Cyfathrebu’n effeithiol ag eraill
1. gweithdrefnau a pholisïau’r sefydliad, a’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chyfathrebu ac yn benodol â diogelwch a rheoli gwybodaeth
2. natur cyfathrebu effeithiol (gan gynnwys pan fyddwch chi’n teimlo’n hyderus wrth gyfathrebu a phan na fyddwch chi)
3. y rhesymau pam mae cyfathrebu’n effeithiol yn agwedd hanfodol o waith yn y sector diogelwch
4. yr hyn sy’n rhwystro cyfathrebu effeithiol gan gynnwys:
a) y rhwystrau sy’n ymwneud â gwahaniaethau personol o ran: diwylliant, iaith, rhyw unigolyn, lefelau llythrennedd, profiad, iechyd/salwch
b) rhwystrau amgylcheddol
c) rhwystrau cymdeithasol
5. sut mae addasu’r cyfathrebu fel bod llai o wahaniaethau rhyngoch chi a’r bobl rydych chi’n cyfathrebu â hwy
6. sut mae cyfathrebu â phobl mewn ffyrdd sy’n agored iddynt, yn dangos parch ac yn hyrwyddo cydraddoldeb ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth (heb ddefnyddio geiriau, ar lafar, ar bapur ac yn electronig)
7. sut mae cyd-destun y cyfathrebu’n gallu effeithio ar allu pobl i ddeall a chyfathrebu
8. y rhesymau pam ddylid holi pobl i wneud yn siŵr eu bod yn deall y wybodaeth rydych chi’n ei rhoi iddynt a rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau
9. y camau y gellir eu cymryd i leihau rhwystrau rhag cyfathrebu a sut mae eu rhoi ar waith
10. natur a diben y cofnodion a wnewch
11. natur y wybodaeth a allai fod yn sensitif a/neu’n gyfrinachol, a’r ffordd gynnil o drin hyn
12. y rhesymau dros wneud cofnodion sydd ond yn cynnwys y wybodaeth sy’n angenrheidiol at ddiben y cofnod, heb labelu na gwahaniaethu
13. y rhesymau dros ddatgelu gwybodaeth i’r bobl hynny yn unig sydd â’r hawl i’w chael ac y mae angen iddynt wybod, a sut rydych chi’n gwybod pwy yw’r bobl hyn
14. beth yw’r rhagofalon priodol wrth gyfleu gwybodaeth
15. sut mae defnyddio a storio gwybodaeth mewn modd diogel a saff
16. y rhesymau dros roi gwybod i rywun priodol pan fyddwch yn pryderu am faterion yn codi ynghylch defnyddio/camddefnyddio gwybodaeth, a phwy allai’r unigolyn hwnnw fod ar wahanol achlysuron ac o dan wahanol amgylchiadau