Trafod ar gyfer nwyddau
URN: SFLSCM92
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â thrafod ar gyfer nwyddau. Mae’n cynnwys pennu’r wybodaeth sydd yn ofynnol ar gyfer cynnal trafodaethau, cyflawni trafodaethau a sicrhau bod y nwyddau’n bodloni gofynion. Mae hefyd yn cynnwys darparu gwybodaeth am ganlyniadau’r trafodaethau.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent, er enghraifft, fod mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
1. cael y wybodaeth sydd ei hangen i gynnal y trafodaethau ar gyfer nwyddau
2. pennu’r hyn sydd ei angen gan bob parti yn y trafodaethau
3. sefydlu’r paramedrau ar gyfer trafod y telerau a’r amodau ar gyfer y nwyddau
4. cynnal y trafodaethau i gyflawni’r amcanion angenrheidiol
5. addasu strategaethau trafod i ymdopi ag amgylchiadau neu faterion newydd
6. cadarnhau bod y nwyddau’n bodloni gofynion cadwyn gyflenwi y sefydliad
7. rhoi gwybodaeth am ganlyniadau’r trafodaethau i gydweithwyr
8. creu contract o delerau ar gyfer y cyflenwr i gyflenwi nwyddau i’r sefydliad
9. cydymffurfio â’r holl weithdrefnau cyfreithiol, rheoliadol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol wrth drafod ar gyfer nwyddau
10. hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd yn y sefydliad a chyfathrebu a gweithredu hyn wrth drafod ar gyfer nwyddau
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
- ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad ar brosesau cadwyn gyflenwi a ble i gael y wybodaeth sydd ei hangen i gynnal trafodaethau am nwyddau
- pwysigrwydd pennu’r hyn sydd ei angen gan bob parti yn y trafodaethau
- y paramedrau ar gyfer trafod y telerau a’r amodau ar gyfer y nwyddau
- damcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
- dulliau a gweithdrefnau gwerthuso’r cyflenwr
- y damcaniaethau, y modelau a’r arferion caffael
- y strategaethau, y dulliau a’r gweithdrefnau trafod
- y gofynion sefydliadol, cyfreithiol, iechyd a diogelwch ac amgylcheddol perthnasol ar gyfer nwyddau
- y gofynion sylfaenol ar gyfer contractau
- sut i adlewyrchu’r drafodaeth mewn termau contract, yn unol â gweithdrefnau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Nwyddau: unrhyw gyfuniad o nwyddau neu wasanaethau sydd yn cael eu caffael, eu dosbarthu neu eu storio yn y gadwyn gyflenwi
Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Contractau: cytundeb sydd yn rhwymo mewn cyfraith. Yn cynnwys: Deddf Contractau, Deddf Gwerthu a Chyflenwi Nwyddau, Deddf Gwerthu Nwyddau, Deddf Hawliau Defnyddwyr, ac ati
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM92
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
trafod; nwyddau; cadwyn gyflenwi