Rhoi arweiniad i’ch tîm
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â darparu cyfeiriad i aelodau’ch tîm a’u cymell a’u cefnogi i gyflawni amcanion y tîm a’u hamcanion gwaith personol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
*Rhoi arweiniad i’ch tîm *
nodi a chyfleu pwrpas ac amcanion y tîm i aelodau’r tîm mewn modd cadarnhaol
cynnwys aelodau yn y gwaith o gynllunio sut bydd y tîm yn cyflawni ei amcanion
sicrhau bod gan bob aelod o’r tîm amcanion gwaith personol ac yn deall sut bydd cyflawni’r rhain yn cyfrannu at gyflawni amcanion y tîm
annog a chefnogi aelodau tîm i gyflawni eu hamcanion gwaith personol ac amcanion y tîm a chydnabod pan fydd amcanion wedi’u cyflawni
ennyn, drwy eich perfformiad, ymddiriedaeth a chefnogaeth y tîm i’ch arweinyddiaeth
tywys y tîm yn llwyddiannus drwy anawsterau a heriau, gan gynnwys unrhyw faterion gwrthdaro, amrywiaeth a chynhwysiant yn y tîm
annog a chydnabod creadigrwydd ac arloesedd yn y tîm
rhoi cefnogaeth a chyngor i aelodau’r tîm pan fydd angen hynny arnynt, yn enwedig yn ystod cyfnodau anodd neu gyfnodau o newid
ysgogi aelodau’r tîm i gyflwyno eu syniadau eu hunain a gwrando arnynt
annog aelodau’r tîm i arwain pan fydd ganddynt y wybodaeth a’r arbenigedd a dangos parodrwydd i ddilyn yr arweiniad hwn
monitro gweithgareddau a chynnydd ar draws y tîm heb ymyrryd
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
Gwybodaeth a dealltwriaeth gyffredinol