Cynnal safonau hylendid wrth ymdrin a storio nwyddau mewn cyfleuster logisteg
URN: SFLWS28
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio,Gweithrediadau Lleoliad Diwylliannol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal safonau hylendid wrth ymdrin a storio nwyddau mewn cyfleuster logisteg. Mae’n cynnwys safonau hylendid personol a’r defnydd o gyfarpar diogelu personol (PPE) i ddiogelu’r gweithredwyr a’r nwyddau.
Mae’r safon hon yn berthnasol ar gyfer pob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai’r gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth neu anfon nwyddau ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi materion iechyd, diogelwch a diogeledd yn ymwneud â’r nwyddau a’r amodau storio mewn cyfleuster logisteg
- cynnal hylendid personol wrth ymdrin â nwyddau a’r amodau storio yn unol â gofynion sefydliadol
- nodi a defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) i gynnal safonau hylendid wrth ymdrin a storio nwyddau
- nodi unrhyw ofynion arbennig ar gyfer cynnal ansawdd y nwyddau a’r amodau storio yn y cyfleuster logisteg
- ymdrin â nwyddau gan ddefnyddio dulliau a chyfarpar ymdrin yn unol â gofynion sefydliadol
- gwaredu mathau gwahanol o wastraff yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol a gweithdrefnau sefydliadol
- nodi ac ymateb i broblemau yn ymwneud â chynnal safonau hylendid sefydliadol
- cofnodi’r gwaith a wnaed yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r holl ofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu sy’n berthnasol i safonau hylendid wrth ymdrin a storio nwyddau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y materion iechyd, diogelwch a diogeledd sy’n berthnasol i ymdrin a storio nwyddau mewn cyfleuster logisteg
- natur a nodweddion y nwyddau sydd yn cael eu storio mewn cyfleuster logisteg
- y Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) y dylid ei ddefnyddio i gynnal safonau hylendid wrth ymdrin a storio nwyddau mewn cyfleuster logisteg
- y safonau hylendid perthnasol sydd yn angenrheidiol gan y sefydliad ar gyfer y nwyddau a’r amodau storio
- y gofynion ar gyfer cynnal y nwyddau a’r amodau storio mewn cyfleuster logisteg
- y dulliau gwahanol o waredu gwastraff a ddefnyddir gan y sefydliad
- y problemau sy’n ymwneud â chynnal hylendid wrth ymdrin a storio nwyddau mewn cyfleuster logisteg
- eich rolau a’ch cyfrifoldebau eich hun a’ch cydweithwyr i gynnal safonau hylendid mewn cyfleuster logisteg
- sut i gwblhau dogfennau a chynnal cofnodion
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol sy’n ymwneud â chynnal safonau hylendid wrth ymdrin a storio nwyddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Amodau storio: amgylchol, wedi ei oeri, sych, awyr agored, dan do, wedi ei awyru, ar wahân, mynediad cyfyngedig
Dulliau ymdrin: â llaw, mecanyddol, disgyrchiant
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid
Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth
Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, diogelwch llygaid, menig, esgidiau uchel
Cyfarpar: e.e. offer, teclynnau, peiriannau, lifftiau, cludwyr, craeniau a systemau silffoedd a rheseli
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLWS28
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol
Cod SOC
9252
Geiriau Allweddol
hylendid; ymdrin; storio; storfa; nwyddau; deunyddiau; lleoliad; warws; logisteg