Dewis cyflenwyr ar gyfer y gadwyn gyflenwi
URN: SFLSCM96
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dewis cyflenwyr ar gyfer y gadwyn gyflenwi. Mae’n cynnwys cael gwybodaeth am y galw am gyflenwadau a’r ffynonellau cyflenwi posibl. Mae hefyd yn cynnwys sefydlu meini prawf ar gyfer cyflenwyr, asesu’r ffactorau perthnasol, datrys problemau a darparu gwybodaeth.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cadarnhau’r galw am gyflenwadau
- cael gwybodaeth am ffynonellau cyflenwi posibl
- dilyn gweithdrefnau sefydliadol i sefydlu meini prawf ar gyfer dewis cyflenwyr ar gyfer y gadwyn gyflenwi
- cadarnhau bod manylebau cyflenwi’n cael eu rhoi i ddarpar-gyflenwyr
- dewis cyflenwyr sy’n bodloni’r manylebau cyflenwi
- nodi ac asesu’r ffactorau a’r risgiau perthnasol a allai effeithio ar gaffael cyflenwadau
- nodi ac ymdrin ag unrhyw broblemau yn dewis cyflenwyr ar gyfer y gadwyn gyflenwi
- rhoi gwybodaeth am ddewis cyflenwyr i gydweithwyr
- cydymffurfio â’r holl weithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol wrth ddewis cyflenwyr ar gyfer y gadwyn gyflenwi
- hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd o fewn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth ddewis cyflenwyr ar gyfer y gadwyn gyflenwi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
- ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad am brosesau cadwyn gyflenwi, a’r ffordd yr ydym yn defnyddio ffynonellau gwybodaeth i ddewis cyflenwyr
- cynnwys manylebau ar gyfer dewis cyflenwyr ar gyfer y gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion caffael
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau gwerthuso cyflenwyr
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli ansawdd
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg sydd ar gael i gynorthwyo gyda dewis cyflenwyr ar gyfer y gadwyn gyflenwi
- sut i nodi ac ymdrin ag unrhyw faterion yn dewis cyflenwyr ar gyfer y gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddulliau cyfathrebu a ddefnyddir gan eich sefydliad
- y gweithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol yn ymwneud â dewis cyflenwyr ar gyfer y gadwyn gyflenwi
- eich cyfrifoldebau chi a’r sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth ddewis cyflenwyr ar gyfer y gadwyn gyflenwi
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Cyflenwadau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi
Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM96
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
dewis; cyflenwyr; cadwyn gyflenwi