Gwerthuso gallu cyflenwyr i fodloni manylebau cyflenwi
URN: SFLSCM98
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â gwerthuso gallu cyflenwyr i fodloni manylebau cyflenwi. Mae’n cynnwys cadarnhau’r math o gyflenwadau sydd eu hangen a dadansoddi gwybodaeth am allu cyflenwyr. Mae hefyd yn cynnwys nodi problemau, rhoi canlyniadau’r gwerthusiad a chydymffurfio â gweithdrefnau.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallai fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau’r math o nwyddau sydd eu hangen
- darparu manylebau ar gyfer cyflenwyr ar y nwyddau sydd eu hangen
- cael gwybodaeth gan gyflenwyr am eu gallu i ddarparu’r nwyddau gofynnol
- gwerthuso gwybodaeth am allu cyflenwyr i fodloni manylebau cyflenwi
- nodi’r cyflenwyr sydd yn gallu bodloni’r manylebau cyflenwi
- nodi a gwerthuso’r ffactorau a’r risgiau perthnasol yn ymwneud â defnyddio’r cyflenwyr
- cyfathrebu canlyniadau’r gwerthusiad i’r cydweithwyr perthnasol
- cydymffurfio â gweithdrefnau sefydliadol ar gyfer gwerthuso gallu cyflenwyr i fodloni manylebau cyflenwi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
- ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad ar brosesau cadwyn gyflenwi
- sut i werthuso gallu cyflenwyr i fodloni manylebau cyflenwyr
- y gofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol ar gyfer cyflenwyr
- gweithdrefnau eich sefydliad ar gyfer gwerthuso gallu cyflenwyr
- y math o ddamcaniaethau, modelau ac arferion caffael
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg a ddefnyddir gan eich sefydliad i nodi a gwerthuso ffactorau a risgiau yn ymwneud â defnyddio cyflenwyr
- y dulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad i gyfathrebu canlyniadau’r gwerthuso i gydweithwyr
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi
Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Manylebau: set o ofynion i gael eu bodloni gan gynnyrch materol neu wasanaeth
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM98
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
gwerthuso; gallu; cyflenwyr; cadwyn gyflenwi