*
1. deall rolau a chyfrifoldebau’r gwahanol bobl ac asiantaethau a fydd yn gweithio gyda chi
2. cytuno a chofnodi trefniadau ar gyfer cydweithio sy’n:
a) addas i natur a phwrpas y gwaith,
b) tebygol o fod yn effeithiol o ran cyflawni eu nodau
3. cytuno ar y wybodaeth y mae angen ei rhannu, y rhesymau dros hyn a sut mae sicrhau diogelwch gwybodaeth
4. trafod a chytuno ar sut a phryd y bydd y cydweithio’n cael ei fonitro a’i adolygu
Cynnal gweithio effeithiol gyda staff mewn asiantaethau eraill *
5. cyflawni’ch rôl yn y cydweithio mewn modd sy’n gyson â’r cytundebau a wnaed, rôl eich swydd eich hun a pholisïau a safonau perthnasol
6. rhyngweithio â phobl yn yr asiantaeth arall mewn ffyrdd sy’n:
7. annog perthynas a chyfranogi effeithiol,
8. parchu eu safbwyntiau, eu rolau a’u cyfrifoldebau,
9. hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth,
10. cydnabod y gwerth o gydweithio
11. cynrychioli safbwyntiau a pholisïau’ch asiantaeth mewn modd clir ac adeiladol
12. sylwi ar unrhyw densiynau a phroblemau yn y cydweithio a cheisio eu datrys gyda’r bobl dan sylw
13. gofyn am y cymorth priodol pan gewch anhawster gweithio’n effeithiol gyda staff mewn asiantaethau eraill