Lleihau a delio ag ymddygiad ymosodol a chamdriniol
Trosolwg
Mae’r NOS hwn yn cyflwyno’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth ar eich cyfer chi i atal neu ddelio ag ymddygiad ymosodol neu gamdriniol
Mae dau faes:
1. Helpu i atal ymddygiad ymosodol a chamdriniol
Delio ag ymddygiad ymosodol a chamdriniol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Helpu i atal ymddygiad ymosodol a chamdriniol
P1 cyfathrebu â phobl mewn ffordd sy’n dangos parch tuag atyn nhw, eu heiddo a’u hawliau
P2 cyfathrebu â phobl mewn ffordd sy’n briodol iddyn nhw
P3 esbonio’n glir beth yw eich rôl a beth mae’n rhaid i chi ei wneud
P4 cynllunio sut byddwch chi’n gadael y sefyllfa os oes risg ymddygiad camdriniol ac ymosodol
P5 lleihau gweithredoedd neu eiriau a allai sbarduno ymddygiad camdriniol ac ymosodol
Delio ag ymddygiad ymosodol a chamdriniol
P6 adnabod pan fydd sefyllfa yn arwain at ymddygiad ymosodol neu gamdriniol
P7 cymryd camau adeiladol i dawelu ymddygiad ymosodol a chamdriniol sy’n gyson â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad, a’ch cyfrifoldebau cyfreithiol
P8 amlygu i’r bobl dan sylw ganlyniadau tebygol eu hymddygiad ymosodol a chamdriniol
P9 ymddwyn mewn ffordd sy’n debygol o hyrwyddo pwyll a sicrwydd
P10 defnyddio strategaeth ymadael, os bydd angen, mewn ffordd sy’n lleihau risg anaf i chi’ch hun ac i eraill
P11 rhoi gwybod am yr hyn sydd wedi digwydd yn brydlon ac yn gywir a chwblhau’r holl ddogfennau angenrheidiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gofynion cyfreithiol a sefydliadol
K1 polisïau, gweithdrefnau a chyfrifoldebau eich sefydliad o ran delio ag ymddygiad ymosodol a chamdriniol
K2 y mathau o ymddygiad adeiladol y gallwch ymgymryd â nhw i dawelu sefyllfaoedd, yn unol â pholisïau a gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer delio ag ymddygiad ymosodol neu gamdriniol
K3 eich cyfrifoldebau cyfreithiol o ran delio ag ymddygiad ymosodol a chamdriniol
Helpu i atal ymddygiad ymosodol a chamdriniol
K4 pwysigrwydd dangos parch tuag at bobl, eu heiddo a’u hawliau, a sut i wneud hynny
K5 ymddygiad neu iaith a allai ddangos i bobl eraill eich bod yn gwahaniaethu neu’n bod yn ormesol
K6 iaith y corff a chydnabod gofod personol pobl eraill
K7 egwyddorion asesu risg o ran bod yn ymwybodol o bethau a all sbarduno ymddygiad camdriniol ac ymosodol
K8 pwysigrwydd cynllunio sut byddwch yn gadael sefyllfa os bydd risg gorfforol, a sut i wneud hynny
K9 y prif arwyddion y gallai sefyllfa arwain at ymddygiad ymosodol a chamdriniol a sut i adnabod y rhain
Delio ag ymddygiad ymosodol a chamdriniol
K10 y goblygiadau posibl os bydd rhywun yn mynd yn ymosodol neu’n gamdriniol
K11 deall pwysigrwydd strategaethau gadael diogel
K12 yr adroddiadau y mae’n rhaid eu gwneud a’r cofnodion y mae’n rhaid eu cadw pan fydd rhywun yn mynd yn ymosodol neu’n gamdriniol
Cwmpas/ystod
1. cyfathrebu
1.1. iaith a lleferydd
1.2. gweithredoedd
1.3. ystumiau ac iaith y corff
gofod a safle