Cynnal diogelwch a diogeledd nwyddau a deunyddiau peryglus mewn gweithrediadau logisteg

URN: SFLWS27
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal diogelwch a diogeledd nwyddau a deunyddiau peryglus mewn gweithrediadau logisteg. Mae'n cynnwys monitro peryglon a gweithredu pan fo angen. Mae hefyd yn cynnwys defnyddio offer diogelwch a chadw cofnodion.

Mae'r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai'r gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth, neu anfon llwythi ymlaen.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. cael gwybodaeth am beryglon penodol nwyddau a deunyddiau peryglus mewn gweithrediadau logisteg yn eich sefydliad
  2. gweithredu rhagofalon i gynnal diogelwch a diogeledd nwyddau a deunyddiau peryglus yn unol â gofynion sefydliadol a chyfreithiol perthnasol
  3. adnabod a defnyddio Offer Amddiffynnol Personol (PPE) sy'n berthnasol i'r nwyddau a'r deunyddiau peryglus
  4. monitro cyflwr nwyddau a deunyddiau peryglus a nodi arwyddion sydd yn dangos problemau gyda nhw
  5. gweithredu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol os oes perygl i iechyd a diogelwch yn cael ei nodi, a'u hadrodd i'r cydweithwyr perthnasol
  6. symud nwyddau a deunyddiau peryglus yn ddiogel gan ddefnyddio offer yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  7. ymateb i argyfyngau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol, a'u hadrodd i'r awdurdod perthnasol
  8. defnyddio offer diogelwch yn unol â chyfarwyddiadau'r cynhyrchydd
  9. dilyn gweithdrefnau gwacáu yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  10. cofnodi'r gwaith a wnaed yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
  11. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a'r holl ofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â diogelwch a diogeledd nwyddau a deunyddiau peryglus

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y mathau o nwyddau a deunyddiau peryglus mewn gweithrediadau logisteg yn eich sefydliad, a'r peryglon cysylltiedig
  2. yr Offer Amddiffynnol Personol (PPE) y dylid eu defnyddio wrth gynnal diogelwch a diogeledd nwyddau peryglus
  3. y gofynion storio a dosbarthu a'r rhagofalon i'w cymryd i gynnal diogelwch a diogeledd nwyddau a deunyddiau peryglus
  4. y systemau monitro a ddefnyddir ar gyfer nwyddau a deunyddiau peryglus yn y sefydliad
  5. y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol ar gyfer argyfyngau, a phwy sy'n gyfrifol am ymateb iddynt
  6. y cydweithwyr perthnasol i gael eu hysbysu pan fydd peryglon i iechyd a diogelwch yn cael eu nodi
  7. yr offer i gael ei ddefnyddio ar gyfer symud nwyddau a deunyddiau peryglus
  8. y mathau o ddiffoddwyr tân ac offer brys arall a sut i'w defnyddio
  9. pryd a sut i gychwyn systemau larwm a chael mynediad i lwybrau dianc
  10. pryd i alw'r gwasanaethau brys, a pha rai i'w galw
  11. y nodau perygl a ddefnyddir yn eich ardal waith a beth maent yn ei olygu
  12. rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr mewn gweithrediadau logisteg yn eich sefydliad
  13. y systemau cofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a'r gofynion ar gyfer cadw cofnodion
  14. y gweithdrefnau sefydliadol a'r gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â diogelwch a diogeledd nwyddau peryglus

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Awdurdod: Gwasanaeth Tân, rheolwr llinell, HSE


* *

Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid

* *

Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth

*Offer:* e.e. cyfarpar, teclynnau, peiriannau, lifftiau, cludwyr, craeniau

*
*

Offer Amddiffynnol Personol (PPE): festiau llachar, hetiau caled, dillad amddiffynnol, diogelwch llygaid, menig

*
*

*Offer diogelwch:* offer ymladd tân, systemau gwagio, cyfarpar anadlu, setiau cyfyngiant, pecynnau gollyngiadau




Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Logistics

URN gwreiddiol

SFLWS27

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Elfennol Storio Nwyddau, Galwedigaethau Trin a Storio Nwyddau

Cod SOC

1162

Geiriau Allweddol

diogelwch; diogeledd; nwyddau; deunyddiau; peryglus; storio; warws; logisteg