Datblygu perthynas waith gynhyrchiol gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid

URN: SFS9W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar: 31 Maw 2009

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â datblygu perthynas waith gynhyrchiol gyda chydweithwyr, yn eich sefydliad eich hun ac mewn sefydliadau eraill sy’n gweithio â’ch sefydliad chi, a chyda rhanddeiliaid a nodir.


Mae’n ymwneud â bod yn ymwybodol â rolau, cyfrifoldebau, diddordebau a phryderon cydweithwyr a rhanddeiliaid, a gweithio gyda hwy a’u cefnogi mewn amrywiol ffyrdd.  Mae’r angen i fonitro ac adolygu effeithiolrwydd y berthynas waith gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid hefyd yn un o brif ofynion yr uned hon.

Ystyrir bod ‘cydweithwyr’ yn unrhyw bobl y mae disgwyl i chi weithio a hwy, boed hwy’n gweithio mewn swydd debyg i chi neu mewn swydd arall o ran lefel cyfrifoldeb, gan gynnwys eich rheolwr. 

At ddiben yr uned hon, mae ‘rhanddeiliaid’ yn cyfeirio at unigolion neu sefydliadau sydd â diddordeb sylweddol, cyfreithiol neu wleidyddol yng ngweithgareddau a pherfformiad eich sefydliad neu yr effeithir arnynt gan hynny.  

Daw’r safon hon o’r gyfres o safonau Rheoli a Dysgu y Ganolfan Safonau Rheoli (MSC) lle mae’n ymddangos fel Uned D2.

Mae’r uned hon yn cynnwys y gweithgaredd canlynol:

Datblygu perthynas waith gynhyrchiol gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid

Grŵp Targed

Cydweithwyr, yn eich sefydliad eich hun ac mewn sefydliadau eraill sy’n gweithio â’ch sefydliad chi, a chyda rhanddeiliaid a nodir.

Daw’r safon hon o’r gyfres o safonau Rheoli a Dysgu y Ganolfan Safonau Rheoli (MSC) lle mae’n ymddangos fel Uned D2.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Datblygu perthynas waith gynhyrchiol gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid


  1. adnabod rhanddeiliaid a nodi cefndir a natur eu diddordeb yng ngweithgareddau a pherfformiad y sefydliad

  2. sefydlu perthynas waith gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid perthnasol

  3. cydnabod a pharchu rolau, cyfrifoldebau, diddordebau a phryderon cydweithwyr a rhanddeiliaid ac, yn benodol, mewn sefyllfaoedd rheoli ar sail matrics, a gofynion eu rheolwyr

  4. creu amgylchedd o ymddiriedaeth a chyd-barch lle nad oes gennych awdurdod, neu eich bod yn rhannu awdurdod, dros y rheini sy’n gweithio gyda chi

  5. deall sefyllfaoedd a materion anodd o safbwynt eich cydweithiwr a rhoi cymorth, pan fo angen, i symud pethau ymlaen 

  6. darparu gwybodaeth briodol i gydweithwyr a rhanddeiliaid er mwyn iddynt allu perfformio’n effeithiol 

  7. ymgynghori â chydweithwyr a rhanddeiliaid ynghylch penderfyniadau a gweithgareddau allweddol a rhoi sylw i’w barn, gan gynnwys eu blaenoriaethau, eu disgwyliadau a’u hagweddau at risgiau posibl 

  8. cyflawni cytundebau a wneir gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid, a rhoi gwybod iddynt

  9. rhoi gwybod yn syth i gydweithwyr a rhanddeiliaid am unrhyw anhawster neu os bydd yn amhosibl cyflawni cytundebau

  10. nodi a datrys unrhyw wrthdaro rhwng buddiannau ac anghytundebau â chydweithwyr a rhanddeiliaid mewn ffyrdd sy’n lliniaru’r niwed i waith a gweithgareddau ac i’r unigolion a’r sefydliadau dan sylw 

  11. monitro ac adolygu effeithiolrwydd y berthynas waith gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid, gofyn am adborth a’i roi, er mwyn gweld pa feysydd y gellid eu gwella

  12. monitro datblygiadau pellach er mwyn nodi materion o ddiddordeb neu bryder posibl i randdeiliaid yn y dyfodol ac i adnabod rhanddeiliaid newydd


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol


1. manteision datblygu perthynas waith gynhyrchiol gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid
2. gwahanol fathau o randdeiliaid a phrif egwyddorion sy’n sail i’r cysyniad o ‘randdeiliad’
3. sut mae adnabod rhanddeiliaid eich sefydliad, gan gynnwys gwybodaeth gefndir a natur eu diddordeb yn eich sefydliad
4. egwyddorion cyfathrebu effeithiol a sut mae eu rhoi ar waith er mwyn cyfathrebu’n effeithiol â chydweithwyr a rhanddeiliaid
5. pam ei bod yn bwysig cydnabod a pharchu rolau, cyfrifoldebau, diddordebau a phryderon cydweithwyr a rhanddeiliaid
6. pwysigrwydd creu amgylchedd o ymddiriedaeth a chyd-barch lle nad oes gennych awdurdod, neu eich bod yn rhannu awdurdod, dros y rheini sy’n gweithio gyda chi 
7. pwysigrwydd deall sefyllfaoedd a materion anodd o safbwynt eich cydweithiwr a rhoi cymorth, pan fo angen, i symud pethau ymlaen 
8. sut mae adnabod anghenion gwybodaeth cydweithwyr a rhanddeiliaid a diwallu'r anghenion hynny
9. pa wybodaeth sy’n briodol ei darparu ar gyfer cydweithwyr a rhanddeiliaid a’r ffactorau y mae angen eu hystyried
10. sut mae ymgynghori â chydweithwyr a rhanddeiliaid ynghylch penderfyniadau a gweithgareddau allweddol
11. pwysigrwydd ystyried a chael eich gweld yn ystyried, barn cydweithwyr a rhanddeiliaid, yn enwedig gyda golwg ar eu blaenoriaethau, eu disgwyliadau a’u hagweddau at risgiau posibl
12. pam ei bod yn bwysig cyfathrebu â chydweithwyr a rhanddeiliaid ynglŷn â chyflawni cytundebau neu ynglŷn ag unrhyw broblemau sy’n effeithio ar eu cyflawni neu’n atal hynny
13. sut mae gweld bod gwrthdaro rhwng buddiannau cydweithwyr a rhanddeiliaid a’r technegau y gellir eu defnyddio i’w reoli neu gael gwared ar hynny
14. sut mae adnabod anghytundebau gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid a’r technegau ar gyfer eu datrys
15. y niwed y gall gwrthdaro rhwng buddiannau ac anghytundebau gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid ei achosi i unigolion a sefydliadau
16. sut mae rhoi sylw i faterion yn ymwneud ag amrywiaeth wrth ddatblygu perthynas waith â chydweithwyr a rhanddeiliaid
17. sut mae adnabod a rhoi sylw i faterion gwleidyddol wrth ymdrin â chydweithwyr a rhanddeiliaid
18. sut mae rheoli disgwyliadau cydweithwyr a rhanddeiliaid
19. sut mae monitro ac adolygu effeithiolrwydd y berthynas waith gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid
20. sut mae cael adborth am effeithiolrwydd y berthynas waith gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid a defnyddio’r adborth hwnnw’n effeithiol
21. sut mae rhoi adborth defnyddiol i gydweithwyr a rhanddeiliaid ynghylch effeithiolrwydd y berthynas waith
22. pwysigrwydd monitro datblygiadau pellach mewn perthynas â rhanddeiliaid a sut mae gwneud hynny'n effeithiol 

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n berthnasol i ddiogelwch

23. datblygiadau presennol a newydd mewn materion gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol, technolegol, cyfreithiol ac amgylcheddol yn eich maes diogelwch
24. deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau a chodau ymarfer sy’n berthnasol i i’ch maes diogelwch
25. safonau ymddygiad a pherfformiad yn eich maes diogelwch
26. diwylliant eich maes diogelwch
27. datblygiadau, materion a phynciau o bwys i randdeiliaid yn eich maes diogelwch

Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n berthnasol i gyd-destun penodol

28. gweledigaeth, gwerthoedd, amcanion, cynlluniau, strwythur a diwylliant eich sefydliad
29. cydweithwyr perthnasol, eu rolau gwaith a’u cyfrifoldebau
30. rhanddeiliaid a nodir, eu cefndir a’u diddordeb yng ngweithgareddau a pherfformiad y sefydliad
31. cytundebau â chydweithwyr a rhanddeiliaid
32. y wybodaeth y nodwyd bod ei hangen ar gydweithwyr a rhanddeiliaid
33. mecanweithiau ar gyfer ymgynghori â chydweithwyr a rhanddeiliaid am benderfyniadau a gweithgareddau allweddol
34. prosesau cynllunio a gwneud penderfyniadau’r sefydliad
35. mecanweithiau cyfathrebu â chydweithwyr a rhanddeiliaid
36. grym, dylanwad a gwleidyddiaeth o fewn y sefydliad
37. safonau ymddygiad a pherfformiad disgwyliedig yn y sefydliad
38. mecanweithiau ar gyfer monitro ac adolygu effeithiolrwydd y berthynas waith gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2013

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Management Standards Centre

URN gwreiddiol

D2

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cynhyrchiol; perthynas; cydweithwyr; rhanddeiliaid