Ymateb i argyfwng yn ystod digwyddiad
Trosolwg
Mae’r Safon Alwedigaethol Genedlaethol hon yn gosod y sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth i chi ddarparu ymateb i argyfwng yn ystod digwyddiad er mwyn helpu i ddiogelu bywyd, asedau a lles unigolion.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
cael y wybodaeth berthnasol i benderfynu ar statws cyfredol yr ymateb a helpu i wneud penderfyniad o fewn protocolau rheoli digwyddiadau
gwneud asesiad cychwynnol o’r sefyllfa ac adrodd am hyn wrth y bobl berthnasol yn unol â gweithdrefnau sydd wedi’u sefydlu
cymryd unrhyw gamau gofynnol ar unwaith i osgoi niwed, anaf neu golled sylweddol i chi’ch hun neu i bobl eraill
llunio cynllun gweithredu o fewn cylch gwaith eich cyfrifoldeb, sy’n ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael
cadarnhau lleoliad gwasanaethau a chyfleusterau perthnasol a’u bod ar gael, gan ystyried y posibilrwydd y gall yr argyfwng fynd yn waeth
nodi unrhyw adnoddau angenrheidiol i ateb gofynion yr ymateb
gweithio a chyfathrebu’n effeithiol â sefydliadau partner, rhanddeiliaid a phobl eraill sy’n ymateb
sicrhau bod y camau gweithredu a gymerir yn adlewyrchu unrhyw ddeddfwriaeth, rheoliadau, codau ymarfer a chanllawiau perthnasol a chyfredol
sicrhau bod gwybodaeth gywir yn cael ei rhannu â’r holl sefydliadau perthnasol er mwyn sicrhau ymateb a chydlynu effeithiol
cymryd camau gweithredu ar y lefel briodol mewn da bryd, gan gadarnhau rolau, cyfrifoldebau, tasgau a sianeli cyfathrebu
cynnal asesiad risg a rheoli drwy’r amser wrth ymateb i natur ddeinamig yr argyfwng
cael gafael ar gyngor proffesiynol a thechnegol a’i ddarparu
monitro a sicrhau iechyd, diogelwch a lles unigolion yn ystod yr ymateb
sicrhau bod unrhyw unigolyn yn eich maes cyfrifoldeb yn cael gwybodaeth lawn cyn ac ar ôl
gwerthuso effeithiolrwydd yr ymateb ar y cyd â phartïon perthnasol eraill a defnyddio’r wybodaeth hon i lywio ymarfer yn y dyfodol
cofnodi’ch penderfyniadau, gweithredoedd, opsiynau a rhesymau’n llawn yn unol â’r wybodaeth, y polisi a’r ddeddfwriaeth bresennol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
deddfwriaeth, rheoliadau, codau ymarfer a chanllawiau perthnasol a chyfredol ar gyfer ymateb i argyfwng
deddfwriaeth berthnasol gyfredol a gofynion y sefydliad o ran lles, iechyd a diogelwch
eich rôl a lefel cyfrifoldeb yn y tîm ymateb
egwyddorion Rheolaeth Integredig mewn Argyfwng (IEM)
sut mae llunio cynllun gweithredu sy’n ystyried yr holl wybodaeth sydd ar gael
egwyddorion ymateb ac adfer effeithiol
cynlluniau a threfniadau perthnasol mewn argyfwng gan gynnwys gweithdrefnau a bennir o flaen llaw ar gyfer cynnwys sefydliadau eraill
y math o adnoddau a all fod yn angenrheidiol a sut mae cael gafael arnynt
y camau gweithredu i’w cymryd pan mae cyfyngiadau o ran yr adnoddau sydd ar gael ac o ran eu defnyddio
ffynonellau cyngor proffesiynol a thechnegol
sut gellid defnyddio’r cyfryngau i ddarparu gwybodaeth i’r rheini sy’n bresennol ac i gymunedau ehangach
sut mae casglu a dadansoddi gwybodaeth berthnasol ar lefel eich cyfrifoldeb
effaith bosibl achosion o argyfwng ar unigolion, cymunedau ac ar yr amgylchedd
sut mae sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu drwy’r amser i unigolion yr effeithir arnynt gan yr argyfwng
diben cofnodi gwybodaeth a’r mathau o gofnodion y dylid eu cadw
sut mae monitro ac adolygu effeithiolrwydd gweithredoedd ymateb ynghyd â rhai eraill perthnasol
egwyddorion gorchymyn, rheoli a chydlynu a’r hyblygrwydd posibl rhwng lefelau ymateb
amgylchiadau lle mae angen arbenigedd neu gydlynu y tu hwnt i lefel eich cyfrifoldeb
y gweithdrefnau cywir ar gyfer trosglwyddo cyfrifoldeb
rolau a chyfrifoldebau sefydliadau partner sy’n rhan o’r broses ymateb ac adfer
gwybodaeth berthnasol am sefydliadau partner gan gynnwys dulliau cyfathrebu, proses gwneud penderfyniadau a chyfyngiadau
sut mae cyfathrebu ag unigolion yr effeithir arnynt gan yr argyfwng mewn modd sy’n hyrwyddo dealltwriaeth
sut mae gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar asesiad risg a’u rhoi ar waith
rolau, cyfrifoldebau ac anghenion gwybodaeth sefydliadau sy’n rhan o’r broses ymateb
polisi eich sefydliad ar gyfer delio â’r cyfryngau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Yn y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol hyn;