Delio â phobl yr amheuir eu bod wedi troseddu mewn digwyddiad

URN: SFSEVS4W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar: 01 Maw 2011

Trosolwg

​Mae’r Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon yn gosod y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i chi ddelio â phobl yr amheuir eu bod wedi troseddu.


Mae’r safon hon yn ymwneud â’r gweithgareddau canlynol: 

1. Dal pobl sydd o dan amheuaeth  
2. Cadw pobl sydd o dan amheuaeth 
3. Diogelu cyflwr tystiolaeth bosibl


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Dal pobl sydd o dan
amheuaeth
*

1. cadarnhau bod gennych ddigon o dystiolaeth ddilys i ddal pobl yr amheuir eu wedi troseddu
2. cymryd camau priodol i ddal pobl sydd o dan amheuaeth sydd o fewn cyfyngiadau’r gyfraith ac yn unol â’ch cyfarwyddiadau gweithio
3. dilyn eich cyfarwyddiadau a chodau ymarfer perthnasol wrth ddal pobl sydd o dan amheuaeth, yn arbennig yng nghyd-destun yr hyn rydych chi’n ei ddweud wrthynt
4. diogelu’r mannau lle cyflawnwyd y trosedd a thystiolaeth bosibl, gan ddilyn polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau cymeradwy
5. sicrhau eich lles a’ch iechyd a diogelwch eich hun, pobl eraill a’r unigolyn sydd o dan amheuaeth, wrth ddal pobl sydd o dan amheuaeth
6. rhoi gwybod i’r bobl a’r awdurdodau perthnasol eich bod wedi dal unigolyn sydd o dan amheuaeth, yn unol â’ch cyfarwyddiadau ac o fewn yr amserlenni gofynnol
7. llenwi’r cofnodion gofynnol sy’n berthnasol i’r amgylchiadau pan fyddwch yn dal unigolion sydd o dan amheuaeth, a’u llenwi’n gywir, yn eglur a chyn gynted ag y bo modd yn ymarferol
8. sicrhau bod pob tyst wedi’i adnabod yn gywir a bod modd cysylltu â hwy

Cadw pobl sydd o dan amheuaeth

9. caniatáu hawliau cyfreithiol bob tro i’r bobl sydd o dan amheuaeth pan fyddwch yn eu cadw
10. dilyn gweithdrefnau cymeradwy ar gyfer gwahanu pobl sydd o dan amheuaeth a mynd gyda hwy
11. dilyn polisïau a gweithdrefnau a chanllawiau cymeradwy wrth gadw pobl
12. sicrhau nad yw pobl sydd o dan amheuaeth yn dinistrio nac yn cael gwared ar dystiolaeth bosibl
13. sicrhau eich lles, a’ch iechyd a diogelwch eich hun, pobl eraill a’r unigolyn sydd o dan amheuaeth, wrth gadw pobl dan amheuaeth, gan gynnwys eu chwilio hwy a chwilio eu heiddo am arfau yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad
14. trosglwyddo pobl sydd o dan amheuaeth yn briodol i’r awdurdod perthnasol, gan roi manylion cadw clir a chryno, yn unol â’ch cyfarwyddiadau ac o fewn yr amserlenni gofynnol
15. llenwi’r cofnodion gofynnol sy’n berthnasol i’r manylion cadw, a’u llenwi’n gyflawn, yn gywir, yn eglur ac o fewn yr amserlenni gofynnol

Diogelu cyflwr tystiolaeth bosibl*

16. cymryd pob rhagofal rhesymol i atal rhag colli tystiolaeth bosibl neu atal pobl heb awdurdod i’w symud
17. cymryd pob rhagofal rhesymol i atal rhag llygru tystiolaeth bosibl
18. atal pobl heb awdurdod i fynd i’r man lle amheuir bod trosedd wedi digwydd
19. gwneud yn siŵr nad oes dim byd yn cael ei newid yn y man lle amheuir bod trosedd wedi digwydd
20. sicrhau bod pob tyst wedi’i adnabod yn gywir a’i fod wedi rhoi ei fanylion cyswllt
21. llenwi’r cofnodion gofynnol yn gywir, yn eglur ac o fewn yr amserlenni gofynnol


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gofynion cyfreithiol a gofynion y sefydliad

*

1. deddfwriaeth, rheoliadau, codau ymarfer a chanllawiau perthnasol a chyfredol sy’n ymwneud ag arestio a dal pobl 
2. eich cyfarwyddiadau a’r codau ymarfer sy’n berthnasol i ddal pobl sydd o dan amheuaeth 
3. deddfwriaeth, rheoliadau, codau ymarfer a chanllawiau perthnasol a chyfredol sy’n ymwneud ag arestio a chadw pobl 
4. deddfwriaeth, rheoliadau, codau ymarfer a chanllawiau perthnasol a chyfredol sy’n ymwneud â diogelu cyflwr tystiolaeth bosibl

Cadw pobl sydd o dan amheuaeth

5. lle mae’r ardal gadw arbennig a sut mae’n rhaid ei chynnal o fewn polisïau a gweithdrefnau’ch sefydliad
6. y gyfraith bresennol yn ymwneud â hawliau pobl sydd o dan amheuaeth gan gynnwys y cyfyngiadau o ran eu chwilio hwy neu chwilio eu heiddo
7. goblygiadau arestio anghyfreithlon
8. eich cyfarwyddiadau o ran cadw pobl sydd o dan amheuaeth, yn arbennig o ran eich lles a’ch iechyd a diogelwch eich hun a hwythau 
9. pam a sut y dylech fonitro pobl sydd o dan amheuaeth er mwyn eu hatal rhag dianc neu ddinistrio tystiolaeth bosibl
10. wrth ba awdurdod y dylech ddweud pan fyddwch wedi cadw unigolyn sydd o dan amheuaeth a sut mae cysylltu â’r awdurdodau hyn
11. pam a sut mae rhwystro pobl sydd o dan amheuaeth gan ddefnyddio technegau a dyfeisiau priodol a chymeradwy a grym rhesymol
12. goblygiadau defnyddio technegau rhwystro

Dal pobl sydd o dan amheuaeth 

13. goblygiadau arestio ar gam a’r camau angenrheidiol ar ôl hynny
14. y sefyllfaoedd lle cewch ddal pobl sydd o dan amheuaeth a chyfyngiadau eich awdurdod
15. y cysyniad o rym rhesymol, a phryd a sut y gellir ei ddefnyddio i ddal pobl sydd o dan amheuaeth
16. wrth ba awdurdodau y dylech ddweud pan fyddwch wedi dal unigolyn sydd o dan amheuaeth a sut mae cysylltu â’r awdurdodau hyn
17. pwysigrwydd adnabod unrhyw dystion a’u cael i gydweithredu
18. sut a pham ei bod yn bwysig rhoi popeth mewn llyfr nodiadau a gwneud cofnodion llawn a chywir cyn gynted ag y bo modd yn rhesymol
19. sut a pham ei bod yn bwysig cofnodi manylion llawn pan fydd grym yn cael ei ddefnyddio

Diogelu cyflwr tystiolaeth bosibl*

20. eich cyfrifoldeb i ofalu am dystiolaeth bosibl a beth ddylech ei wneud i ddiogelu’r dystiolaeth hon
21. beth a olygir wrth dystiolaeth bosibl, gan gynnwys unrhyw beth y mae’r bobl sydd o dan amheuaeth yn ei ddweud 
22. pa gamau y gallwch eu cymryd i ddiogelu tystiolaeth bosibl
23. pwysigrwydd adnabod unrhyw dystion a’u cael i gydweithredu
24. sut a pham ei bod yn bwysig rhoi popeth mewn llyfr nodiadau a gwneud cofnodion llawn a chywir cyn gynted ag y bo modd yn rhesymol
25. pam a sut mae diogelu man lle bu’r trosedd a’r dystiolaeth
26. sut a pham ei bod yn bwysig cyfyngu mynediad at y man lle bu’r trosedd
27. sut a pham ei bod yn bwysig nodi a diogelu tystiolaeth a chofnodi manylion cywir pan fyddwch yn dal pobl sydd o dan amheuaeth ac felly diogelu’r ‘gadwyn o dystiolaeth’ neu’r ‘trywydd archwilio’​


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

01 Maw 2016

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Security

URN gwreiddiol

SFS EVS 4

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

diogelwch; digwyddiad; trosedd; dal; cadw; unigolyn sydd o dan amheuaeth; tystiolaeth