Hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth ymhlith pobl. Mae hyn yn agwedd hanfodol ar bob swydd yn y sector diogelwch ac mae’n briodol i bobl sy’n gweithio ar bob lefel ac ym mhob swydd. Dylai hyn fod yn sail i bopeth y bydd unrhyw weithiwr yn y sector yn ei wneud.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
*Hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth *
gweithredu yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau a pholisïau cyflogaeth a chodau ymarfer sy’n berthnasol i hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth
gweithredu mewn ffyrdd sy’n: cydnabod ac adnabod cefndir a chredoau unigolion, parchu amrywiaeth, gwerthfawrogi pobl fel unigolion, a pheidio â gwahaniaethu yn erbyn pobl
darparu gwybodaeth sydd ei hangen ar unigolion er mwyn iddynt wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am ymarfer eu hawliau
darparu gwybodaeth mewn fformat sy’n briodol i’r unigolyn
ystyried sut mae eich ymddygiad yn effeithio ar unigolion a'u profiad o ddiwylliant ac agwedd eich sefydliad
gofyn am adborth gan unigolion am eich ymddygiad a’i ddefnyddio i wella beth rydych chi’n ei wneud yn y dyfodol
herio pobl pan na fyddant yn hybu cydraddoldeb nac yn gwerthfawrogi amrywiaeth
helpu eraill i hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth
gofyn am gymorth gan ffynonellau priodol pan rydych yn ei chael yn anodd deall sut mae hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth
y ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r polisïau cyflogaeth, a’r codau ymarfer sy’n berthnasol i hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth a sut mae angen i chi gymhwyso’r rhain
manteision amrywiaeth a hybu cydraddoldeb
yr amrywiaeth eang o ffurfiau ar wahaniaethu a sut gall y rhain ddod i’r amlwg
sut mae anghydraddoldeb a gwahaniaethu yn effeithio ar unigolion, grwpiau a chymunedau a chymdeithas yn gyffredinol
pam mae hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth yn hollbwysig os ydych am weithio’n effeithiol yn y sector diogelwch
beth mae hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth yn ei olygu i chi yn eich gwaith bob dydd
sut gallwch hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth a hefyd amddiffyn pobl rhag y risg o gael niwed
y meysydd i chi eu datblygu’n bersonol o ran hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth a sut bydd hyn o fudd i chi fel unigolyn
effaith gwahaniaethau diwylliannol ar gyfathrebu llafar a chyfathrebu heb ddefnyddio geiriau
sut mae ymddwyn a chyfathrebu mewn ffyrdd:
sy’n cefnogi cydraddoldeb ac amrywiaeth
nad ydynt yn eithrio nac yn peri tramgwydd i bobl
yn herio gwahaniaethu
yn parchu gwahaniaethau unigolion
nad yw’n camddefnyddio’r statws a’r pŵer sydd gennych
sut mae eich ymddygiad yn cyfrannu at ddiwylliant eich sefydliad a’ch cyfrifoldeb dros ddatblygu diwylliant cadarnhaol i bawb
sut mae cydweithio ag asiantaethau a gweithwyr eraill yn gallu helpu i hybu amrywiaeth
sut mae darparu’r wybodaeth y mae gan unigolion yr hawl i’w chael a gwneud yn siŵr ei bod yn glir ac yn fuddiol
eich gweithredoedd chi a gweithredoedd pobl eraill sy’n tanseilio cydraddoldeb ac amrywiaeth a beth i’w wneud ynghylch hyn (gan gynnwys pan fydd y bobl hyn mewn swyddi uwch na chi)
beth i’w wneud am systemau a strwythurau nad ydynt yn hybu cydraddoldeb nac yn gwerthfawrogi amrywiaeth
y camau y gallwch chi eu cymryd i helpu pobl eraill i hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth a sut mae gwneud hyn yn effeithiol
y camau y gallwch chi eu cymryd i werthfawrogi’r bobl rydych chi’n rhyngweithio â hwy a’u galluogi i ryngweithio â chi
pam y dylech chi ofyn am gymorth pan fyddwch yn ei chael yn anodd hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth, ymhle mae cael gafael ar y cymorth hwn a sut mae ei ddefnyddio’n effeithiol