Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chyfrifoldebau pawb yn y gwaith i leihau’r risgiau i’r amgylchedd o ganlyniad i weithgareddau’r gwaith. Mae’n disgrifio’r cymwyseddau gofynnol ar gyfer sicrhau:
• nad yw’r camau a gymerwch yn cynyddu’r risg i’r amgylchedd
• nad ydych yn anwybyddu risgiau sylweddol i’r amgylchedd
• eich bod yn cymryd camau synhwyrol i gywiro pethau, gan gynnwys rhoi gwybod am risgiau, a gofyn am gyngor
Mae’r uned hon yn cynnwys y gweithgareddau canlynol:
• Nodi’r risgiau i’r amgylchedd sy’n codi o ganlyniad i weithgareddau yn y gweithle
• Lleihau’r risgiau i’r amgylchedd sy’n codi o ganlyniad i weithgareddau yn y gweithle
Grŵp Targed
Mae hyn yn berthnasol i bob swydd yn y sector diogelwch ac mae’n briodol i bobl sy’n gweithio ar bob lefel ac ym mhob swydd.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Nodi’r risgiau i’r amgylchedd sy’n codi o ganlyniad i weithgareddau yn y gweithle
1. adnabod y bobl yn y gweithle y dylech roi gwybod iddynt ynghylch materion amgylcheddol
2. gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod am yr arferion gweithio diweddaraf sy’n parchu’r amgylchedd ac sy’n berthnasol i’ch gweithle
3. nodi unrhyw arferion gweithio presennol yn rôl eich swydd a allai beri niwed i’r amgylchedd
4. nodi unrhyw ddeunyddiau, cynnyrch neu offer a ddefnyddir mewn unrhyw ran o rôl eich swydd a allai beri niwed i’r amgylchedd
5. rhoi gwybod am unrhyw wahaniaethau rhwng rheoliadau cyfreithiol a chyfarwyddiadau gweithle a defnyddio deunyddiau neu gynnyrch sy’n beryglus i’r amgylchedd
6. rhoi gwybod ar unwaith i’r bobl sy’n gyfrifol am faterion amgylcheddol am y peryglon hynny sy’n peri risg mawr
*Lleihau’r risgiau i’r amgylchedd sy’n codi o ganlyniad i weithgareddau yn y gweithle *
7. dilyn y gofynion cyfreithiol perthnasol a chyfarwyddiadau amgylcheddol y gweithle ar gyfer rôl eich swydd
8. rheoli’r peryglon i’r amgylchedd o fewn eich gallu a chwmpas cyfrifoldebau eich swydd
9. rhoi gwybod ar unwaith am risgiau i’r amgylchedd na allwch chi ddelio â hwy
10. trosglwyddo unrhyw awgrymiadau ar gyfer lleihau’r risgiau i’r amgylchedd i’r unigolyn cyfrifol
11. dilyn cyfarwyddiadau’r cyflenwyr, y gwneuthurwyr a’r gweithle ar gyfer defnyddio a storio offer, deunyddiau a chynnyrch yn ddiogel
12. dilyn y cyfarwyddiadau cywir ar gyfer delio â deunyddiau a chynnyrch a all fod yn beryglus i’r amgylchedd
13. dilyn y cyfarwyddiadau cywir ar gyfer cael gwared ar ddeunyddiau a chynnyrch a all fod yn beryglus i’r amgylchedd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and
understand:
Asesu'r risg i’r amgylchedd a rhoi sylw i hynny
y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â materion amgylcheddol sy’n effeithio ar eich gweithle
eich cyfrifoldebau dros yr amgylchedd fel y diffinnir gan unrhyw ddeddfwriaeth benodol sy'n ymwneud â rôl eich swydd
y risgiau penodol i’r amgylchedd a allai fod yn bresennol yn eich gweithle a/neu yn rôl eich swydd
sut mae defnyddio adnoddau a deunyddiau’n effeithlon ac yn effeithiol
pwysigrwydd bod yn effro bob amser i’r peryglon i’r amgylchedd a all fod yn bresennol yn y gweithle drwyddo draw
pwysigrwydd delio â risgiau i’r amgylchedd, neu roi gwybod amdanynt yn ddi-oed
y sylweddau a’r prosesau sy’n cael eu categoreiddio fel rhai peryglus i’r amgylchedd
cyfarwyddiadau, rhagofalon a gweithdrefnau’r gweithle sy’n berthnasol i reoli’r risgiau i’r amgylchedd
cyfrifoldebau dros eitemau (deunyddiau/offer) a all fod yn beryglus i’r amgylchedd a nodir yn eich disgrifiad swydd
y bobl gyfrifol y dylech roi gwybod iddynt am faterion amgylcheddol
y cyfarwyddiadau amgylcheddol sy’n benodol i’r gweithle sy’n ymwneud â rôl eich swydd
cyfarwyddiadau’r cyflenwyr, y gwneuthurwyr a’r gweithle ar gyfer defnyddio offer, deunyddiau a chynnyrch a all fod yn beryglus i’r amgylchedd
yr arferion gweithio ar gyfer rôl eich swydd
cyfarwyddiadau cywir ar gyfer delio â deunyddiau a all fod yn beryglus i’r amgylchedd
eich cyfrifoldeb dros reoli peryglon i’r amgylchedd
cyfarwyddiadau’r gweithle ar gyfer delio â pheryglon i’r amgylchedd na allwch chi ddelio â hwy
Galwedigaethau Perthnasol
Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol
Geiriau Allweddol
risg; amgylchedd; camau; adrodd; gofyn; cyngor