Dadansoddi gwybodaeth am berfformiad y gadwyn gyflenwi
URN: SFLSCM87
Sectorau Busnes (Suites): Rheoli Cadwyn Gyflenwi
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn ymwneud â dadansoddi gwybodaeth am berfformiad y gadwyn gyflenwi. Mae’n cynnwys cydgrynhoi a pharatoi gwybodaeth, nodi ffactorau hanfodol a rhoi’r canlyniadau i gydweithwyr.
Mae’r safon hon ar gyfer ymarferwyr cadwyn gyflenwi. Gallent, er enghraifft, fod mewn rolau prynu, gweithrediadau logisteg cludiant neu reoli trafnidiaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- egluro diben y dadansoddiad
- cael gwybodaeth am berfformiad y gadwyn gyflenwi
- cydgrynhoi a pharatoi’r wybodaeth ar gyfer ei dadansoddi
- dadansoddi’r wybodaeth am y gadwyn gyflenwi
- defnyddio dulliau a thechnegau dadansoddi sy’n berthnasol i’r wybodaeth
- nodi ffactorau hanfodol sy’n effeithio ar berfformiad y gadwyn gyflenwi
- nodi unrhyw faterion gyda’r gadwyn gyflenwi sydd angen gweithredu ar unwaith
- rhoi canlyniadau’r dadansoddiad i gydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol ar y fformat sydd yn ofynnol gan y sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- nodau strategol, amcanion a gweithgareddau eich sefydliad mewn perthynas â’r gadwyn gyflenwi
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli cadwyn gyflenwi
- ffynonellau gwybodaeth eich sefydliad ar brosesau cadwyn gyflenwi
- sut i gael gwybodaeth am berfformiad y gadwyn gyflenwi
- y dulliau a’r technegau dadansoddi sy’n berthnasol i’r wybodaeth
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion mesur a meincnodi perfformiad
- y mathau o ddamcaniaethau, modelau ac arferion rheoli ansawdd
- sut i nodi ffactorau hanfodol sy’n effeithio ar berfformiad y gadwyn gyflenwi
- y mathau o faterion gyda’r gadwyn gyflenwi sydd angen gweithredu ar unwaith a sut i’w nodi
- sut i gyflwyno canlyniadau’r dadansoddiad i gydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol ar y fformat sy’n ofynnol gan y sefydliad
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydweithwyr a Rhanddeiliaid allweddol: parhaol, dros dro, staff asiantaeth, mewnol ac allanol
Cadwyn gyflenwi: caffael, prynu a chyflenwi, logisteg, trafnidiaeth a rheoli gweithrediadau, o fewn a rhwng ffiniau rhyngwladol
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
SFLSCM87
Galwedigaethau Perthnasol
Warws a Dosbarthu, Rheolwyr Dosbarthu, Storio a Manwerthu, Manwerthu a chyfanwerthu , Gweithwyr Cyswllt Proffesiynol Trafnidiaeth
Cod SOC
1243
Geiriau Allweddol
dadansoddi; gwybodaeth; cadwyn gyflenwi; perfformiad