Prosesu archebion ar gyfer cwsmeriaid mewn gweithrediadau logisteg
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â phrosesu archebion ar gyfer cwsmeriaid mewn gweithrediadau logisteg. Mae'n cynnwys nodi gofynion archebion cwsmeriaid a phroblemau gyda'r archeb. Mae hefyd yn cynnwys prosesu'r wybodaeth y mae'n rhaid ei throsglwyddo i gwsmeriaid.
Mae'r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai'r gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth, neu anfon llwythi ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael gwybodaeth berthnasol ar ofynion cwsmeriaid ar gyfer archebu nwyddau mewn gweithrediadau logisteg
- rhoi gwybodaeth ddosbarthu i gwsmeriaid
- trosglwyddo archebion a gwybodaeth anfonebu i gydweithwyr perthnasol
- ymateb i ymholiadau am gynnydd yr archeb
- hysbysu cwsmeriaid os na ellir dosbarthu eu harchebion yn yr amser a gytunwyd yn wreiddiol
- adnabod ac ymateb i broblemau yn prosesu archebion
- storio manylion cwsmeriaid yn ddiogel a chadw cyfrinachedd yn unol â gofynion sefydliadol a chyfreithiol
- cofnodi gwaith a wnaed yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â phrosesu archebion ar gyfer cwsmeriaid
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i gael gwybodaeth am ofynion y cwsmer ar gyfer archebu nwyddau mewn gweithrediadau logisteg
- yr ystod o gwsmeriaid yr ydych yn prosesu archebion ar eu cyfer
- y systemau rheoli ac archebu stoc perthnasol a ddefnyddir gan eich sefydliad
- y wybodaeth berthnasol sy'n ofynnol gan y cydweithwyr fydd yn cyflawni'r archebion
- yr amser y mae'n ei gymryd i gyflawni archebion ar gyfer nwyddau gwahanol a ddarperir gan eich sefydliad, a beth i'w wneud os na ellir cyflawni'r cyfnod amser hwn
- y wybodaeth sy'n ofynnol gan y cydweithwyr fydd yn cyhoeddi'r anfoneb
- sut i storio manylion personol ac ariannol cwsmeriaid yn ddiogel, sut i gadw cyfrinachedd a gofynion deddfwriaeth diogelu data
- y gofynion arbennig yn ymwneud ag archebion
- rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr mewn gweithrediadau logisteg
- y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a'r gofynion ar gyfer cadw cofnodion
- y gweithdrefnau sefydliadol a gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â phrosesu archebion ar gyfer cwsmeriaid
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cwsmeriaid: mewnol, allanol
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid
Gofynion arbennig: lleoliadau dosbarthu, amserau, cyfeiriadau
Gofynion cwsmeriaid: amser dosbarthu, cyfeiriad, enw, rhif cyswllt
Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth
Gwybodaeth ddosbarthu: amser dosbarthu, cynnydd
Problemau yn prosesu archebion: taliadau, meintiau stoc, stoc wedi ei niweidio