Cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus mewn gweithrediadau logisteg
Trosolwg
Mae'r safon hon yn ymwneud â chadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus mewn gweithrediadau logisteg, a chynnal y safonau hylendid gofynnol.
Mae'r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai'r gweithredwyr, er enghraifft, fod mewn maes warws a storio, trafnidiaeth, neu anfon llwythi ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi'r gofynion iechyd, diogelwch a diogeledd perthnasol yn ymwneud â glanhau ardaloedd gwaith mewn gweithrediadau logisteg yn eich sefydliad
- defnyddio Offer Amddiffynnol Personol (PPE), cyfarpar a deunyddiau glanhau i lanhau a thacluso'r ardaloedd gwaith
- glanhau a thacluso'r ardaloedd gwaith i gadw glendid, hylendid a diogeledd ar y lefel sy'n ofynnol gan y sefydliad
- gweithredu rhagofalon diogelwch i ddiogelu pobl yn yr ardaloedd gwaith rhag peryglon glanhau yn ystod gweithdrefnau glanhau
- lleihau anghyfleustra i bobl eraill yn yr ardaloedd gwaith wrth lanhau
- gwaredu gwastraff yn unol â gweithdrefnau gweithredol
- dychwelyd offer a deunyddiau glanhau i'r ardal storio berthnasol a dilyn gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer eu hadnewyddu
- cydymffurfio â safonau iechyd a hylendid personol ym mhob gweithgaredd yn y gwaith
- adnabod ac ymateb i broblemau yn ymwneud â glanhau ardaloedd gwaith mewn gweithrediadau logisteg yn eich sefydliad
- cofnodi'r gwaith sy'n cael ei wneud yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
- cydymffurfio â'r gweithdrefnau sefydliadol a'r holl ofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu yn ymwneud â chadw'r gweithle yn lân
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y mathau o ofynion iechyd, diogelwch a diogeledd sy'n berthnasol i ardaloedd gwaith gwahanol mewn gweithrediadau logisteg yn eich sefydliad
- y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus
- pwysigrwydd cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus at ddibenion iechyd a diogelwch
- y rhagofalon diogelwch sy'n ofynnol wrth ddefnyddio dulliau a deunyddiau glanhau gwahanol
- sut i ddefnyddio deunyddiau glanhau, offer gwaredu gwastraff ac Offer Amddiffynnol Personol (PPE)
- y gweithdrefnau adnewyddu stoc ar gyfer deunyddiau glanhau
- dulliau gwaredu gwastraff
- y safonau hylendid personol sy'n ofynnol ar gyfer amgylcheddau a gweithgareddau storio penodol
- pam y mae cynnal glanweithdra yn bwysig ar gyfer hylendid
- y mathau o broblemau'n ymwneud â glanhau a thacluso ardaloedd gwaith mewn gweithrediadau logisteg yn eich sefydliad
- rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr
- y systemau gwybodaeth a chofnodi a ddefnyddir gan y sefydliad a'r gofynion ar gyfer cadw cofnodion
- y gweithdrefnau sefydliadol a'r gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â chynnal ardaloedd gwaith
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Ardaloedd gwaith: swyddfeydd, ystafelloedd, ardaloedd seibiant, warws, llawr y siop, rheiliau, llwybrau, tramwyfeydd, coridorau, toiledau, ystafelloedd ymolchi, cerbydau/offer, ardaloedd llwytho/dadlwytho, tu mewn/tu allan **
* *
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid
Gofynion cyfreithiol, diogelwch a sefydliadol rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth
Offer Amddiffynnol Personol (PPE): dillad ac offer amddiffynnol personol, dillad gwaith brand
*Peryglon glanhau:* lloriau llithrig, peryglon baglu, cemegau peryglus, offer/peiriannau
Pobl: Cydweithwyr, ymwelwyr, cwsmeriaid/cleientiaid