Ffurfio contract gyda sefydliadau eraill i gyflenwi nwyddau
URN: SFLSCM93
Sectorau Busnes (Cyfresi): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â ffurfio contract gyda sefydliadau eraill i gyflenwi nwyddau. Mae’n cynnwys nodi manylion y contract, cyfnewid gwybodaeth a sicrhau bod y contract yn bodloni gofynion y sefydliad. Mae hefyd yn cynnwys datrys problemau, cael awdurdodiad a darparu gwybodaeth.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- darparu gwybodaeth am gynnwys y contract gyda sefydliadau eraill i gyflenwi nwyddau
- nodi’r manylion angenrheidiol yn y contract i gyflenwi nwyddau
- cyfnewid gwybodaeth am gontractau gyda sefydliadau eraill
- cadarnhau bod y contract yn cynnwys y manylion cywir
- cadarnhau bod y contract yn bodloni gofynion eich sefydliad eich hun a sefydliadau eraill
- datrys problemau’n ymwneud â chwblhau contractau i gyflenwi nwyddau
- cael yr awdurdodiadau a’r llofnodion angenrheidiol i gwblhau contractau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
- ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad ar brosesau cadwyn gyflenwi a chontractio gyda sefydliadau eraill
- y dulliau a’r gweithdrefnau drafftio angenrheidiol ar gyfer contractio gyda sefydliadau eraill
- y mathau o strategaethau, dulliau a gweithdrefnau trafod
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi ariannol
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion caffael
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg
- y gofynion cyfreithiol a rheoliadol perthnasol ar gyfer contractio gyda sefydliadau eraill
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Contractau: cytundeb sydd yn rhwymo mewn cyfraith. Fel arfer yn cynnwys cytundebau ffurfiol sydd yn rhwymo mewn cyfraith, ond gallant fod yn gytundebau anffurfiol; gellir gorfodi’r ddau trwy gyfraith sifil.
Yn cynnwys: Deddf Contractau, Deddf Gwerthu a Chyflenwi Nwyddau, Deddf Gwerthu Nwyddau, Deddf Hawliau Defnyddwyr, ac ati
Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM93
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
contract; sefydliadau; cadwyn gyflenwi