Derbyn nwyddau i gyfleusterau logisteg
URN: SFLWS25
Sectorau Busnes (Suites): Masnachwyr Pren,Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â derbyn nwyddau i mewn i gyfleusterau logisteg. Mae’n cynnwys cadarnhau bod yn nwyddau’n cael eu derbyn a’u trin yn ddiogel, nodi unrhyw risgiau a diweddaru cofnodion.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, symud dodrefn, trafnidiaeth neu anfon nwyddau ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau bod y nwyddau sydd yn cael eu derbyn yn unol â’r wybodaeth ddosbarthu
- cadarnhau bod yr ardal a ddefnyddir i dderbyn y nwyddau yn lân ac yn rhydd rhag rhwystrau a pheryglon
- nodi a defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) sy’n berthnasol i dderbyn nwyddau i mewn i gyfleusterau logisteg
- cadarnhau bod cerbydau’n ddiogel ac yn gadarn cyn dadlwytho
- ymdrin â nwyddau gan ddefnyddio dulliau ymdrin a chyfarpar yn unol â’r gofynion sefydliadol a chyfreithiol
- cadarnhau bod y nwyddau’n cael eu dadlwytho’n ddiogel yn unol â gofynion storio
- nodi materion iechyd, diogelwch a diogeledd yn ymwneud â derbyn nwyddau, ac ymateb yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- nodi ac ymateb i faterion wrth dderbyn nwyddau i mewn i gyfleusterau logisteg
- cofnodi eich gwaith yn unol â gofynion sefydliadol
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu yn ymwneud â derbyn nwyddau i mewn i gyfleusterau logisteg
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y ffynonellau a’r mathau o wybodaeth ar gyfer y nwyddau sydd yn cael eu derbyn, yn cynnwys gwybodaeth sy’n berthnasol i iechyd, diogelwch a’r amgylchedd
- nodweddion a gofynion arbennig y nwyddau sydd yn cael eu derbyn i mewn i gyfleusterau logisteg
- y Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) y dylid ei ddefnyddio wrth dderbyn nwyddau i mewn i gyfleusterau logisteg
- y gofynion sefydliadol a chyfreithiol sy’n berthnasol i’r nwyddau sydd yn cael eu derbyn
- y cyfarpar a’r cyfleusterau sydd yn angenrheidiol i dderbyn nwyddau i mewn i gyfleusterau logisteg
- trefniadau diogelwch a diogeledd cerbydau wrth ddadlwytho
- y dulliau ymdrin ar gyfer y mathau o nwyddau a dderbynnir gan y sefydliad
- y dulliau o ddadlwytho nwyddau o gerbydau yn ddiogel
- y materion iechyd, diogelwch ac amgylcheddol sy’n berthnasol i storio nwyddau a dderbynnir gan y sefydliad
- y mathau o faterion sydd yn gysylltiedig â derbyn nwyddau i mewn i gyfleusterau logisteg
- sut i ddefnyddio a diweddaru unrhyw systemau rheoli stoc a ddefnyddir yn y sefydliad
- rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr wrth dderbyn nwyddau i mewn i’r sefydliad
- y systemau cofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a gofynion y sefydliad dros gynnal cofnodion
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â derbyn nwyddau i mewn i gyfleusterau logisteg
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dulliau ymdrin: â llaw, mecanyddol
Systemau rheoli stoc: â llaw, cyfrifiadurol, systemau rheoli warws, amledd radio
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid
Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth
Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, diogelwch llygaid, menig, esgidiau uchel
Cyfarpar: e.e. offer, teclynnau, peiriannau, lifftiau, cludwyr, craeniau a systemau silffoedd a rheseli
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLWS25
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Trin a Storio Nwyddau, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol, Gweithrediadau Peiriannau Papur a Phren
Cod SOC
9252
Geiriau Allweddol
derbyn; ymdrin; symud; nwyddau; pren; masnachwyr pren; warws; logisteg; symud dodrefn