Prosesu neu waredu nwyddau a deunyddiau mewn gweithrediadau logisteg
URN: SFLWS32
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â phrosesu neu waredu nwyddau a deunyddiau mewn gweithrediadau logisteg. Mae’n cynnwys nodi pa nwyddau a deunyddiau sydd yn addas ar gyfer ailgylchu, ailddefnyddio, ailwerthu neu eu gwaredu. Bydd yn cynnwys paratoi’r nwyddau a’r deunyddiau ar gyfer eu symud ymlaen ac ymateb i broblemau sydd yn codi wrth ddidoli’r nwyddau a’r deunyddiau.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth neu anfon nwyddau ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi’r nwyddau a’r deunyddiau a chynnal gwiriadau cychwynnol i bennu eu haddasrwydd ar gyfer eu prosesu neu eu gwaredu
- didoli’r nwyddau a’r deunyddiau yn unol â’r gweithdrefnau sefydliadol perthnasol ar gyfer prosesu neu waredu mewn gweithrediadau logisteg
- cael gwybodaeth a chyngor lle nad ydych yn gallu nodi neu ddosbarthu nwyddau a deunyddiau
- ymdrin â nwyddau a deunyddiau gan ddefnyddio dulliau ymdrin a chyfarpar yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- symud y rhannau o’r nwyddau a’r deunyddiau na ellir eu hailgylchu a gwaredu’r rhain yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- gosod y nwyddau a’r deunyddiau sydd yn addas ar gyfer eu prosesu neu eu gwaredu yn y lleoliadau angenrheidiol
- paratoi’r nwyddau a’r deunyddiau ar gyfer eu prosesu ymhellach yn unol â gofynion sefydliadol
- nodi ac ymateb i broblemau yn gysylltiedig â phrosesu neu waredu
- cwblhau’r dogfennau perthnasol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â phrosesu neu waredu nwyddau a deunyddiau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y mathau o nwyddau a deunyddiau sydd yn addas ar gyfer prosesu, a’r rheiny nad ydynt, mewn gweithrediadau logisteg
- y gofynion diogelwch sefydliadol sydd yn berthnasol i brosesu neu waredu nwyddau a deunyddiau
- y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol ar gyfer prosesu neu waredu nwyddau a deunyddiau mewn gweithrediadau logisteg
- sut i gael gwybodaeth am y mathau o nwyddau a deunyddiau ar gyfer prosesu a gwaredu
- sut i brosesu neu waredu mathau gwahanol o nwyddau a deunyddiau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- y mathau o faterion sydd yn deillio o brosesu neu waredu nwyddau a deunyddiau
- rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr mewn gweithrediadau logisteg
- y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a’r gofynion ar gyfer cynnal cofnodion
- y gofynion sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â phrosesu neu waredu nwyddau a deunyddiau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Nwyddau a deunyddiau: unrhyw ddeunydd gwastraff neu sydd wedi eu gwaredu, nwyddau sydd wedi eu niweidio
Prosesu: nwyddau neu ddeunyddiau y gellir eu defnyddio eto – ailgylchu, ailddefnyddio, ailwerthu
Gwaredu: nwyddau neu ddeunyddiau nad oes eu hangen ar gyfer ailddefnydd pellach
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid
Dulliau ymdrin: â llaw, mecanyddol, disgyrchiant
Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth
Cyfarpar: offer, teclynnau, peiriannau, lifftiau, cludwyr, craeniau
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLWS32
Galwedigaethau Perthnasol
Rheolwyr, Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol
Cod SOC
9252
Geiriau Allweddol
didoli; gwahanu; gwirio; nwyddau; deunyddiau; ailgylchu; gwaredu; anfon ymlaen