Prosesu nwyddau wedi eu dychwelyd mewn gweithrediadau logisteg
URN: SFLWS31
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â phrosesu nwyddau wedi eu dychwelyd mewn gweithrediadau logisteg, gallai’r rhan fod gan gwsmeriaid, cleientiaid neu o fewn eich sefydliad eich hun. Mae’n cynnwys gwirio nwyddau i nodi eu cyflwr, eu hail-labelu a’u gwaredu, lle bo angen.
Mae’r safon hon yn berthnasol i’r holl weithredwyr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai’r gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth neu anfon nwyddau ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- dychwelyd mewn gweithrediadau logisteg
- cael gwybodaeth am y rhesymau dros ddychwelyd y nwyddau
- rhoi manylion perthnasol y nwyddau sydd wedi eu dychwelyd i’r cydweithiwr/cydweithwyr awdurdodedig, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol a diweddaru’r system rheoli stoc sefydliadol
- rhoi’r nwyddau sydd wedi eu dychwelyd yn y lleoliad a nodir yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- labelu’r nwyddau sydd i gael eu dychwelyd at y cyflenwr neu’r cynhyrchydd
- prosesu neu waredu mathau gwahanol o nwyddau sydd wedi eu dychwelyd a deunydd pacio yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- nodi ac ymateb i broblemau wrth brosesu nwyddau sydd wedi eu dychwelyd
- cwblhau a storio’r dogfennau perthnasol yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol sy’n ymwneud â phrosesu neu waredu nwyddau sydd wedi eu dychwelyd a deunydd pacio
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y prif resymau dros gwsmeriaid yn dychwelyd nwyddau mewn gweithrediadau logisteg
- sut gellir dychwelyd y nwyddau a’r trefniadau sydd yn angenrheidiol ar gyfer eu dychwelyd
- sut i brosesu neu waredu mathau gwahanol o nwyddau sydd wedi eu dychwelyd neu ddeunydd pacio yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- pryd a sut i ddiweddaru’r system rheoli stoc sefydliadol
- ble i osod nwyddau ar gyfer eu prosesu neu eu dychwelyd at y cyflenwr neu’r cynhyrchydd
- eich rolau a’ch cyfrifoldebau chi a’ch cydweithwyr mewn perthynas â phrosesu nwyddau sydd wedi eu dychwelyd
- y systemau cofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a gofynion y sefydliad dros gynnal cofnodion
- y gofynion sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â phrosesu neu waredu nwyddau sydd wedi eu dychwelyd a deunydd pacio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Rhesymau dros ddychwelyd y nwyddau: wedi eu niweidio, eitem anghywir, nifer anghywir, ddim ei angen bellach, oes silff wedi dod i ben
Systemau rheoli stoc: â llaw, cyfrifiadurol, systemau rheoli warws, amledd radio
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid
Cwsmeriaid: mewnol, allanol
Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth
Proses: ailgylchu, ailddefnyddio, ailwerthu, gwaredu
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLWS31
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol
Cod SOC
9252
Geiriau Allweddol
wedi eu dychwelyd; nwyddau; warws; logisteg