Amserlennu a chymeradwyo cyflwyno archebion

URN: SFLSCM99
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 30 Maw 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn ymwneud ag amserlennu a chymeradwyo cyflwyno archebion. Mae’n cynnwys cadarnhau a nodi gwybodaeth am gyflenwadau, ac mae’n cynnwys amserlennu archebion, cadarnhau bod archebion wedi eu cyflwyno a datrys problemau.

Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. nodi gwybodaeth am y cyflenwadau sydd eu hangen
  2. cadarnhau’r manylebau ar gyfer archebion gyda chydweithwyr perthnasol
  3. amserlennu a chymeradwyo cyflwyno archebion i fodloni gofynion y gadwyn gyflenwi
  4. cadarnhau bod archebion wedi eu cyflwyno gyda chyflenwyr
  5. nodi a datrys problemau gydag archebion, o fewn terfynau eich cyfrifoldeb, a’u huwchgyfeirio at y rhanddeiliad perthnasol 
  6. cydymffurfio â’r holl ofynion sefydliadol perthnasol ar gyfer cyflwyno archebion 


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. nodau, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
  2. damcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
  3. ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad am brosesau cadwyn gyflenwi
  4. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer cyflwyno archebion
  5. y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion caffael
  6. y mathau o ddulliau a gweithdrefnau gwerthuso cyflenwyr a ddefnyddir gan y sefydliad
  7. sut i amserlennu a chymeradwyo cyflwyno archebion
  8. y mathau o broblemau sydd yn gallu digwydd a phryd i’w huwchgyfeirio at y rhanddeiliaid perthnasol
  9. y dulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol

Cyflenwadau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi

Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol

Manylebau: set o ofynion i gael eu bodloni gan gynnyrch materol neu wasanaeth


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

30 Maw 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

SFLSCM99

Galwedigaethau Perthnasol

Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth

Cod SOC

243

Geiriau Allweddol

amserlennu; cymeradwyo; galw; archebion; cadwyn gyflenwi