Monitro derbyn, storio neu anfon nwyddau mewn gweithrediadau logisteg

URN: SFLWS33
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud â monitro derbyn, storio neu anfon nwyddau mewn gweithrediadau logisteg. 

Mae’r safon hon yn berthnasol i bob math o nwyddau, yn cynnwys y rheiny sydd angen amgylcheddau lle mae’r tymheredd yn cael ei reoli.

Mae’r safon hon yn berthnasol i weithredwyr sy’n gyfrifol am dderbyn, storio ac anfon nwyddau mewn gweithrediadau logisteg. Gallai’r gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth neu anfon nwyddau ymlaen.  


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. nodi ardaloedd gwaith sydd yn addas ar gyfer derbyn, storio neu anfon nwyddau mewn gweithrediadau logisteg
  2. nodi’r gofynion cyfarpar ar gyfer derbyn, storio neu anfon nwyddau
  3. cadarnhau’r amodau storio sydd yn angenrheidiol ar gyfer storio’r nwyddau
  4. defnyddio adnoddau’r sefydliad i fonitro derbyn, storio neu anfon nwyddau
  5. monitro a chadarnhau ansawdd a niferoedd y nwyddau sydd yn cael eu derbyn, eu storio neu eu hanfon
  6. rhoi gwybodaeth am y nwyddau a’u gofynion i’r cydweithwyr neu’r cwsmeriaid perthnasol
  7. trefnu a monitro symud neu gylchdroi nwyddau i gynorthwyo gyda’r gwaith o dderbyn, storio neu anfon 
  8. nodi ac ymateb i faterion o ran derbyn, storio neu anfon nwyddau
  9. cofnodi gwaith sydd wedi ei gwblhau yn unol â’r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol
  10. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â monitro derbyn, storio neu anfon nwyddau


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. y ffynonellau gwybodaeth am allu a chyfyngiadau cyfleusterau storio yn eich maes cyfrifoldeb
  2. y mathau o nwyddau i gael eu derbyn, eu storio neu eu hanfon gan y sefydliad
  3. y cyfarpar sydd yn angenrheidiol ar gyfer derbyn, storio neu anfon nwyddau yn y sefydliad
  4. yr ardaloedd storio sy’n berthnasol i’r math o nwyddau i gael eu derbyn, eu storio neu eu hanfon yn y sefydliad
  5. y gofynion sefydliadol yn ymwneud â derbyn, storio neu anfon nwyddau mewn gweithrediadau logisteg
  6. sut i fonitro ansawdd a meintiau’r nwyddau sydd yn cael eu derbyn, eu storio neu eu hanfon 
  7. y dulliau o gylchdroi a symud stoc
  8. sut i drefnu a monitro symud nwyddau mewn gweithrediadau logisteg
  9. yr adnoddau sydd ar gael ar gyfer monitro derbyn, storio ac anfon nwyddau yn y sefydliad
  10. y mathau o faterion yn ymwneud â derbyn, storio ac anfon nwyddau a sut i ymateb i’r rhain
  11. rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr mewn gweithrediadau logisteg
  12. y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a’r gofynion ar gyfer cynnal cofnodion
  13. y gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â monitro derbyn, storio neu anfon nwyddau


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Adnoddau: system rheoli stoc, systemau rheoli warws, dogfennau, cofnodion gwirio stoc

Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid

Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth

Amodau storio: amgylchol, wedi ei oeri, sych, awyr agored, dan do, wedi ei awyru, ar wahân, mynediad cyfyngedig

Cyfarpar: offer, teclynnau, peiriannau, lifftiau, cludwyr, craeniau


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLWS33

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol

Cod SOC

9252

Geiriau Allweddol

monitro; gwirio; derbyn; storio; anfon; ymlaen; anfon ymlaen; nwyddau; deunyddiau; warws; logisteg