Codi nwyddau mewn gweithrediadau logisteg
URN: SFLWS20
Sectorau Busnes (Cyfresi): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2018
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â codi nwyddau mewn gweithrediadau logisteg yn barod i’w hanfon neu i gydosod archebion. Mae’n cynnwys nodi’r nwyddau, bod yn ymwybodol o broblemau posibl a’r defnydd o gyfarpar codi.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai’r gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth neu anfon nwyddau ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael y wybodaeth berthnasol sydd yn angenrheidiol ar gyfer codi nwyddau mewn gweithrediadau logisteg
- lleoli’r holl nwyddau angenrheidiol yn yr ardaloedd storio perthnasol
- nodi a defnyddio Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) sy’n berthnasol i’r nwyddau a’r amodau storio
- cymhwyso’r dulliau codi a nodir gan y sefydliad ar gyfer y math o nwyddau a maint yr archeb
- defnyddio cyfarpar codi perthnasol yn unol â gofynion sefydliadol
- rhoi’r nwyddau sydd wedi eu codi yn y cynwysyddion perthnasol neu ar y paledi
- gosod y nwyddau sydd wedi eu codi yn barod ar gyfer cydosod archebion
nodi ac ymateb i broblemau yn gysylltiedig â chodi nwyddau
cofnodi’r gwaith a wnaed yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cydymffurfio â’r gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â chodi nwyddau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y wybodaeth sy’n ofynnol i godi nwyddau mewn gweithrediadau logisteg
- y systemau rheoli stoc sydd yn cael eu defnyddio yn eich sefydliad
- natur a nodweddion y nwyddau sy’n cael eu codi mewn gweithrediadau logisteg
- y Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) y dylid eu defnyddio wrth godi nwyddau o’r storfa
- y dulliau codi y gellir eu defnyddio ar gyfer mathau gwahanol o nwyddau a systemau storio
- y mathau o gyfarpar sydd ar gael i’w defnyddio wrth godi nwyddau
- y dulliau ymdrin sydd yn angenrheidiol ar gyfer mathau gwahanol o nwyddau
- y mathau o broblemau wrth godi nwyddau a sut i ymateb i’r rhain
- rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr mewn gweithrediadau logisteg yn eich sefydliad
- y gofynion sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â chodi nwyddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cynwysyddion: cynwysyddion, bocsys, cewyll, bagiau, biniau, bareli, drymiau, tiwbiau, sachau
Problemau yn codi nwyddau: adnabod, lleoliad, pwysau, maint, nifer, hygyrchedd, mathau o nwyddau (e.e. peryglus)
Cyfarpar: e.e. offer, teclynnau, peiriannau, lifftiau, cludwyr, craeniau
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid
Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth
Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, dillad amddiffynnol, diogelwch llygaid, menig
Systemau rheoli stoc: â llaw, cyfrifiadurol, systemau rheoli warws, amledd radio
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2023
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Skills for Logistics
URN gwreiddiol
SFLWS20
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol
Cod SOC
9252
Geiriau Allweddol
codi; nwyddau; dewis; ymdrin; warws; logisteg