Cefnogi’r gwaith o gynllunio digwyddiad
Trosolwg
Mae’r Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon yn gosod y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i chi gasglu’r wybodaeth berthnasol i ddatblygu proffil digwyddiad.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cysylltu â’r holl bobl berthnasol er mwyn i chi allu llunio cynllun adferadwy sy’n nodi trefn a hyd y gweithgareddau yn glir ynghyd â dyrannu adnoddau
creu llinell amser a neilltuo digon o amser i bob cam ym mhroses y digwyddiad er mwyn bodloni amcanion a defnyddio adnoddau’n effeithiol
cysylltu’n agos â phobl berthnasol sy’n ymwneud â chynllunio ac amserlennu gweithgareddau digwyddiadau
nodi ac ystyried ffactorau sy’n debygol o achosi oedi a chanslo gweithgareddau mewn digwyddiadau
llunio cynlluniau realistig wrth gefn i ddelio ag unrhyw oedi a chanslo a all godi
cael y caniatâd a’r gymeradwyaeth angenrheidiol
gwneud yn siŵr bod cynlluniau ac amserlenni digwyddiadau yn gywir a’u bod yn cynnwys yr holl wybodaeth hanfodol
cyflwyno cynlluniau ac amserlenni yn glir, a’u dosbarthu’n ddi-oed i’r holl bobl berthnasol
annog pobl berthnasol i nodi a mynegi unrhyw bryderon sydd ganddynt am ymarferoldeb cynlluniau ac amserlenni
awgrymu atebion realistig, pan nodir bod anawsterau wrth roi’r cynllun ar waith
rhoi gwybod ar unwaith i’r holl bobl berthnasol am newidiadau i’r amserlenni
cyfrannu at lunio a chynnal a chadw cynllun y digwyddiad a chyfeirio ato drwy’r amser
nodi a blaenoriaethu mesurau perfformiad allweddol a dulliau monitro a gwerthuso’r strategaeth
nodi gofynion y digwyddiad o ran adnoddau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
trefn ofynnol y gweithgareddau a’r hyd tebygol yng ngwahanol gamau proses y digwyddiad
pwysigrwydd y llinell amser
ffactorau sy’n effeithio ar y ffordd y mae gweithgareddau’n cael eu hamserlennu
natur a phwysigrwydd cymharol y gweithgareddau sy’n digwydd yng ngwahanol gamau proses y digwyddiad
sut mae gwahanol amgylcheddau digwyddiad, mathau a maint digwyddiadau yn debygol o effeithio ar amserlennu’r gweithgareddau
y cynlluniau ar waith i ddelio â’r mathau o sefyllfaoedd a all godi ac sy’n gofyn am gynllunio wrth gefn rhwng sefydliadau perthnasol
ffactorau y dylid eu cynnwys yn y cynllun digwyddiad adferadwy
y mathau o anawsterau a allai godi wrth roi’r cynllun ar waith, a sut y gellid datrys y rhain
pwy fydd angen cael gwybod am newidiadau i gynllun digwyddiad
pwysigrwydd cynllun digwyddiad
pam a sut mae nodi a blaenoriaethu’r mesurau perfformiad allweddol a dulliau monitro a gwerthuso’r strategaeth
sut a pham ei bod yn bwysig nodi gofynion y digwyddiad o ran adnoddau
nodi rolau a chyfrifoldebau sefydliadau a phobl berthnasol
fformat priodol cynllun y digwyddiad, a yw’r cynllun ar gael yn hwylus ac i bwy mae’r cynllun yn cael ei ddosbarthu
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa