Lapio a phacio nwyddau mewn gweithrediadau logisteg
URN: SFLWS21
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Logisteg,Warws a Storio,Masnach ryngwladol a Gweithrediadau Logisteg
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â lapio a phacio nwyddau fel rhan o weithrediadau logisteg. Mae’n cynnwys nodi’r nwyddau, gan ddefnyddio offer a chyfarpar yn gywir, a lapio neu bacio nwyddau. Mae hefyd yn cynnwys labelu pecynnau, gwaredu deunydd gwastraff, a chynnal iechyd, diogelwch a diogeledd.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai’r gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth neu anfon nwyddau ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau bod y nwyddau sy’n cael eu lapio neu eu pacio mewn gweithrediadau logisteg yn cyd-fynd â manylebau’r archeb
- nodi a defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) sy’n berthnasol i’r gofynion lapio a phacio
- defnyddio’r offer perthnasol a gweithredu’r cyfarpar yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd a gweithdrefnau sefydliadol
- cadarnhau bod lapio neu bacio addas yn cael ei ddewis ar gyfer y nwyddau, yn unol â manyleb yr archeb a gweithdrefnau sefydliadol
- diogelu’r nwyddau tra’u bod yn cael eu lapio neu eu pacio
- lapio neu bacio’r nwyddau gan ddefnyddio’r deunyddiau angenrheidiol a lleihau gwastraff
- labelu’r nwyddau sydd wedi eu lapio a’u pacio gyda’r wybodaeth angenrheidiol
- gwaredu mathau gwahanol o ddeunydd gwastraff yn unol â deddfwriaeth berthnasol a gweithrediadau sefydliadol
- nodi unrhyw broblemau iechyd, diogelwch a diogeledd yn ymwneud â lapio neu bacio nwyddau, ac ymateb yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- nodi ac ymateb i broblemau gyda lapio neu bacio’r nwyddau mewn gweithrediadau logisteg
- cofnodi lapio a phacio nwyddau yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â lapio neu bacio nwyddau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y wybodaeth am y nwyddau sy’n cael eu lapio a’u pacio, yn cynnwys gwybodaeth sy’n berthnasol i ffactorau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol
- y Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) y dylid eu defnyddio wrth lapio a phacio nwyddau mewn gweithrediadau logisteg
- y mathau o ddeunydd lapio a phacio sydd ar gael mewn gweithrediadau logisteg, a’r hyn y cânt eu defnyddio ar ei gyfer
- yr offer a’r cyfarpar perthnasol a ddefnyddir ar gyfer lapio a phacio nwyddau
- sut i lapio a phacio mathau gwahanol o nwyddau heb eu niweidio
- sut i leihau gwastraff deunydd lapio a phacio
- y mathau o broblemau’n ymwneud â lapio a phacio nwyddau, yn cynnwys iechyd, diogelwch a diogeledd
- rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr sydd yn gysylltiedig â lapio a phacio nwyddau
- sut i gwblhau dogfennau a chynnal cofnodion
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â lapio a phacio nwyddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfarpar: offer, teclynnau, peiriannau, lifftiau, cludwyr, craeniau a systemau silffoedd a rheseli
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid
Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, diogelwch llygaid, menig, esgidiau uchel
Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLWS21
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol
Cod SOC
9252
Geiriau Allweddol
lapio; pacio; nwyddau; pecynnau; deunydd; deunydd pacio