Cynnal stoc ar lefelau angenrheidiol mewn gweithrediadau logisteg
URN: SFLWS17
Sectorau Busnes (Suites): Warws a Storio
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynnal stoc ar y lefelau angenrheidiol mewn gweithrediadau logisteg yn cynnwys, er enghraifft, lefelau caffael, lefelau casglu uniongyrchol a lefelau defnydd dyddiol. Mae’n cynnwys dilyn dulliau cylchdroi stoc, labelu a lleoli stoc. Mae hefyd yn cynnwys diweddaru cofnodion stoc.
Mae’r safon hon yn berthnasol i bob gweithredwr ar bob lefel mewn gweithrediadau logisteg. Gallai’r gweithredwyr, er enghraifft, fod yn gweithio ym maes warws a storio, trafnidiaeth, neu anfon nwyddau ymlaen.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- nodi’r lefelau stoc angenrheidiol i gynnal y niferoedd cywir o fewn eich maes cyfrifoldeb mewn gweithrediadau logisteg
- cadarnhau lefelau stoc presennol yn eich maes cyfrifoldeb
- nodi eitemau wedi eu niweidio, diffygiol neu y mae eu dyddiad wedi dod i ben a’u symud i’r lleoliad angenrheidiol
- dilyn gweithdrefnau a dulliau y sefydliad ar gyfer cylchdroi stoc
- defnyddio dulliau ymdrin diogel i ymdrin â stoc, yn unol â gofynion sefydliadol
- labelu stoc yn unol â gofynion sefydliadol
- lleoli stoc yn y lleoliad/au cywir ar gyfer defnydd yn y dyfodol
- nodi ac ymateb i broblemau yn cynnal stoc ar y lefelau angenrheidiol
- cynnal gwybodaeth gywir i ddiweddaru cofnodion adnewyddu stoc mewn gweithrediadau logisteg
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol ar gyfer cynnal stoc ar lefelau angenrheidiol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pam y mae’n bwysig cynnal stoc ar y lefelau angenrheidiol mewn gweithrediadau logisteg
- pa mor aml y dylid gwirio lefel y stoc, a sut i nodi a oes angen adnewyddu stoc
- sut i adnabod a symud stoc wedi ei niweidio, diffygiol neu y mae ei ddyddiad wedi dod i ben
- y dulliau cylchdroi stoc ar gyfer y mathau o stoc sy’n cael eu storio gan y sefydliad
- y dulliau ymdrin ar gyfer y mathau o stoc sydd yn cael ei storio gan y sefydliad
- sut i labelu a lleoli stoc yn y lleoliad cywir
- y systemau rheoli stoc perthnasol a ddefnyddir yn y sefydliad
- y mathau o broblemau sydd yn codi wrth gynnal stoc a sut i ymateb i’r rhain
- rolau a chyfrifoldebau cydweithwyr
- y gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer cynnal stoc ar y lefelau gofynnol
- y gweithdrefnau sefydliadol a’r gofynion cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch, bioddiogelwch a gweithredu perthnasol yn ymwneud â chynnal stoc ar y lefelau angenrheidiol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Lefelau stoc: lefel gaffael, lefel dewis uniongyrchol, defnydd dyddiol
Dulliau ymdrin: â llaw, mecanyddol, disgyrchiant
Cofnodion stoc: â llaw, cyfrifiadurol, systemau rheoli warws
Systemau rheoli stoc: â llaw, cyfrifiadurol, systemau rheoli warws, amledd radio
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol, rheolwr llinell, goruchwyliwr, cwsmer/cleientiaid
Gofynion cyfreithiol, diogelwch a gweithredu: rheoliadau diogelwch, codau ymarfer, cyfyngiadau llwyth, rheoliadau amser gwaith, rheoliadau trafnidiaeth
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLWS17
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Galwedigaethau Storio Nwyddau Elfennol
Cod SOC
9252
Geiriau Allweddol
lefelau stoc; cylchdroi stoc; ymdrin