Datblygu dosbarthu eitemau storio cwsmeriaid
URN: SFLWS35
                    Sectorau Busnes (Cyfresi): Warws a Storio
                    Datblygwyd gan: Lantra
                    Cymeradwy ar: 
2018                        
                    
                Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â phrosesu eitemau ar gyfer cwsmeriaid mewn gweithrediadau logisteg. Mae’n cynnwys nodi gofynion archebu cwsmeriaid ac unrhyw broblemau gyda’r archeb. Mae hefyd yn cynnwys prosesu’r wybodaeth y mae’n rhaid ei throsglwyddo ymlaen i gwsmeriaid.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai’r gweithredwyr, er enghraifft, fod ym maes warws a storio, trafnidiaeth neu anfon nwyddau ymlaen.  
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael y wybodaeth berthnasol am ofynion cwsmer ar gyfer eu heitemau storio
- rhoi gwybodaeth ddosbarthu i gwsmeriaid yn ymwneud â’u heitemau storio
- nodi lleoliad yr eitemau storio a chadarnhau eu bod yn hygyrch, er mwyn datblygu’r dosbarthu
- nodi gofynion llwytho a chludo ar gyfer dosbarthu’r eitemau storio
- defnyddio cyfarpar a’r technegau ymdrin perthnasol i symud yr eitemau storio er mwyn datblygu dosbarthu
- ymateb i ymholiadau gan gwsmeriaid am gynnydd dosbarthu’r eitemau storio
- nodi ac ymateb i unrhyw faterion o ran datblygu gofynion y cwsmer
- hysbysu cwsmeriaid os na ellir dosbarthu o fewn yr amser y cytunwyd arno’n wreiddiol
- storio manylion cwsmeriaid yn ddiogel a chadw cyfrinachedd yn unol â gofynion sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol perthnasol
- cofnodi’r gwaith a wnaed yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol perthnasol
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â datblygu dosbarthu eitemau storio cwsmeriaid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gael gwybodaeth am ofynion y cwsmer ar gyfer eu heitemau storio
- yr amrywiaeth o gwsmeriaid y mae eich sefydliad yn ymdrin â nhw
- y wybodaeth berthnasol sydd yn angenrheidiol gan y cydweithwyr fydd yn datblygu dosbarthu eitemau storio cwsmeriaid
- sut i nodi lleoliad yr eitemau storio a chadarnhau eu bod yn hygyrch
- y gofynion llwytho, cludo a’r gofynion arbennig ar gyfer y math o eitemau storio sydd yn cael eu dosbarthu
- y mathau o gyfarpar a’r technegau ymdrin sydd yn ofynnol i symud yr eitemau storio a sut i ddefnyddio’r rhain
- y mathau o faterion a allai ddeillio o atal cynnydd y dosbarthu a’r camau i’w cymryd i unioni hyn
- sut i ymateb i gwsmeriaid yn ymwneud â chynnydd dosbarthu’r eitem storio
- yr amser y mae’n ei gymryd i gyflawni gofynion cwsmeriaid ar gyfer eu heitemau storio, a beth i’w wneud os na ellir cyflawni’r terfyn amser gwreiddiol
- sut i storio manylion personol ac ariannol cwsmeriaid yn ddiogel, sut i gadw cyfrinachedd a gofynion deddfwriaeth diogelu data
- y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a’r gofynion ar gyfer cynnal cofnodion
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol sydd yn ymwneud â datblygu dosbarthu eitemau storio cwsmeriaid
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cwsmeriaid: mewnol, allanol  
Gofynion cwsmeriaid: amser dosbarthu, cyfeiriad, enw, rhif cyswllt, eitemau storio  
Gwybodaeth ddosbarthu: amser dosbarthu, cynnydd  
Materion wrth ddatblygu dosbarthu: taliadau, eitemau storio wedi eu niweidio, cludiant  
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid
Gofynion arbennig: lleoliadau dosbarthu, amserau, cyfeiriadau 
Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth 
Eitemau storio: dodrefn, eitemau personol, gwaith papur busnes, deunydd swyddfa, eitemau cartref
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2023        
    
Dilysrwydd
        Ar hyn o bryd
        
    
Statws
        Gwreiddiol
        
    
Sefydliad Cychwynnol
        Skills for Logistics
        
    
URN gwreiddiol
        SFLWS35
        
    
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol, Symud Dodrefn        
    
Cod SOC
        9252
        
    
Geiriau Allweddol
            prosesu; archebion; cwsmeriaid; cleientiaid symud dodrefn