Pacio eitemau bregus a rhai nad ydynt yn fregus
URN: SFLWS36
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2018
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â phacio eitemau bregus a rhai nad ydynt yn fregus. Mae’n cynnwys yr eitemau i gael eu pacio, defnyddio offer a chyfarpar yn gywir, a lapio a phacio eitemau gan ddefnyddio’r deunyddiau pacio. Mae hefyd yn cynnwys gwaredu deunydd gwastraff, a chynnal iechyd, diogelwch a diogeledd.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, symud dodrefn neu drafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau gyda’r cwsmer yr eitemau bregus a’r rhai nad ydynt yn fregus sydd yn cael eu pacio
- nodi a defnyddio’r Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) sy’n berthnasol i’r gofynion pacio
- defnyddio’r offer perthnasol a gweithredu cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd a gweithdrefnau sefydliadol
- cadarnhau bod deunydd lapio neu bacio addas yn cael ei ddethol ar gyfer eitemau bregus neu rai nad ydynt yn fregus yn unol â’r eitem, gweithdrefnau sefydliadol a’r gweithdrefnau allforio perthnasol
- diogelu’r eitemau bregus a’r rhai nad ydynt yn fregus tra’u bod yn cael eu lapio neu eu pacio
- lapio neu bacio’r eitemau bregus neu’r rhai nad ydynt yn fregus gan ddefnyddio’r deunyddiau angenrheidiol i leihau gwastraff
- labelu’r eitemau bregus a’r rhai nad ydynt yn fregus sydd wedi eu pacio, lle bo angen
- gwaredu’r mathau gwahanol o ddeunyddiau gwastraff yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol a gweithrediadau sefydliadol
- nodi unrhyw faterion iechyd, diogelwch a diogeledd yn ymwneud â lapio neu bacio eitemau bregus neu rai nad ydynt yn fregus, ac ymateb yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- nodi ac ymateb i faterion yn ymwneud â lapio neu bacio’r eitemau bregus neu’r rhai nad ydynt yn fregus
- cofnodi’r broses o lapio a phacio nwyddau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â lapio a phacio eitemau bregus a rhai nad ydynt yn fregus
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ffynonellau a’r mathau o wybodaeth am yr eitemau bregus a’r rhai nad ydynt yn fregus sydd yn cael eu lapio a’u pacio, yn cynnwys y wybodaeth sy’n berthnasol i iechyd, diogelwch a diogeledd, ffactorau amgylcheddol ac unrhyw weithdrefnau allforio perthnasol
- y Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) y dylai gael ei ddefnyddio wrth lapio a phacio nwyddau mewn gwethrediadau logisteg
- y mathau o ddeunyddiau lapio a phacio sydd ar gael ar gyfer eitemau bregus a rhai nad ydynt yn fregus, a’r hyn y caiff y rhain ei ddefnyddio ar ei gyfer
- yr offer a’r cyfarpar perthnasol a ddefnyddir ar gyfer lapio a phacio eitemau bregus a rhai nad ydynt yn fregus
- sut i lapio a phacio mathau gwahanol o eitemau bregus a rhai nad ydynt yn fregus heb eu niweidio
- sut i leihau gwastraff wrth lapio a phacio deunyddiau
- y mathau o faterion yn ymwneud â lapio a phacio eitemau bregus a rhai nad ydynt yn fregus, yn cynnwys iechyd, diogelwch a diogeledd
- rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr sydd yn gysylltiedig â lapio a phacio nwyddau
- y systemau cofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a’r gofynion ar gyfer cynnal cofnodion
- sut i gwblhau dogfennau a chynnal cofnodion
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â lapio a phacio eitemau bregus a rhai nad ydynt yn fregus
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfarpar: offer, teclynnau, peiriannau, lifftiau, cludwyr, craeniau a systemau silffoedd a rheseli
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid
Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, dillad amddiffynnol, diogelwch llygaid, menig, esgidiau uchel
Eitemau bregus a rhai nad ydynt yn fregus: eitemau gwydr, dodrefn, dillad, llyfrau, gwaith papur
Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Logistics
URN gwreiddiol
SFLWS36
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol, Symud Dodrefn
Cod SOC
9252
Geiriau Allweddol
lapio; pacio; nwyddau; pecynnau; deunydd; deunyddiau; pacio; symud dodrefn