Sicrhau y cydymffurfir â gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, moesegol a cymdeithasol

URN: SFS11W
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Diogelwch Digwyddiad
Datblygwyd gan: Skills for Security
Cymeradwy ar: 31 Maw 2009

Trosolwg

​Rhaid i sefydliadau ddangos eu bod yn gweithredu’n gyfrifol mewn perthynas â’u staff, eu cwsmeriaid, eu buddsoddwyr a’r cymunedau maent yn gweithio ynddynt.  Rhaid i bob math o sefydliadau gydymffurfio â’r gyfraith mewn meysydd allweddol megis ym maes iechyd a diogelwch, cyflogaeth, cyllid a chyfraith cwmnïau.   Rhaid i lawer o sefydliadau weithio hefyd o fewn rheoliadau penodol ar gyfer eu diwydiant a fframweithiau moesegol.  Hefyd rhaid i sefydliadau sydd am gadw eu henw da ystyried barn pobl yn eu cymunedau am ystod gyfan o faterion fel yr amgylchedd a ffyrdd eraill y mae’r sefydliad yn effeithio ar ansawdd bywyd pobl.


 
Mae’r uned hon yn cynnwys y gweithgaredd canlynol:

 
Sicrhau y cydymffurfir â gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, moesegol a cymdeithasol

 
Grŵp Targed

 
Sefydliadau sy’n gyfrifol.  Rhaid i bob math o sefydliadau gydymffurfio â’r gyfraith mewn meysydd allweddol megis ym maes iechyd a diogelwch, cyflogaeth, cyllid a chyfraith cwmnïau.  

 
Daw’r safon hon o’r gyfres o safonau Rheoli ac Arwain y Ganolfan Safonau Rheoli (MSC) lle mae’n ymddangos fel Uned B8.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

​Sicrhau y cydymffurfir â gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol, moesegol a cymdeithasol


 

  1. monitro’r gofynion cenedlaethol a rhyngwladol perthnasol mewn meysydd cyfreithiol, rheoleiddiol, moesegol a chymdeithasol a’r effaith a gaiff y rhain ar eich maes cyfrifoldeb, gan gynnwys beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn bodloni’r rhain

  2. datblygu polisïau a gweithdrefnau effeithiol i sicrhau bod eich sefydliad yn bodloni’r holl ofynion angenrheidiol

  3. sicrhau bod pobl berthnasol yn deall y polisïau a’r gweithdrefnau’n glir a phwysigrwydd eu rhoi ar waith

  4. monitro’r ffordd y mae polisïau a gweithdrefnau’n cael eu rhoi ar waith a rhoi cymorth

  5. annog hinsawdd o fod yn agored ynghylch bodloni a pheidio â bodloni’r gofynion

  6. adnabod a chywiro unrhyw fethiannau i fodloni’r gofynion

  7. nodi rhesymau dros beidio â bodloni gofynion ac addasu’r polisïau a’r gweithdrefnau i leihau’r tebygolrwydd o fethiannau yn y dyfodol

  8. darparu adroddiadau llawn i’r rhanddeiliaid perthnasol ynghylch unrhyw fethiannau i fodloni’r gofynion


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

​Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol


 
1. pwysigrwydd llywodraethu ar sail moeseg a gwerth a sut mae rhoi hyn ar waith
2. gofynion cyfreithiol perthnasol sy’n rheoli sut mae sefydliadau’n cael eu rhedeg
3. agweddau cymdeithasol presennol a newydd at arferion rheoli ac arwain a phwysigrwydd bod yn sensitif i’r rhain

 
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n berthnasol i ddiogelwch

 
4. gofynion cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol yn eich sector ar lefel genedlaethol a rhyngwladol 
5. gweithdrefnau i’w dilyn os na fyddwch yn bodloni’r gofynion
6. pryderon a disgwyliadau cymdeithasol penodol, rhai cyfredol a rhai newydd, sy’n berthnasol i’ch sector
7. ffyrdd y mae sefydliadau’n delio â phryderon a disgwyliadau cymdeithasol, rhai cyfredol a rhai newydd

 
Gwybodaeth a dealltwriaeth sy’n berthnasol i gyd-destun penodol

 
8. diwylliant a gwerthoedd eich sefydliad a pha effaith maent yn ei chael ar lywodraethu corfforaethol
9. polisïau a gweithdrefnau sy’n gwneud yn siŵr bod pobl yn bodloni’r gofynion
10. y prosesau ar gyfer cynnal y polisïau a’r gweithdrefnau perthnasol ac am wneud yn siŵr eu bod yn parhau i fod yn effeithiol ac yn gynaliadwy 
11. y gwahanol ffyrdd y gall pobl fethu â bodloni’r gofynion a’r risg y gall hyn ddigwydd mewn gwirionedd
12. y gweithdrefnau ar gyfer delio â phobl nad ydynt yn bodloni’r gofynion, gan gynnwys y gofynion ar gyfer rhoi gwybod


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Maw 2013

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Management Standards Centre

URN gwreiddiol

B8

Galwedigaethau Perthnasol

Galwedigaethau Elfennol, Galwedigaethau Diogelwch Elfennol

Cod SOC


Geiriau Allweddol

cydymffurfio, cyfreithiol, rheoleiddiol, moesegol, cymdeithasol