Symud ac ymdrin â nwyddau mewn gweithrediadau logisteg
URN: SFLWS19
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â symud ac ymdrin â nwyddau mewn gweithrediadau logisteg, yn cynnwys y defnydd diogel o gyfarpar, lle bo angen. Mae’n cynnwys nodi peryglon posibl a’r broses o godi, trosglwyddo a gosod nwyddau i lawr.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, symud dodrefn, trafnidiaeth neu anfon nwyddau ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi’r nwyddau i gael eu symud a’u trin fel rhan o’r gweithrediadau logisteg, a chadarnhau eu bod yn addas i gael eu symud
- cadarnhau bod yr ardal yn ddiogel ar gyfer symud ac ymdrin â nwyddau
- nodi peryglon yn symud ac ymdrin â’r nwyddau, a chymryd camau i leihau risg
- cadarnhau’r lleoliad ar gyfer lleoli a gosod nwyddau i lawr, yn unol â gofynion sefydliadol
- cadarnhau bod y nwyddau yn addas ar gyfer ymdrin â llaw neu bod y cyfarpar cywir yn cael ei ddewis, ei baratoi a’i fod yn weithredol
- nodi a defnyddio’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sy’n berthnasol ar gyfer symud ac ymdrin â nwyddau
- defnyddio’r dulliau angenrheidiol i symud ac ymdrin â nwyddau, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- trosglwyddo nwyddau i’w lleoliad dynodedig heb golled na niwed
- lleoli a gosod y nwyddau i lawr yn y lleoliad dynodedig
- gosod y nwyddau er mwyn gallu eu nodi a chael mynediad atynt
- nodi ac ymateb i broblemau gyda’r nwyddau yn ystod gweithrediadau symud ac ymdrin
- dychwelyd unrhyw gyfarpar a ddefnyddiwyd i symud a throsglwyddo’r nwyddau i’w safle gwreiddiol ar ôl ei ddefnyddio
- cofnodi’r gwaith a wnaed, yn unol â gweithrediadau sefydliadol
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â symud ac ymdrin â nwyddau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodweddion y mathau gwahanol o nwyddau sydd yn cael eu symud a’u trin a’r ffordd orau o’u symud
- y mathau o gyfarpar a ddefnyddir ar gyfer ymdrin a symud nwyddau
- peryglon y gweithle y gellid dod ar eu traws a sut i ymateb i’r rhain
- y Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) y dylid eu defnyddio wrth symud ac ymdrin â nwyddau
- sut i symud ac ymdrin â mathau gwahanol o nwyddau yn ddiogel mewn gweithrediadau logisteg
- y dulliau o godi, symud a gosod nwyddau i lawr mewn perthynas â’r cyfarpar a ddefnyddir a’r math o nwyddau
- pryd i ofyn am gymorth yn symud ac ymdrin â nwyddau, ac i bwy i ofyn
- lleoliadau’r mathau gwahanol o nwyddau
- sut i osod nwyddau er mwyn gallu eu nodi a chael mynediad atynt
- y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer ymateb i golli neu niweidio nwyddau
- pwysigrwydd dychwelyd unrhyw gyfarpar a ddefnyddir i symud a throsglwyddo’r nwyddau i’w safle gwreiddiol yn barod ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol
- rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr
- y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a’r gofynion ar gyfer cynnal cofnodion
- y gofynion sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â symud ac ymdrin â nwyddau
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid
Cyfarpar Diogelu Personol (PPE): siacedi llachar, hetiau caled, dillad amddiffynnol, diogelwch llygaid, menig
Cyfarpar: e.e. offer, teclynnau, peiriannau, lifftiau, cludwyr, craeniau
Gofynion amgylcheddol, cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth
Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio o fewn gweithrediadau logisteg. Gallai hyn fod yn fwyd, eitemau nad ydynt yn fwyd, eiddo’r cartref, cyfarpar electronig, dodrefn, hylifau ac ati
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLWS19
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Ymdrin â Nwyddau a Storio, Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol
Cod SOC
9252
Geiriau Allweddol
symud; ymdrin; nwyddau; logisteg; symud dodrefn