Cynnal gwiriadau stoc a chofnodi’r canlyniadau mewn gweithrediadau logisteg
URN: SFLWS34
                    Sectorau Busnes (Cyfresi): Warws a Storio
                    Datblygwyd gan: Lantra
                    Cymeradwy ar: 
2022                        
                    
                Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal gwiriadau stoc a chofnodi’r canlyniadau, mewn cyfleusterau logisteg, fel rhan o archwiliad wedi ei gynllunio, neu ar gais. 
Mae’n cynnwys nodi’r rolau a’r cyfrifoldebau sydd yn gysylltiedig â defnyddio’r gweithdrefnau adrodd sefydliadol wrth wirio stoc.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth neu anfon nwyddau ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau diben a’r raddfa amser ar gyfer cynnal y gwiriad stoc yn y cyfleuster logisteg a sut i gofnodi’r canlyniadau
 - cadarnhau pa adnoddau sydd ar gael i gwblhau’r gwiriad stoc
 - cadarnhau bod cydweithwyr sydd yn cymryd rhan yn y gwiriad stoc yn gwybod eu rolau a’u cyfrifoldebau unigol
 - cyfathrebu cynnydd y gwiriad stoc wrth y cydweithwyr perthnasol
 - cadarnhau bod canlyniadau’r gwiriad stoc yn cael eu cofnodi a’u cydgrynhoi, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
 - cymharu canfyddiadau’r gwiriad stoc yn erbyn cofnodion stoc er mwyn nodi unrhyw anghysondebau
 - nodi ac ymateb i unrhyw faterion neu anghysondebau a nodir gan y gwiriad stoc
 - nodi materion diogeledd yn ymwneud â’r gwiriad stoc a’r camau sydd yn deillio ohonynt
 - cynhyrchu a dosbarthu eich adroddiad gwirio stoc i’r cydweithwyr perthnasol
 - cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â gwiriad stoc
 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd cynnal gwiriadau stoc mewn cyfleusterau logisteg, a pha mor aml y maent yn angenrheidiol gan eich sefydliad
 - fformat, strwythur a chynnwys yr adroddiadau gwirio stoc sydd yn angenrheidiol gan eich sefydliad
 - yr adnoddau sydd yn ofynnol i gynnal gwiriad stoc, a sut i gael y rhain
 - sut i nodi unrhyw anghysondebau rhwng ffigurau gwirio stoc a chofnodion stoc
 - y systemau rheoli stoc a ddefnyddir yn eich sefydliad
 - y mathau o faterion gyda gwiriad stoc a sut i ymateb i’r rhain
 - y cyfrifoldebau adrodd a’r systemau cofnodi a ddefnyddir gan eich sefydliad ar gyfer cynnal cofnodion
 - rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr mewn gweithrediadau logisteg
 - y gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol,cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â gwiriad stoc
 
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gwirio stoc: archwilio, cyfrif, ailgyfrif, cysoni  
Systemau rheoli stoc: â llaw, cyfrifiadurol, systemau rheoli warws, amledd radio
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid  
Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027        
    
Dilysrwydd
        Ar hyn o bryd
        
    
Statws
        Gwreiddiol
        
    
Sefydliad Cychwynnol
        Lantra
        
    
URN gwreiddiol
        SFLWS34
        
    
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol        
    
Cod SOC
        9252
        
    
Geiriau Allweddol
            gwirio; stoc; lefelau; cofnodion