Defnyddio offer radio i gyfathrebu’n effeithiol

URN: SFS17W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar: 30 Ebr 2007

Trosolwg

​Mae’r safon hon yn ymwneud â defnyddio offer radio yn effeithiol, gan gynnwys darlledu a derbyn dros y radio.


Mae’r uned hon yn cynnwys y gweithgaredd canlynol:

Defnyddio offer radio i gyfathrebu’n effeithiol 

Grŵp Targed

Mae’r safon hon yn berthnasol i unigolion sy’n gorfod cyfathrebu’n effeithiol drwy ddefnyddio offer radio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

*​Defnyddio offer radio i gyfathrebu’n effeithiol *


  1. defnyddio offer radio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr

  2. cydnabod ac ymateb yn glir ac yn syth i negeseuon a ddaw i mewn, gan ddefnyddio’r derminoleg a’r gweithdrefnau priodol ar gyfer eich sefydliad

  3. trosglwyddo gwybodaeth i’r bobl briodol, ac i’r rheini sydd â’r awdurdod i’w chael, o fewn amserlenni y cytunir arni yn y sefydliad

  4. defnyddio offer cyfathrebu am allan yn unol â gweithdrefnau a chanllawiau’ch sefydliad

  5. cadarnhau bod y bobl sy’n cael y wybodaeth gennych yn ei deall

  6. defnyddio’r wyddor ffonetig yn gywir, lle bo angen 

  7. cydymffurfio â rheoliadau statudol wrth ddefnyddio sianeli ac amledd 

  8. cydymffurfio â rheoliadau a gweithdrefnau’ch sefydliad wrth ddarlledu a derbyn dros y radio

  9. rhoi gwybod ar unwaith ac yn gywir i’r unigolyn perthnasol am unrhyw anawsterau wrth ddarlledu a derbyn gwybodaeth

  10. cadw cofnodion cyfredol, cyflawn a chywir o negeseuon a ddarlledir ac a dderbynnir


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Defnyddio offer radio i gyfathrebu’n effeithiol


  1. effaith rheoliadau sy’n effeithio ar ddarlledu a derbyn negeseuon dros y radio mewn sefyllfaoedd arferol ac mewn argyfwng 

  2. sut mae defnyddio’r offer cyfathrebu dros y radio a ddefnyddir yn eich sefydliad 

  3. y gweithdrefnau cywir i gadarnhau bod yr offer cyfathrebu dros y radio yn gweithio’n iawn, a beth i’w wneud os nad yw

  4. terfynau eich awdurdod a’ch cyfrifoldeb dros drosglwyddo gwybodaeth

  5. yr hyn sy’n achosi darlledu neu dderbyniad gwael, a pha gamau i’w cymryd i wella’r cyfathrebu

  6. sut mae dilyn gweithdrefnau’ch sefydliad ynghylch y derminoleg y dylid ei defnyddio, fel yr wyddor ffonetig, y cloc 24 awr, arwyddion galwad, adnabod y sawl sy’n galw a chyfrineiriau 

  7. gofynion eich sefydliad o ran rhoi gwybod am anawsterau wrth ddarlledu gwybodaeth gan ddefnyddio offer radio

  8. gofynion eich sefydliad o ran cofnodi a chadw cofnodion o gyfathrebu dros y radio


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Ebr 2012

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Security

URN gwreiddiol

SFS 17

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

radio; cyfathrebu; darlledu; derbyn