Cynllunio prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
URN: SFLSCM90
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â chynllunio prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi. Mae’n cynnwys cael gwybodaeth, dynodi nodau ac amcanion, a nodi tasgau a cherrig milltir prosiectau. Mae hefyd yn cynnwys nodi graddfeydd amser, adnoddau a chostau, gan asesu’r ffactorau perthnasol a datrys unrhyw broblemau.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent fod, er enghraifft, mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cael gwybodaeth am ofynion y prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- dynodi nodau ac amcanion y prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- cynllunio tasgau a cherrig milltir y prosiect
- cynllunio’r graddfeydd amser, amserlennu a hyd y tasgau ar gyfer y prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- pennu’r adnoddau sydd ar gael i wneud y project er mwyn datblygu’r gadwyn gyflenwi
- cyfrifo costau cynnal y prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- pennu’r ffactorau a’r risgiau a allai effeithio’n niweidiol ar y prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- sefydlu’r dulliau i reoli’r ffactorau a’r risgiau a allai gael effaith niweidiol ar y prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- nodi a datrys unrhyw broblemau yn cynllunio’r prosiect i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- hysbysu’r holl gydweithwyr perthnasol am gynlluniau’r prosiect
- cydymffurfio â’r gweithdrefnau cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol wrth gynllunio prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- hyrwyddo cyfrifoldeb dros yr amgylchedd a chynaliadwyedd yn y sefydliad, a chyfathrebu a gweithredu’r rhain wrth gynllunio prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
- ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad am brosesau cadwyn gyflenwi
- sut i gynllunio prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- dulliau a gweithdrefnau cynllunio’r prosiect
- y damcaniaethau, y modelau a’r arferion rheoli newid
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi ariannol sydd ar gael i gynorthwyo i gynllunio prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddulliau a gweithdrefnau dadansoddi risg sydd ar gael i gynorthwyo gyda chynllunio prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
- pwysigrwydd rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gydweithwyr a’r ffordd orau o wneud hyn
- dulliau a gweithdrefnau rheoli a gweinyddu prosiect
- y gweithdrefnau cyfreithiol, amgylcheddol, iechyd a diogelwch a sefydliadol perthnasol yn ymwneud â’r gadwyn gyflenwi
- eich cyfrifoldebau chi a’r sefydliad dros ddiogelu’r amgylchedd a gweithio’n gynaliadwy wrth gynllunio prosiectau i ddatblygu’r gadwyn gyflenwi
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, allanol
Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Prosiect: gweithgaredd wedi ei gynllunio gydag amcanion y cytunwyd arnynt, llinell amser ac adnoddau wedi eu bwriadu i gyflawni canlyniad y cytunwyd arno
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM90
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
prosiectau; datblygu; cadwyn gyflenwi