Datblygu cynllun strategol i ddarparu diogelwch mewn digwyddiad
Trosolwg
Mae’r Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon yn gosod y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i chi bennu’r blaenoriaethau strategol, a gyflawnir gyda’r adnoddau i ddarparu Diogelwch mewn Digwyddiad. Mae’r safon hon hefyd yn datblygu ac yn gweithredu cynllun strategol cysylltiedig ar gyfer darparu’r gwasanaethau perthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
nodi a blaenoriaethu amcanion strategol ar gyfer darparu diogelwch mewn digwyddiad sy'n gyson ag amcanion ariannol a strategaeth fusnes y sefydliad yn ogystal â'r gofynion ar gyfer cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol
asesu opsiynau strategol i gyflawni'r amcanion a dogfennu awgrymiadau sy'n cael eu hystyried ond nid eu defnyddio
nodi ac asesu'r risgiau perthnasol o ran y farchnad, cystadleuwyr, rhanddeiliaid a busnes sy'n gysylltiedig â'r opsiynau a gafodd eu hystyried
cydbwyso'r risgiau a nodwyd yn erbyn y canlyniadau y dymunir eu gweld
edrych ar y cyfle i greu partneriaeth a chysylltiadau posibl at gyflawni'r strategaeth ac asesu'r cyfle hwnnw
cytuno ar strategaeth sy'n adeiladu ar yr opsiwn(opsiynau) gorau, gan gynnwys amcanion penodol a pherthnasol
nodi a blaenoriaethu mesurau perfformiad allweddol a dulliau monitro a gwerthuso'r strategaeth, gan bennu a ddylid defnyddio adnoddau allanol ar eu cyfer
nodi'r camau gweithredu a'r adnoddau angenrheidiol i weithredu'r strategaeth y cytunir arni, gydag amserlen ar gyfer cymryd y camau a nodwyd
cyflwyno'r cynllun strategol, a cheisio cael pob rhanddeiliad perthnasol i ymrwymo i'w gyflawni
cadw cofnodion a dogfennau cywir a chyfredol y mae modd eu hadfer, yn unol â gofynion eich sefydliad
llunio datganiad o fwriad sy'n amlinellu cerrig milltir, atebolrwydd, ffiniau cyfrifoldebau a chamau gweithredu clir
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
deddfwriaeth, rheoliadau, codau ymarfer a chanllawiau perthnasol a chyfredol yn ogystal â gofynion y sefydliad sy’n ymwneud â datblygu cynlluniau strategol ar gyfer darparu diogelwch mewn digwyddiad, a’u heffaith ar eich maes gwaith
rôl eich sefydliad a sefydliadau eraill sy’n ymwneud â gwasanaethau diogelwch mewn digwyddiadau yn eich ardal
strategaeth gyffredinol eich sefydliad sy’n berthnasol i ddarparu diogelwch mewn digwyddiad
cyfyngiadau eich awdurdod a chyfrifoldeb, a’r camau i’w cymryd os eir y tu hwnt i’r cyfyngiadau hynny
mentrau lleol a chenedlaethol perthnasol, a’u heffaith o ran darparu diogelwch mewn digwyddiad yn eich ardal
y ffactorau sy’n effeithio ar y galw am ddiogelwch mewn digwyddiad yn eich ardal leol
pwysigrwydd cynllunio ar gyfer y tymor hir a’r tymor canol i lwyddiant sefydliad
egwyddorion cynllunio strategol
y meysydd y mae’n rhaid ymdrin â hwy mewn cynllun strategol ar gyfer diogelwch mewn digwyddiad
anghenion a disgwyliadau’r cwsmeriaid sy’n ymwneud â diogelwch mewn digwyddiad
sut mae adnabod y risgiau posibl sy’n berthnasol i gyflawni’r amcanion
sut mae datblygu datganiad o fwriad sy’n amlinellu cerrig milltir, atebolrwydd, ffiniau cyfrifoldebau a chamau gweithredu clir
sut mae dirprwyo cyfrifoldeb a dyrannu adnoddau i gefnogi cynllun strategol
sut mae datblygu cynlluniau wrth gefn er mwyn mynd i’r afael â risgiau ac amgylchiadau sy’n newid
pwysigrwydd ymgynghori â chydweithwyr a rhanddeiliaid eraill wrth ddatblygu’r cynllun strategol, a sut mae gwneud hyn yn effeithiol
sut mae datblygu mesurau a dulliau i fonitro a gwerthuso perfformiad o’i gymharu â’r cynllun strategol, gan gynnwys dangosyddion perfformiad allweddol
ffynonellau gwybodaeth i helpu i fonitro a gwerthuso’r cynllun strategol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol hyn;