Gosod nwyddau mewn storfa mewn cyfleuster logisteg
URN: SFLWS26
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio,Gweithrediadau Lleoliad Diwylliannol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gosod nwyddau mewn cyfleuster logisteg er mwyn cynyddu gofod, gwella dosbarthiad a lleihau risg. Mae’n cynnwys nodi lleoliadau ar gyfer maint, pwysau neu fath o nwyddau, yn cynnwys eu defnydd neu eu trosiant.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod ym maes warws a storio, symud dodrefn, trafnidiaeth neu anfon nwyddau ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- lleoli a chadarnhau’r nwyddau i gael eu storio yn unol â gofynion sefydliadol
- nodi a defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) sy’n berthnasol i’r nwyddau a’r amodau storio
- cadarnhau bod yr ardal i gael ei defnyddio ar gyfer storio yn barod i dderbyn y nwyddau
- nodi unrhyw faterion iechyd, diogelwch ac amgylcheddol yn ymwneud â’r nwyddau i gael eu storio
- nodi unrhyw amodau storio yn ymwneud â’r nwyddau
- ymdrin â nwyddau gan ddefnyddio’r dulliau a’r cyfarpar ymdrin angenrheidiol
- rhoi nwyddau mewn storfa mewn cyfleuster logisteg yn unol ag unrhyw weithdrefnau gweithredol a sefydliadol ar gyfer gofynion diogelwch, defnyddio gofod a dosbarthu
- nodi trefniadau monitro a storio ar gyfer y nwyddau, a chofnodi a chyfathrebu’r trefniadau hyn wrth y cydweithwyr perthnasol
- nodi ac ymateb i faterion yn ymwneud â storio nwyddau
- nodi unrhyw faterion hylendid neu halogiad gyda’r nwyddau ac adrodd y rhain wrth y cydweithiwr perthnasol
- cofnodi gwaith sydd yn cael ei wneud yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â gosod nwyddau mewn storfa mewn cyfleuster logisteg
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y mathau o nwyddau sydd yn cael eu storio yn y cyfleuster logisteg
- y Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) y dylid ei ddefnyddio wrth osod nwyddau mewn storfa
- sut i osod nwyddau mewn cyfleuster storio
- sut i gael gwybodaeth yn ymwneud â’r nwyddau i gael eu storio
- yr ardaloedd a ddefnyddir ar gyfer storio nwyddau
- pwysigrwydd paratoi ardaloedd storio, yn cynnwys glanhau a chlirio rhwystrau
- yr amodau storio’n ymwneud â’r mathau gwahanol o nwyddau sydd yn cael eu storio gan y gweithrediad logisteg
- y mathau o gyfarpar, cyfleusterau ac unrhyw ddulliau ymdrin sydd yn angenrheidiol ar gyfer storio nwyddau mewn cyfleuster logisteg
- y materion iechyd, diogelwch a diogeledd sy’n berthnasol i storio nwyddau
- y gweithdrefnau hylendid a bioddiogelwch sydd yn gysylltiedig â storio mathau gwahanol o nwyddau
- y mathau o faterion sydd yn gysylltiedig â storio nwyddau gwahanol
- sut i ddefnyddio a diweddaru unrhyw systemau rheoli stoc a ddefnyddir gan y sefydliad
- rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr sydd yn rhoi nwyddau mewn storfa mewn cyfleuster logisteg
- y systemau cofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a gofynion y sefydliad ar gyfer cynnal cofnodion
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, iechyd a diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â rhoi nwyddau mewn storfa mewn cyfleuster logisteg
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Amodau storio: amgylchol, wedi ei oeri, sych, awyr agored, dan do, wedi ei awyru, ar wahân, mynediad cyfyngedig, cwarantîn
Dulliau ymdrin: â llaw, mecanyddol, disgyrchiant
Systemau rheoli stoc: â llaw, cyfrifiadurol, systemau rheoli warws, amledd radio
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid
Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth
Cyfarpar: e.e. offer, teclynnau, peiriannau, lifftiau, cludwyr, craeniau
Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, diogelwch llygaid, menig, masgiau
Materion yn ymwneud â storio nwyddau: maint, pwysau, niferoedd, lleoliad, mynediad, trosiant stoc
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLWS26
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol
Cod SOC
9252
Geiriau Allweddol
gosod; lleoli; safle; nwyddau; deunyddiau; storfa; lleoliad; warws; logisteg; symud dodrefn