Creu manylebau ar gyfer cyflenwadau
URN: SFLSCM97
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chreu manylebau ar gyfer cyflenwadau. Mae’n cynnwys cael a chreu gwybodaeth am gyflenwadau angenrheidiol. Mae hefyd yn cynnwys cadarnhau manylebau, cyflwyno manylebau, cydymffurfio â gweithdrefnau a dosbarthu manylebau i gyflenwyr.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael gwybodaeth fanwl am y cyflenwadau sydd eu hangen
- creu manylebau ar gyfer y cyflenwadau sydd eu hangen
- gwirio cynnwys y manylebau gyda’r cydweithwyr perthnasol a gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol
- cydymffurfio â gofynion eich sefydliad ar gyfer creu manylebau
- rhoi’r fanyleb i ddarpar-gyflenwyr
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
- damcaniaethau, modelau ac arferion rheoli y gadwyn gyflenwi
- ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad ar brosesau cadwyn gyflenwi
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol ar gyfer cynnwys manylebau ar gyfer cyflenwadau
- y damcaniaethau, modelau a’r arferion caffael
- dulliau a gweithdrefnau gwerthuso cyflenwyr
- y damcaniaethau, modelau ac arferion rheoli mwyaf effeithiol
- y damcaniaethau, modelau a’r arferion cyflwyno
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Cyflenwadau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi
Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Manylebau: set o ofynion i gael eu bodloni gan gynnyrch materol neu wasanaeth
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM97
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
creu; manylebau; cyflenwadau; cadwyn gyflenwi