waith a rhoi gwybodaeth iddynt
3. cefnogi prif gydweithwyr a rhanddeiliaid eraill
4. monitro a rheoli’ch cynllun er mwyn iddo gyflawni ei amcanion cyffredinol
5. gwerthuso’r broses o weithredu’ch cynllun a chynnig argymhellion sy’n dynodi arferion da a meysydd ar gyfer gwella
Gweithredu polisïau gweithredol ar gyfer diogelwch mewn digwyddiad
6. nodi goblygiadau’r polisi o ran gwaith pawb y mae’n effeithio arnynt
7. nodi a phrofi amcanion gweithredu’r polisi, y rhwystrau posibl a’r dulliau o oresgyn y rhwystrau hyn
8. cytuno ar amserlen a chyllideb ar gyfer gweithredu
9. gofyn iddynt gynnig gwelliannau i’r strategaeth weithredu ac ystyried yr awgrymiadau hyn
10. defnyddio dulliau cefnogi effeithiol ar gyfer y rheini a fydd yn gweithredu’r polisi
11. adolygu’r broses o weithredu’r polisi yn gyson
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad
1. deddfwriaeth, rheoliadau, safonau a chodau ymarfer perthnasol a chyfredol sy’n ymwneud â’ch sector
Gweithredu cynlluniau gweithredol ar gyfer diogelwch mewn digwyddiad
2. sut mae dadansoddi a rheoli ffordd o weithio sy’n seiliedig ar asesiad risg gan ystyried proffil y gynulleidfa
3. sut mae datblygu a chynllunio ar gyfer sefyllfaoedd annisgwyl
4. egwyddorion a dulliau dirprwyo
5. sut mae defnyddio adnoddau’n effeithiol i gyflawni amcanion
6. sut mae ymgynghori â chydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill
7. sut mae monitro a rheoli cynlluniau gweithredol er mwyn cyflawni eu hamcanion
8. sut mae datblygu a defnyddio fframwaith gwerthuso
9. partneriaid, a’u strategaethau a’u cynlluniau
10. gweledigaeth gyffredinol eich sefydliad a’r nodau rydych yn gyfrifol am eu cyflawni o ran arfer gorau
11. cydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill, eu hanghenion a’u disgwyliadau
12. prosesau ymgynghori
13. ffynonellau gwybodaeth y gallwch eu defnyddio i fonitro a gwerthuso cynlluniau
14. gweithdrefnau ar gyfer adrodd a chynnig argymhellion
Gweithredu polisïau gweithredol ar gyfer diogelwch mewn digwyddiad
15. pam ei bod yn bwysig nodi goblygiadau’r polisi o ran gwaith pawb y bydd yn effeithio arnynt
16. pam ei bod yn bwysig pennu amcanion ar gyfer y cam gweithredu
17. y rhwystrau tebygol rhag gweithredu, sut mae adnabod y rhain a delio â hwy
18. yr amrywiaeth o bobl yn y sefydliad a allai helpu yn y broses weithredu a sut mae adnabod y rheini a fyddai’n cynnig y cymorth mwyaf effeithiol
19. pwysigrwydd cynnwys pobl eraill wrth benderfynu sut mae gweithredu polisi
20. pam bydd angen cymorth ar bobl i weithredu’r polisi a’r mathau o gymorth a allai fod yn briodol
21. pwysigrwydd adolygu’r broses o weithredu’r polisi
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
01 Maw 2016
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Security
URN gwreiddiol
SFS EVS 6
Galwedigaethau Perthnasol
Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol
Cod SOC
Geiriau Allweddol
diogelwch; digwyddiad; gweithredu; cynlluniau gweithredol; polisïau gweithredol