Adolygu canlyniadau contractau i gyflenwi nwyddau
URN: SFLSCM94
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud ag adolygu canlyniadau contractau i gyflenwi nwyddau. Mae’n cynnwys cael a gwerthuso gwybodaeth a nodi cyfleoedd i wella canlyniadau contract. Mae hefyd yn cynnwys gwneud argymhellion a darparu gwybodaeth.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael y wybodaeth berthnasol ar ganlyniadau contractau i gyflenwi nwyddau
- adolygu gwybodaeth am ganlyniadau contractau
- nodi ffyrdd o wella canlyniadau contractau i gyflenwi nwyddau
- rhoi canlyniadau’r adolygiad i’r cydweithwyr perthnasol
- argymell gwelliannau i’r broses gontractio wrth y cydweithwyr perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
- ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad ar brosesau cadwyn gyflenwi ac adolygu contractau
- y gofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol ar gyfer contractau
- y gweithdrefnau gofynnol ar gyfer contractio gyda sefydliadau eraill
- sut i adolygu canlyniadau contractau i gyflenwi nwyddau
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau gwerthuso cyflenwr
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi ariannol i gynorthwyo gydag adolygu contractau i gyflenwi nwyddau
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion caffael
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg i gynorthwyo gydag adolygu contractau i gyflenwi nwyddau
- sut i ddarparu canlyniadau’r adolygiad ar gyfer cydweithwyr
- sut i wneud argymhellion i wella’r broses gontractio
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Contractau: cytundeb sydd yn rhwymo mewn cyfraith. Fel arfer yn cynnwys cytundebau ffurfiol sydd yn rhwymo mewn cyfraith, ond gallant fod yn gytundebau anffurfiol; gellir gorfodi’r ddau trwy gyfraith sifil. Yn cynnwys: Deddf Contractau, Deddf Gwerthu a Chyflenwi Nwyddau, Deddf Gwerthu Nwyddau, Deddf Hawliau Defnyddwyr, ac ati
Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM94
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
adolygu; canlyniad; contractau; cadwyn gyflenwi