Rhoi delwedd gadarnhaol ohonoch chi’ch hun
URN: SFS5W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar:
30 Ebr 2007
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfathrebu â chwsmeriaid a rhoi darlun cadarnhaol ohonoch chi eich hun pan fyddwch chi’n delio â chwsmer. Wrth wneud hyn, byddwch hefyd yn rhoi darlun cadarnhaol o’ch sefydliad a’r gwasanaeth cwsmeriaid mae’n ei ddarparu.
Mae’r uned hon yn cynnwys y gweithgareddau canlynol:
• Sefydlu perthynas effeithiol â chwsmeriaid
• Ymateb i gwsmeriaid yn briodol
• Cyfleu gwybodaeth i gwsmeriaid
Grŵp Targed
Mae’r safon hon ar gyfer y rheini sy’n gweithio ym maes gwasanaeth cwsmeriaid gan greu’r argraff gywir, ymateb i eraill a darparu gwybodaeth dda.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Sefydlu perthynas effeithiol â chwsmeriaid
1. bodloni safonau’ch sefydliad o ran gwedd ac ymddygiad
2. cyfarch eich cwsmer yn barchus ac mewn modd cyfeillgar
3. cyfathrebu â’ch cwsmer mewn modd sy’n gwneud iddo deimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i barchu
4. adnabod a chadarnhau disgwyliadau’ch cwsmer
5. trin eich cwsmer yn gwrtais ac yn gymwynasgar bob amser
6. rhoi gwybodaeth a sicrwydd i’ch cwsmer drwy’r amser
7. addasu’ch ymddygiad i ymateb yn effeithiol i wahanol ymddygiad gan y cwsmer
Ymateb i gwsmeriaid yn briodol *
8. ymateb yn brydlon i gwsmer sy’n chwilio am gymorth
9. dewis y ffordd fwyaf priodol o gyfathrebu â’ch cwsmer
10. holi eich cwsmer i wneud yn siŵr eich bod wedi deall ei ddisgwyliadau yn llwyr
11. ymateb yn syth ac yn gadarnhaol i gwestiynau a sylwadau’ch cwsmer
12. rhoi amser i'ch cwsmer ystyried eich ymateb a rhoi esboniad pellach pan fo hynny’n briodol
Cyfleu gwybodaeth i gwsmeriaid*
13. dod o hyd i wybodaeth yn gyflym a fydd o gymorth i’ch cwsmer
14. rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar eich cwsmer am y gwasanaethau neu’r cynnyrch a gynigir gan eich sefydliad
15. adnabod gwybodaeth y gallai eich cwsmer ei gweld yn gymhleth a gwneud yn siŵr ei fod wedi deall popeth yn llwyr
16. esbonio unrhyw resymau yn glir i’ch cwsmer pam na ellir bodloni ei anghenion neu ei ddisgwyliadau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Rhoi delwedd gadarnhaol ohonoch chi’ch hun
*
*
1. safonau’ch sefydliad o ran gwedd ac ymddygiad
2. canllawiau’ch sefydliad ar gyfer sut mae gwybod beth sydd eisiau ar eich cwsmer ac ymateb yn briodol
3. rheolau a gweithdrefnau’ch sefydliad ynghylch y dulliau cyfathrebu rydych chi’n eu defnyddio
4. sut mae gwybod pan fydd cwsmer yn flin neu wedi drysu
5. safonau eich sefydliad o ran prydlondeb wrth ymateb i gwestiynau cwsmeriaid a cheisiadau am wybodaeth
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Ebr 2012
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Security
URN gwreiddiol
SFS5
Galwedigaethau Perthnasol
Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol
Cod SOC
Geiriau Allweddol
delwedd; cadarnhaol; cyfathrebu; darlun; cwsmer