Lleihau a delio ag ymddygiad ymosodol a difrïol
URN: SFSCWD3
Sectorau Busnes (Suites): Wardeiniaid Cymunedol
Datblygwyd gan: Energy & Utility Skills
Cymeradwy ar:
30 Tach 2005
Trosolwg
Mae'r Safon Alwedigaethol Genedlaethol (NOS) hon ar gyfer wardeiniaid cymdeithasol. Mae’n nodi'r sgiliau, yr wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i atal neu i ddelio ag ymddygiad ymosodol neu ddifrïol. Mae’n debygol y bydd y Safon hon yn berthnasol mewn amgylcheddau risg uchel.
Mae'r Safon yn ymdrin â'r gweithgareddau canlynol:
• Helpu i atal ymddygiad ymosodol a difrïol
• Delio ag ymddygiad ymosodol a difrïol
• Adolygu beth sydd wedi achosi digwyddiadau
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Helpu i atal ymddygiad ymosodol a difrïol
1. cyfathrebu â phobl mewn ffordd sy'n dangos parch tuag atyn nhw, eu heiddo a’u hawliau
2. cyfathrebu â phobl mewn ffordd sy’n briodol iddyn nhw fel sydd wedi'i ragnodi yn y gweithdrefnau sefydliadol
3. bod ag agwedd bwyllog, broffesiynol a chysurol tuag at y rheini sy’n ymddwyn mewn modd annerbyniol
4. esbonio’n glir beth yw eich rôl a beth y mae’n rhaid ichi ei wneud
5. cynllunio ffordd realistig o adael y sefyllfa os oes perygl o ymddygiad ymosodol neu ddifrïol, yn unol â'r hyfforddiant rydych wedi'i gael
6. gwneud a dweud cyn lleied o bethau â phosibl a allai ysgogi ymddygiad ymosodol a difrïol, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a'r hyfforddiant rydych chi wedi'i gael
Delio ag ymddygiad ymosodol a difrïol
7. adnabod arwyddion cyffredin sy’n dangos bod sefyllfa’n arwain at ymddygiad ymosodol neu ddifrïol
8. cadw'ch pen a chymryd camau adeiladol i dawelu ymddygiad ymosodol a difrïol, yn unol â'r hyfforddiant rydych chi wedi'i gael, gweithdrefnau'r cwmni a’ch cyfrifoldebau cyfreithiol
9. gadael sefyllfa mewn ffyrdd sy'n lleddfu i'r eithaf ar y perygl o niwed i chi ac i eraill
10. os na allwch dawelu’r sefyllfa, gofyn am gymorth ar unwaith gan ddilyn gweithdrefnau sefydliadol
Adolygu beth sydd wedi achosi digwyddiadau
11. dilyn gweithdrefnau sefydliadol i archwilio beth sydd wedi achosi digwyddiadau
12. trafod â phobl berthnasol a oedd gweithdrefnau sefydliadol wedi helpu’r sefyllfa neu ei llesteirio
13. rhoi gwybodaeth gywir ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd i bobl briodol yn ddi-oed, gan gwblhau dogfennau os oes angen
14. cynnig argymhellion i’r bobl berthnasol er mwyn lleihau’r risg o ragor o ddigwyddiadau tebyg
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gofynion cyfreithiol a sefydliadol:
1. beth yw'r ddeddfwriaeth berthnasol gyfredol, y rheoliadau, y codau ymarfer a'r canllawiau sy'n berthnasol i ddelio ag ymddygiad ymosodol a difrïol
2. gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer delio ag ymddygiad ymosodol neu ddifrïol
3. eich cyfrifoldebau chi o ran delio ag ymddygiad ymosodol a difrïol
4. yr adroddiadau sydd angen eu gwneud a’r cofnodion sydd angen eu cadw pan fydd rhywun yn troi’n ymosodol neu’n ddifrïol
Ymddygiad ymosodol a difrïol
5. y prif arwyddion y gallai sefyllfa arwain at ymddygiad ymosodol neu ddifrïol a sut mae adnabod y rhain
6. yr egwyddorion asesu risg sy’n berthnasol i sefyllfaoedd a allai ysgogi ymddygiad ymosodol neu ddifrïol
7. y goblygiadau i rywun sy’n ymddwyn yn ymosodol neu’n ddifrïol
Eich ymddygiad chi
8. pam ei bod yn bwysig dangos parch tuag at bobl, eu heiddo a’u hawliau a sut mae gwneud hynny
9. ystumiau, ymddygiad neu iaith a allai ddangos i bobl eraill eich bod yn gwahaniaethu neu’n ymddwyn yn ormesol
10. iaith y corff, ystumiau a safle a sut mae cydnabod gofod personol pobl eraill
11. mathau o ymddygiad, ffyrdd o siarad ac iaith adeiladol y gallwch chi eu defnyddio i dawelu sefyllfaoedd yn hytrach na’u cyffroi
12. ymddygiad sy'n gallu hybu tawelwch a sicrwydd
13. pam ei bod yn bwysig cael strategaethau ymadael diogel ar gyfer gadael sefyllfa os oes perygl corfforol
14. sut mae ymryddhau o gyfyngu corfforol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Tach 2018
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Security
URN gwreiddiol
Skills for Security
Galwedigaethau Perthnasol
Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol
Cod SOC
3565
Geiriau Allweddol
cymuned; warden; ymosodol; difrïol; ymddygiad; gwrthdaro; atal; diogelwch