Rheoli eich adnoddau eich hun a’ch datblygiad proffesiynol
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â rheoli’ch adnoddau personol (yn arbennig, gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau, profiad ac amser) a’ch datblygiad proffesiynol er mwyn cyflawni’ch amcanion gwaith a’ch nodau personol a nodau gyrfa.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
Rheoli eich adnoddau eich hun a’ch datblygiad proffesiynol
bob hyn a hyn, gwerthuso gofynion presennol rôl eich gwaith a’r gofynion yn y dyfodol gan ystyried gweledigaeth ac amcanion eich sefydliad
ystyried eich gwerthoedd a’ch nodau personol a’ch nodau gyrfa a nodi gwybodaeth sy’n berthnasol i rôl eich gwaith a’ch datblygiad proffesiynol
trafod a chytuno ar amcanion gwaith personol gyda’r rheini rydych chi’n adrodd wrthynt a sut byddwch yn mesur cynnydd
nodi’r arddulliau dysgu sy’n gweithio orau i chi a sicrhau bod sylw’n cael ei roi i’r rhain wrth bennu gweithgareddau datblygu a’u rhoi ar waith
nodi unrhyw fylchau rhwng gofynion rôl eich gwaith yn awr ac yn y dyfodol a’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd gennych ar hyn o bryd
trafod a chytuno ar gynllun datblygu gyda’r rheini rydych chi’n adrodd wrthynt er mwyn rhoi sylw i unrhyw fylchau a welir yn eich gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ar y pryd, a chefnogi eich nodau personol a’ch nodau gyrfa
rhoi’r gweithgareddau a nodir yn eich cynllun datblygu ar waith a gwerthuso eu cyfraniad i’ch perfformiad
adolygu a diweddaru eich amcanion gwaith personol a chynllun datblygu yng ngoleuni’r perfformiad, unrhyw weithgareddau datblygu ac unrhyw newidiadau ehangach
cael adborth defnyddiol a rheolaidd am eich perfformiad gan y rheini sydd mewn sefyllfa dda i farnu a rhoi adborth gwrthrychol a dilys
sicrhau bod eich perfformiad yn bodloni gofynion y cytunwyd arnynt yn gyson neu’n mynd y tu hwnt iddynt
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol