Datblygu cynlluniau a pholisïau gweithredol ar gyfer diogelwch mewn digwyddiad

URN: SFSEVS5W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar: 01 Maw 2013

Trosolwg

​Mae’r Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon yn gosod y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i chi ddatblygu cynlluniau a pholisïau gweithredol.


Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau canlynol: 

1. Datblygu cynlluniau gweithredol ar gyfer diogelwch mewn digwyddiad
2. Datblygu polisïau gweithredol ar gyfer diogelwch mewn digwyddiad


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Datblygu cynlluniau gweithredol ar gyfer diogelwch mewn digwyddiad

1. cael cydbwysedd rhwng syniadau newydd ac atebion sydd wedi hen ennill eu plwy
2. cydbwyso’r risgiau yn erbyn y canlyniadau y dymunir eu gweld
3. gwneud yn siŵr bod eich cynlluniau’n gyson ag amcanion eich maes cyfrifoldeb
4. gwneud yn siŵr bod eich cynllun yn hyblyg ac yn ategu meysydd gwaith perthnasol 
5. datblygu a phennu amcanion i bobl ynghyd â’r adnoddau cysylltiedig

Datblygu polisïau gweithredol ar gyfer diogelwch mewn digwyddiad

6. cynnwys sefydliadau ac unigolion sydd â’r wybodaeth a’r arbenigedd i wneud cyfraniad cadarnhaol i’r polisi
7. gwneud yn siŵr bod y polisi drafft yn seiliedig ar ymchwil wrthrychol i ffactorau perthnasol
8. gwneud yn siŵr bod y polisi drafft yn unol ag amcanion a gwerthoedd y sefydliad neu roi gwybod i’r unigolyn priodol am unrhyw anghysondebau
9. gwneud yn siŵr bod y polisi drafft yn gyson â deddfwriaeth berthnasol ac arfer gorau a nodwyd
10. gwneud yn siŵr bod y polisi drafft yn sicrhau cydbwysedd rhwng buddiannau prif randdeiliaid y sefydliad
11. cytuno ar y polisi drafft gyda’r holl sefydliadau ac unigolion sydd wedi bod yn gysylltiedig
12. enwi’r holl sefydliadau ac unigolion y dylid ymgynghori â hwy ynghylch y polisi
13. cytuno ar ddulliau ac amserlen ymgynghori sy’n gyson ag anghenion y sefydliad, a galluogi pawb sydd â diddordeb i wneud cyfraniad defnyddiol
14. rhoi’r dulliau ymgynghori ar waith fel y cytunwyd
15. casglu’r holl fewnbwn i’r ymgynghoriad a’i ddadansoddi’n wrthrychol
16. darparu adroddiad ar yr ymgynghoriad sy’n cyflwyno’r holl fewnbwn ac sy’n cynnig argymhellion sy’n adlewyrchu’r mewnbwn hwnnw yn deg
17. cytuno ar y polisi terfynol â’r rheini a oedd yn rhan o’i ddrafftio


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad

1. deddfwriaeth, rheoliadau, safonau a chodau ymarfer perthnasol a chyfredol sy’n ymwneud â’ch sector

Datblygu cynlluniau gweithredol ar gyfer diogelwch mewn digwyddiad

2. egwyddorion a dulliau cynllunio yn y tymor byr i’r tymor canolig
3. pwysigrwydd bod yn greadigol ac yn arloesol gyda chynllunio gweithredol
4. sut mae datblygu a phennu amcanion sy’n gyraeddadwy, amserol, mesuradwy, penodol a realistig
5. sut mae dadansoddi a rheoli ffordd o weithio sy’n seiliedig ar asesiad risg
6. sut mae datblygu a chynllunio ar gyfer sefyllfaoedd annisgwyl 
7. egwyddorion a dulliau dirprwyo
8. sut mae defnyddio adnoddau’n effeithiol i gyflawni amcanion 
9. sut mae ymgynghori â chydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill
10. partneriaid, a’u strategaethau a’u cynlluniau
11. gweledigaeth gyffredinol eich sefydliad a’r nodau rydych yn gyfrifol am eu cyflawni o ran arfer gorau
12. cydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol eraill, eu hanghenion a’u disgwyliadau
13. gweithdrefnau ar gyfer adrodd a chynnig argymhellion

Datblygu polisïau gweithredol ar gyfer diogelwch mewn digwyddiad

14. pam mae angen polisïau ar sefydliadau ar gyfer materion penodol a’r mathau o faterion y dylai’r sefydliad gael polisïau ar eu cyfer
15. polisïau perthnasol eich sefydliad ac eraill yng nghyd-destun y digwyddiad
16. yr amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion a allai eich helpu i ddatblygu polisïau a sut mae adnabod y rhai sydd fwyaf perthnasol ac sy’n debygol o wneud cyfraniad defnyddiol
17. y mathau o ffactorau perthnasol sy’n debygol o ddylanwadu ar ddatblygiad polisi
18. pwysigrwydd bod y polisi yn gyson ag amcanion a gwerthoedd y sefydliad a beth i’w wneud os oes gwahaniaeth
19. sut mae adnabod y ddeddfwriaeth a'r arfer gorau perthnasol yn y maes sy’n cael ei gynnwys yn y polisi a gwneud yn siŵr bod y polisi yn gyson â’r rhain
20. pwy yw rhanddeiliaid allweddol y sefydliad, pam ei bod yn bwysig gwybod beth yw eu diddordebau a sicrhau cydbwysedd rhyngddynt
21. pam bod angen i chi gytuno ar bolisi drafft gyda phawb sydd wedi bod yn rhan o’i ddrafftio
22. pwysigrwydd ymgynghori ynghylch polisi a beth allai ddigwydd os na wnewch 
23. y sefydliadau a’r unigolion fydd â diddordeb yn y polisi a sut mae gwybod pwy yw’r rhain
24. yr amrywiaeth o ddulliau ymgynghori sydd ar gael a sut mae dewis rhai a fydd yn rhoi cyfle i’r rheini yr effeithir arnynt i wneud cyfraniad ystyrlon
25. pwysigrwydd bod yn wrthrychol wrth ddadansoddi mewnbwn i’r broses ymgynghori
26. pwysigrwydd adolygu effaith y polisi terfynol yn seiliedig ar ymgynghoriad
27. y cyfrifoldeb, y strwythur, y fframwaith a’r weithdrefn ar gyfer cymryd rhan yn natblygiad y cynlluniau a’r polisïau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

​Yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol hyn;


memorandwm cyd-ddealltwriaeth: dogfen sy’n disgrifio egwyddorion cyffredinol cytundeb rhwng partïon, ond nid yw’n gontract parhaol.​


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Security

URN gwreiddiol

SFS EVS 5

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

diogelwch; digwyddiad; cynlluniau gweithredol; polisïau gweithredol