Cynnal perthynas waith gyda chydweithwyr mewn gweithrediadau logisteg

URN: SFLWS22
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 28 Chwef 2018

Trosolwg

Mae'r safon hon yn ymwneud â chynnal perthynas waith gyda chydweithwyr mewn gweithrediadau logisteg. Mae'n cynnwys cefnogi cydweithwyr, pryd i ofyn am gymorth a chefnogaeth gan gydweithwyr, a dulliau ar gyfer lleihau gwrthdaro.

Mae'r safon hon yn berthnasol ar gyfer pob gweithredwr ar bob lefel o weithrediadau logisteg. Gallai'r gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth, neu anfon llwythi ymlaen.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. defnyddio dulliau cyfathrebu i gyfathrebu a chynnal perthynas waith gyda chydweithwyr mewn gweithrediadau logisteg
  2. cadarnhau tasgau, blaenoriaethau a chyfrifoldebau gyda chydweithwyr
  3. ymateb i geisiadau gan gydweithwyr am gymorth i fodloni gofynion cynnyrch sefydliadol yn eich maes cyfrifoldeb
  4. esbonio i gydweithwyr pan nad yw'n bosibl ymateb i'w ceisiadau
  5. gofyn am gymorth gan gydweithwyr i fodloni gofynion cynnyrch sefydliadol yn eich maes cyfrifoldeb
  6. hysbysu cydweithwyr perthnasol ynghylch sefydliadau sydd yn atal cyflawni gofynion cynnyrch sefydliadol
  7. cael adborth ar eich perfformiad eich hun gan gydweithwyr perthnasol
  8. nodi meysydd lle gellir gwella eich ymarfer eich hun
  9. ymdrin ag unrhyw wrthdaro mewn perthynas waith a chyfrannu at eu datrys yn eich maes cyfrifoldeb chi
  10. cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a'r gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â pherthynas waith **

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i gyfathrebu gyda chydweithwyr i gynnal perthynas waith yn y sefydliad
  2. yr arferion gwaith, safonau ansawdd a gofynion cynnyrch sefydliadol sy'n gysylltiedig â'ch gwaith eich hun a gwaith eich cydweithwyr mewn gweithrediadau logisteg
  3. sut i wneud cais am gymorth ac ymateb i geisiadau am gymorth gan gydweithwyr yn eich maes cyfrifoldeb chi
  4. sut i ymateb pan na fyddwch yn gallu gweithredu ceisiadau cydweithwyr
  5. sut i wybod pan fydd angen cymorth ar gydweithwyr
  6. sut i benderfynu a yw rhoi cymorth yn cyd-fynd â'ch cyfrifoldebau
  7. pwysigrwydd gwrando ar gydweithwyr i helpu i wella ymarfer gwaith personol
  8. sut i adnabod eich gofynion dysgu eich hun a'r cyfleoedd ar gyfer dysgu sydd ar gael
  9. sut i adnabod gwrthdaro mewn perthynas waith a chyfrannu at eu datrys a phryd i ofyn am gymorth
  10. rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr
  11. y gweithdrefnau sefydliadol perthnasol a gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â pherthynas waith

Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwylydd, cwsmer/cleientiaid

*Dulliau cyfathrebu:* llafar, ysgrifenedig, electronig

Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

28 Chwef 2023

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Skills for Logistics

URN gwreiddiol

SFLWS22

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Trin a Storio Nwyddau

Cod SOC

1162

Geiriau Allweddol

perthynas waith; cydweithwyr; warws; logisteg